Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 21ain Hydref, 2021 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk with Remote Attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Select Committee Public Open Forum ~ Guidance

 

Our Select Committee meetings are live streamed and a link to the live stream will be available on the meeting page of the Monmouthshire County Council website

 

If you would like to share your thoughts on any proposals being discussed by Select Committees, you can submit your representation via this form

 

·      Please share your views by uploading a video or audio file (maximum of 4 minutes) or;

·      Please submit a written representation (via Microsoft Word, maximum of 500 words)

 

You will need to register for a My Monmouthshire account in order to submit the representation or use your log in, if you have registered previously.

 

The deadline for submitting representations to the Council is 5pm three clear working days in advance of the meeting.

 

If representations received exceed 30 minutes, a selection of these based on theme will be shared at the Select Committee meeting.  All representations received will be made available to councillors prior to the meeting.


If you would like to suggest future topics for scrutiny by one of our Select Committees, please do so by emailing
Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gynigion gan y cyhoedd.

 

3.

Cyflogaeth a Sgiliau – Craffu’r cynnydd sydd wedi ei wneud gan y rhaglenni cyflogaeth, sgiliau a phrentisiaethau. pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hannah Jones, Gareth James, Stephen Cooper a William Austin. Cafodd cwestiynau’r aelodau eu hateb gan Hannah Jones gyda Stephen Cooper a Cath Fallon.

Her:

Beth yw’r gwahaniaeth yn nifer y prentisiaid y sonnir amdanynt?

Sonnir am 168. Mae hyn yn staff presennol sy’n dymuno uwchsgilio: caiff unrhyw un sy’n dilyn cymhwyster Lefel 2-4 neu NVQ ei ystyried yn brentis hefyd.

Cyllid yw’r eliffant yn yr ystafell. Ar gyfer y prosiectau a amlinellir, daw £2.2m o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, gyda £1.1m o hynny ar gyfer cynllun Infuse. Ar gyfer y cynlluniau eraill, lle ydych chi’n disgwyl sicrhau cyllid ar gyfer y diffyg hwnnw?

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau eraill Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu model cydweithio a gynlluniwyd ar y cyd ar gyfer cyflogaeth a sgiliau y dyfodol – bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd ac effeithiolrwydd cost seiliedig ar werthoedd i ni. Mae gweithdai yr wythnos hon i edrych ar y model. Ond mae cyllid yn bryder – mae goblygiad ariannol mawr i’r awdurdod ac rydym eisiau lleihau hynny. Rydym yn edrych ar ddatrysiadau lleol a rhanbarthol, a byddwn yn paratoi cynigion mwy manwl ar gyfer y Cabinet. Nid ydym wedi clywed am y gronfa adnewyddu cymunedol, sy’n anffodus.

Mae cyfrif y cynlluniau gyda’i gilydd yn rhoi tua £1m. A ddaw hynny gan Lywodraeth Cymru? Faint fydd Cyngor Sir Fynwy yn ei gyfrannu?

Derbyniwn tua £327k o gyllid grant bob blwyddyn ar gyfer Ysbrydolii i Gyflawni, Ysbrydoli i Weithio a phrosiectau Sgiliau Gwaith. Cyllidwn y £187k arall o gostau cyflenwi o’n cyllideb graidd, gan fynd â’r rhan fwyaf o’n cyfanswm o £199k o gyllid craidd.

Os na ddaw unrhyw arian o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, fyddwch chi’n edrych am gynnydd sylweddol gan Gyngor Sir Fynwy i gadw’r cynlluniau hyn i fynd?

Rydym yn edrych ar raglenni olynol ond yn anffodus yn dal i aros manylion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.

Mae Eitem 3.2 ‘Camau Nesaf’ yn sôn fod Torfaen yn arwain ar bapur cyflogadwyedd ar gyfer 10 awdurdod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Sut y gall ein llais ni gael ei glywed, fel cyngor gwledig a rywfaint yn bellennig, o gymharu gyda’r lleill?

Casnewydd yw ein hawdurdod arweiniol ar y cynlluniau presennol. Cafodd ein lleisiau eu clywed wrth ddatblygu’r model ar gyfer Sir Fynwy. Buom yn cwrdd am 18 mis fel 10 awdurdod, yn datblygu’r model ac yn edrych ar wybodaeth leol. Wrth symud ymlaen, credwn ein bod mewn sefyllfa gryfach i ostwng risg. Mae contractwyr mwy yn dod i’r awdurdod lleol, yn gweithio ar draws y Deyrnas Unedig ac ar draws Cymru – rydym eisiau bod yn y lle hwnnw. Mae gennym ddull 10-awdurdod at gyflogadwyedd a sgiliau, gyda’r cynllun cyflenwi lleol tu ôl iddo, sydd yn hyblyg ac sy’n medru addasu i anghenion ein sir.

Yng nghyswllt Cyfnod Allweddol 2 Ysbrydoli i Gyflawni a phlant a gefnogir, a fedrwch esbonio’r nifer isel yng Nghas-gwent?

Mae gennym system data lle cofnodwn bresenoldeb, ymddygiad a llesiant ar Gyfnod Allweddol 2. Mae un o’r meini prawf yn dynodi  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Craffu’r adroddiad monitro blynyddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. pdf icon PDF 387 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rachel Lewis a Craig O’Connor yr adroddiad. Atebodd Craig O’Connor gwestiynau’r aelodau.

Her:

Ydyn ni ddim, i raddau helaeth, yn dibynnu ar ddatblygwyr os caiff y targedau hyn eu cyrraedd ai peidio? Onid yw hyn yn wledd symudol, gan fod y ffigurau yn newid o wythnos i wythnos?

Fel cyngor, nid yw popeth yn ein dwylo ni o fewn y diwydiant adeiladu. Yr hyn y gallwn wneud yw cael Cynllun Datblygu Lleol rhagweithiol sy’n dyrannu digon o dir a bod digon o gyfle i ddatblygwyr ddod ymlaen – yn breswyl ac yn economaidd. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol presennol wedi dangos fod gan caniatâd cynllunio gan 6 o’r 7 safle strategol felly rydym wedi creu’r cyfle hwnnw fel cyngor. Ac mae cais cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer y seithfed, Vinegar Hill. Dros y cyfnod cynllunio hwn rydym wedi cyhoeddi 4,378 caniatâd cynllunio, yn erbyn targed o 4,500 – felly rydym yn gwneud yn wirioneddol dda.

Mae ansawdd yr Afon Gwy a ffosffadau yn bryder mawr. Mae’n broblem enfawr i’w datrys – a yw hynny’n wirioneddol bosibl yn amserlen y Cynllun Datblygu Lleol nesaf?

Ydi, mae problem ffosffadau yn un sylweddol. Mae’n broblem genedlaethol. Rydym yn eistedd ar fwrdd Cymru gyfan gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a D?r Cymru i geisio canfod ffyrdd y gall datblygiadau fynd rhagddynt tra caiff ansawdd d?r ei wella. Mae angen rhaglen gyllido fanwl ar gyfer y system ddraeniad i alluogi dileu ffosffadau yn ein aneddiadau mwyaf cynaliadwy. Ond mae hefyd angen i ni edrych ar ddatrysiadau naturiol gyda buddion lluosog. Mae’n her enfawr, ond rydym yn gweithio’n galed iawn arni. Mae angen gwella seilwaith draeniad yn y Fenni a Nhrefynwy, yn neilltuol.

Ydych chi’n gweithio gyda’r awdurdodau yn Lloegr hefyd yng nghyswllt yr Afon Gwy?

Ydyn, rydyn ni hefyd yn aelodau ar fwrdd yn ymwneud â’r Afon Gwy, gyda thrafodaethau traws-ffin.

Pa mor realistig yw’r tafluniad datblygiad tai ar dudalen 41 yr Adroddiad Monitro Blynyddol yng nghyswllt y broblem ffosffadau?

Caiff ei tafluniad ei gefnogi gan ganiatâd cynllunio presennol hefyd, gan fod gan rai o’r safleoedd hynny ganiatâd cynllunio yn barod. Caiff y broblem ffosffadau ei gosod ar bwynt mewn amser o ddechrau’r flwyddyn. Felly, os oes gan ddatblygiad ganiatâd cynllunio cyn hynny, gall barhau – mae’r broblem ffosffadau yn effeithio ar ddatblygiadau na chafodd ganiatâd eto. Rydym yn hyderus y gall y tafluniad barhau, yn seiliedig ar geisiadau a ganiatawyd eisoes, a’r rhai sydd tu allan i’r ardal dan sylw, tebyg i Vinegar Hill.

A yw ffosffadau yn broblem i ogledd y sir neu’n broblem i ogledd yr M4?

Mae ffosffadau yn effeithio ar ddalgylchoedd afonydd, felly nid yw’n effeithio ar Sir Fynwy i gyd ac nid yw’n dilyn llwybr yr M4. Mae map dan adran Ansawdd D?r y wefan sy’n dangos yr ardaloedd. Nid yw Glannau Hafren a Chas-gwent, er enghraifft, yn yr ardal ffosffadau honno.

A wyddom pa ganran sydd gan y bwrdd d?r o gyfleusterau dileu ffosffadau?

Galluedd dileu cyfyngedig iawn sydd gennym yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Perfformiad Cynllunio Blynyddol – Craffu’r adroddiad perfformiad blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. pdf icon PDF 658 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Philip Thomas yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Craig O’Connor.

Her:

Mae paragraff 6.1 ar dudalen 5 yn sôn am 8 wythnos (56 diwrnod) i benderfynu cais, ond mae paragraff 6.7 yn dweud bod yr amser cyfartalog i benderfynu ar geisiadau wedi cynyddu i 92 diwrnod. Pam y gwahaniaeth?

Yr amser pen-i-ben ar gyfer pob cais yw 92 diwrnod. Unwaith y mae cais yn cyrraedd 8 wythnos, byddwn yn cytuno ar estyniad gyda’r datblygydd.

Yng nghyswllt gorfodaeth, mae 297 cwyn ond dim ond 14 cam gweithredu. A oes rhywbeth arall yn digwydd? A oes posibilrwydd addysgu’r achwynwyr? Faint o waith mae’n ei olygu?

Mae llawer o waith ond mae faint yn amrywio o g?yn i g?yn, a hefyd y raddfa. Caiff y cyfan eu hymchwilio. Caiff rhai eu cau yn gyflym tra gall eraill gymryd misoedd lawer, yn aml oherwydd nad oedd rhywun wedi sylwi fod angen caniatâd i’w gweithredu. Rydym wedi cynnal hyfforddiant yn flaenorol gyda chynghorau cymuned fel eu bod yn deall terfynau’r hyn y gallwn ei wneud, a phan y mae’n briodol i gwyno. Bydd angen diweddaru hyfforddiant ar gyfer y garfan newydd o gynghorwyr yn dilyn yr etholiadau y flwyddyn nesaf.

Yng nghyswllt camau gweithredu ar gyfer 2021-22, mae gennym ddau adeilad mewn risg ym Mrynbuga sef porthdy y Priordy a’r hen floc stablau, a hen adeilad y cyngor wrth ymyl y King’s Head. A all y rhain, yn arbennig y porthdy, gael eu cyfarch fel mater o frys?

Gallant, byddwn yn cadw llygad agos arnynt.

Beth yw’r amserlen ar gyfer y prosiect coeden ddigidol?

Rydym yn edrych ar hyn o bryd ar sut i symud ymlaen gyda’r darn hwn o waith. Mae angen digideiddio llawer o wybodaeth a’i rhoi ar y system. Gobeithiwn ddechrau yn y flwyddyn newydd ond mae pa mor hir y bydd yn ei gymryd yn dal i gael ei drafod.

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae’r pwyllgor yn argymhell bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

6.

Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. pdf icon PDF 497 KB

Cofnodion:

Nodi’r cyfarfod arbennig ar 8 Tachwedd ar bwnc y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

7.

Blaengynllun Gwaith y Cyngor a’r Cabinet pdf icon PDF 183 KB

8.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

9.

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu, dyddiedig 7fed Medi 2021. pdf icon PDF 460 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion.

 

10.

Cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu, dyddiedig 16eg Medi 2021. pdf icon PDF 28 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion.

 

11.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf