Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
Nodi penodiad Cadeirydd y Pwyllgor Dethol.
Cofnodion:
Nodwydpenodiad Y Cynghorydd Sir P. Pavia fel Cadeirydd y
Pwyllgor Dethol Economi a
Datblygu.
|
2. |
Ethol Is-gadeirydd.
Cofnodion:
Penodasom Y
Cynghorydd Sir D. Blakebrough
fel Is-gadeirydd y Pwyllgor
Dethol Economi a Datblygu.
|
3. |
Datganiadau o Fuddiant
Cofnodion:
Datganodd Y
Cynghorydd Sir A. Davies fuddiant
nad yw’n rhagfarnu
yn unol
â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed eitem 9
ar yr
agenda – Monitro Datganiad Alldro
Refeniw a Chyfalaf 2016/17, am ei
fod yn
llywodraethwr Ysgol Gynradd Castle
Park, Cil-y-coed.
Datganodd Y
Cynghorydd Sir D. Dovey fuddiant
nad yw’n rhagfarnu
yn unol
â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed eitem 9
ar yr
agenda – Monitro Datganiad Alldro
Refeniw a Chyfalaf 2016/17, am ei
fod yn
llywodraethwr Ysgol Cas-gwent.
Datganodd Y
Cynghorydd Sir P. Pavia fuddiant
nad yw’n rhagfarnu
yn unol
â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed eitem 9
ar yr
agenda – Monitro Datganiad Alldro
Refeniw a Chyfalaf 2016/17, am ei
fod yn
llywodraethwr Ysgol Gynradd
Eglwys Babyddol y Santes Fair,
Cil-y-coed.
Datganodd Y
Cynghorydd B. Strong fuddiant nad yw’n
rhagfarnu yn unol â Chod
Ymddygiad yr Aelodau parthed eitem 9
ar yr
agenda – Monitro Datganiad Alldro
Refeniw a Chyfalaf 2016/17, am ei
fod yn
llywodraethwr ysgol.
|
4. |
Fforwm Agored i'r Cyhoedd.
Cofnodion:
Ni
chodwyd unrhyw faterion.
|
5. |
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 271 KB
Cofnodion:
Cadarnhawydcofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Dethol Economi a Datblygu
dyddiedig 6ed Ebrill 2017 ac fe’u llofnodwyd
gan y Cadeirydd.
|
6. |
Cyflwyniad ar gyfer Trosolwg Menter.
Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor Dethol gyflwyniad lle darparwyd trosolwg o
weithgareddau’r Gyfarwyddiaeth Fenter.
Craffu
Aelodau :
-
Swyddi sgiliau uchel mewn gweithgynhyrchu -
Cydnabuwyd bod angen i’r Gyfarwyddiaeth wneud mwy i annog
cwmnïau gweithgynhyrchu sgiliau uchel i sefydlu yn Sir Fynwy.
Yn ne-ddwyrain y sir, gyda’r gostyngiad yn nhollau Pont
Hafren, derbynnir mwy o ymholiadau yn gofyn am fwy o lefydd
diwydiannol yn y rhan hon o’r Sir. Mae’r Awdurdod ar
hyn o bryd yn alinio’i strategaeth fuddsoddi gyda’r
gwaith a gyflawnir parthed y Fargen Ddinesig gyda’r bwriad o
dderbyn yr effaith fwyaf o hyn.
-
Mae oddeutu 4300 o ficrofusnesau wedi’u lleoli
yn y Sir sy’n tueddu i gyflogi
llai na 19 cyflogai i bob busnes. Dan feini prawf cyfredol
cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, nid yw’r busnesau hyn yn
gallu derbyn grantiau ond gyda Brexit, bydd y Cronfeydd Strwythurol
Ewropeaidd yn gwasgaru a gobeithir y cânt eu disodli gan
rywbeth mwy ffafriol i Sir Fynwy.
-
Mae cysylltedd band eang yn fater sydd angen mynd
i’r afael ag ef yn Sir Fynwy a
bydd yn gymorth i fusnesau bach yn ogystal.
-
Cynhyrchir y Cynllun Gweithredu Amaeth-Ddinesig ym
Medi neu Hydref 2017 gyda’r bwriad o edrych ar ffyrdd o ddenu
cyllid ychwanegol i ardaloedd allweddol.
-
Mae 20% o’r boblogaeth yn defnyddio
cyfleusterau hamdden. Mae cyfle aruthrol o fewn Sir Fynwy i
ymgorffori ac uno gwasanaethau gyda’i gilydd gyda’r
bwriad o gadw’n heini. Mae gweithio gyda phartneriaid
allweddol yn hanfodol i ddarparu darpariaeth hamdden briodol ac
annog pob dinesydd i gymryd rhan mewn ystod amrywiol weithgareddau
mewn ffordd hwylus a pherthnasol er mwyn cynnal a gwella
ffitrwydd.
-
Mae busnesau wedi defnyddio Hilston Park ar gyfer
digwyddiadau hyfforddiant corfforaethol, Mae angen i’r
Awdurdod fwyafu’i asedau i ddatblygu ymhellach y math hwn o
gyfle.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd mewn perthynas
â busnesau newydd yn Ne-ddwyrain Cymru, nodwyd yr edrychir ar
astudiaeth benodol mewn perthynas â De-ddwyrain Sir Fynwy, yn
enwedig yn nhermau ardaloedd sector twf arbenigol. Cynigir
gwasanaethau priodol i gwmnïau sy’n edrych am adleoli i
Sir Fynwy, a chefnogaeth un i un yn aml
yw’r hyn sydd ei angen ar y cwmnïau hyn. Bydd strategaeth mewnfuddsoddiad yr Awdurdod a
chynnig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gymorth yn natblygiad y
Sir. Mae gan yr Awdurdod wefan benodol i hyrwyddo datblygiad Sir
Fynwy www.monmouthshire.biz <http://www.monmouthshire.biz>.
Parthed sgiliau, mae Swyddogion yn
gweithio i ddylanwadu ar gyfleoedd. Cymerir datblygu menter
ieuenctid ac entrepreneuriaeth ieuenctid o ddifrif. Fodd bynnag,
ymgymerir â hyn o fewn capasiti a chyllideb i gymryd rhagddo
ddatblygiad busnes y Sir.
Gallai’r Awdurdod gael effaith fwy
ar ddatblygiad busnes â mwy o adnoddau yn eu lle.
-
Mae fframweithiau rhanbarthol a chenedlaethol yn
bodoli lle cynhelir nifer o gyfarfodydd a digwyddiadau dal i fyny
ar hyd y flwyddyn yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran Llywodraeth Cymru
a phartneriaid. Felly, mae strwythur dda
iawn yn ei lle i gyflenwi’r wybodaeth ddiweddaraf. Yn fewnol,
mae gan y Gyfarwyddiaeth gyfarfodydd ei
Thîm Rheoli Adrannol, ynghyd â chael ei chynlluniau
gwasanaeth. Mae’r Byrddau gwasanaeth cyhoeddus a’r
partneriaethau’n cynhyrchu deilliannau a chanlyniadau da ac
maent ...
view the full Cofnodion text for item 6.
|
7. |
Menter Ieuenctid – Rhaglenni Cronfa Strwythurol Ewropeaidd (CSE) – Estyniad - INSPIRE2WORK PDF 389 KB
Cofnodion:
Cyd-destun:
Yndilyn cymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer gweithredu
rhaglen Inspire2Work (I2W) ym Mawrth 2016,
mae
Menter Ieuenctid yn
gofyn mewn
egwyddor am gefnogaeth i arian
cyfatebol ychwanegol o gronfeydd
wrth gefn
yr Awdurdod. Bydd
yr arian hwn
yn galluogi
cyflenwad ehangach o’r
rhaglen I2W bresennol sy’n
darparu cefnogaeth wedi 16,
ymyrraeth a chyfleoedd cyflogaeth
gan ddefnyddio arian y
Gronfa Strwythurol Ewropeaidd
(CSE).
MaterionAllweddol:
-
Cymeradwywyd
y rhaglen I2W
gyfredol ar
gyfer pobl
16-18 oed gan y Cabinet ym
Mawrth 2016 am dair blynedd
ar gyfanswm
cost y prosiect o £381,601 a
rennir rhwng 55% CSE o £171,720 ac arian cyfatebol
Cyngor Sir Fynwy o £209,881.
-
Yndilyn y gymeradwyaeth derfynol
ohiriedig o’r
rhaglen yn
Chwefror 2017, mae un o bartneriaid
gwreiddiol y prosiect, Cartrefi
Melin, wedi
tynnu nôl o’r
prosiect. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r Awdurdod
estyn ei
raglen o’r ddarpariaeth
bresennol y tu hwnt i bobl 16-18 oed i 16-24
oed.
-
Mae Aelodau’n
flaenorol wedi cael eu gwneud yn ymwybodol bod
Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Fframwaith
Ymgysylltu ag Ieuenctid a Datblygiad 2013, sy’n darparu
model cyflenwi yn canoli ar anghenion
pobl ifanc
gan ddynodi
chwe phrif
faes ar
gyfer gwireddu gwell
canlyniadau i bobl ifanc.
Gwireddir egwyddorion y fframwaith yn y
rhaglen I2W ac fe’u dylunnir i
sicrhau gwerth ychwanegol
tra adlewyrchant ar
yr un
pryd anghenion a dyheadau
pobl ifanc
Sir Fynwy a Chynllun Integredig
Sengl yr
Awdurdod.
CraffuAelodau:
-
Mae oddeutu 50 o
bobl ifanc
16 – 18 oed Heb Fod mewn Addysg,
Cyflogaeth neu Hyfforddiant
(NEET). Fodd bynnag, gall pobl
ifanc ddod
mewn ac allan o hyn fel meant
yn datblygu.
-
Mae 40 o bobl
ifanc 18 – 24 oed ar hyn o bryd yn hawlio Lwfans Ceisio
Gwaith.
-
Caiff
data eu monitro’n barhaus
gan mai’r rhain
yw’r bobl ifanc sydd fwyaf anodd eu cyrraedd. Mae angen
tudalennau pwrpasol o gefnogaeth
h.y. gallai
fod angen
ymyrraeth, bach neu fawr, yn dibynnu ar anghenion yr
unigolyn.
-
Cynhelirtrafodaethau gyda’r awdurdod
arweiniol, Cyngor Dinas
Casnewydd, ynghylch gosod
targedau,
-
Mewnymateb i gwestiwn ynghylch
cynlluniau tebyg a gafodd
eu gweithredu, nodwyd bod
tri chontract wedi cael eu rhedeg ddwy flynedd
yn ôl
gyda Chanolfan Byd
Gwaith ac maent yn eiddgar i atgyfodi’r gwaith
hwn eto gan
gydlynu gyda chysylltiadau
lleol a’r Ganolfan
Waith.
-
Deilliannau
i dystio i lwyddiant y prosiect -
– 33% Addysg, 22% i mewn i gyflogaeth
a 18% i mewn
i hyfforddiant. Mae deilliannau’n cael eu gwireddu.
-
Ymchwilir
i bob llwybr
ym maes
prentisiaethau gyda chysylltiadau
yn lleol
ynghyd ag yn genedlaethol. Y nod
yw torri
mewn i’r farchnad
busnesau lleol ac rydym
mewn sefyllfa dda i
adeiladu cysylltiadau cyflogadwyedd. Cynhelir
trafodaethau gydag ysgolion
yn y dyfodol.
-
Edrychirhefyd ar ddiddordebau a phrofiadau pobl
ifanc, ynghyd ag anelu at adeiladu
hyder a datgloi’r potensial sydd
mewn pobl
ifanc.
|
8. |
Datganiad All-dro 2016/17 Monitro Refeniw a Chyfalaf. PDF 805 KB
Cofnodion:
Cyd-destun :
Derbyngwybodaeth ar sefyllfa
refeniw alldro’r Awdurdod
ar ddiwedd
cyfnod 4 sy’n cynrychioli’r sefyllfa ariannol
alldro ar
gyfer blwyddyn 2016/17.
Argymhellion
a gynigir
i’r Cabinet:
-
Bod Aelodau’n
ystyried tanwariant refeniw net
alldro o £884,000, gwelliant o £805,000 ar ragfynegiadau
alldro chwarter 3.
-
Bod Aelodau’n
ystyried gwariant cyfalaf
alldro o £40.03 miliwn yn erbyn cyllideb
ddiwygiedig o 40.98 miliwn, wedi
llithriad arfaethedig o £17.5 miliwn, gan
arwain at danwariant net o £951,000.
-
Ystyried
a chymeradwyo
llithriad cyfalaf a argymhellwyd
o £17.5 miliwn, gan dalu sylw i’r
cynlluniau hynny a ddisgrifir
ym mharagraff 3.3.6 o’r adroddiad
lle gwnaed
cais am lithriad gan y
rheolwr gwasanaeth ond
nad yw’n cael
ei argymell
i lithro (£198,000).
-
Mae’nystyried y defnydd o
gronfeydd wrth gefn a
gynigir ym
mharagraff 3.4.1 o’r adroddiad.
-
Mae’ncefnogi rhannu’r
tanwariant cyffredinol i ategu lefelau’r cronfeydd wrth
gefn fel y
disgrifir isod, h.y.:
CronfaBuddsoddi â Blaenoriaeth
£570,000
Dileu swydd
& Chronfa Bensiwn wrth
Gefn
£114,000
Cronfa wrth
Gefn Trawsnewid TG
£100,000
Cronfa Wrth
Gefn Cynhyrchu Derbyniadau
Cyfalaf £100,000
Cyfanswm
£884,000
-
Mae Aelodau’n
nodi y bydd
y lefel isel o gronfeydd
wrth gefn a
glustnodir yn lleihau’n
sylweddol yr hyblygrwydd
sydd gan y
Cyngor I gwrdd â heriau
adnoddau prin yn y dyfodol.
-
Mae Aelodau’n
nodi’r gostyngiad arwyddocaol
yng ngweddill cyffredinol
cyllideb ysgolion ar
ddiwedd 2016/17 ac yn cefnogi’r gwaith
parhaus gydag ysgolion i
sicrhau y cyfarfyddir â gofynion Cynllun
Ariannu Tecach y Cyngor ac y
bydd gweddill cyffredinol
ysgolion yn
dal yn gadarnhaol yn
2017/18.
CraffuAelodau :
-
Mae’rarian wrth gefn a
glustnodir yn aros ar lefelau cyfyngedig wedi
gostwng o £17,536,000
yn 2015/16 i ragfynegiad alldro o
£12,958,000 yn
2017/18.
-
Cynnyddmewn Arbedion 2016/17
– Canfuwyd bod pwysau ychwanegol
ar gyllideb
eisoes dan
bwysau.
Nodwyd bod y Gyfarwyddiaeth Fenter
wedi gwneud
79% o’r arbedion ar
ei hatodlen. Fodd
bynnag, ni wireddwyd yr
holl arbedion yn y
flwyddyn a nodwyd bod yr
arbedion yn
cael eu
cario drosodd i’r
flwyddyn nesaf, gan greu pwysau
ychwanegol ar gyllidebau.
-
Mewnymateb i gwestiwn a godwyd
ynghylch benthyca’r awdurdod lleol
nodwyd na fyddai’r awdurdod
yn gallu
benthyca mwy o arian nag y
caniateid iddo wneud.
Roedd y cyfraddau llog
cyfredol ar
fenthyca’n isel iawn.
-
Mae chwe ysgol wedi arddangos sefyllfa o
ddiffyg ar
ddechrau 2016/17. Drwy gydol y
flwyddyn rhagwelwyd bod y ffigwr
hwn yn
debygol o godi i 12 erbyn
diwedd 2016/17. Ymchwilir gan y
Rheolwr Ariannol wybodaeth
mewn perthynas â’r sefyllfa reoli
hirdymor yn
yr achosion
hyn ac adroddir nôl
i’r Pwyllgor.
Casgliad
y Pwyllgor
- Cefnogi’rargymhellion a gynigiwyd gan y
Cabinet.
|
|
9. |
Rhestr camau gweithredu yn deillio o gyfarfod blaenorol. PDF 73 KB
Cofnodion:
Nodwydrhestr y camau gweithredu’n codi
o’r cyfarfod blaenorol.
|
10. |
Blaenraglen Waith Craffu Economi a Datblygu. PDF 160 KB
Cofnodion:
Hysbysodd y
Rheolwr Craffu’r Pwyllgor
bod angen datblygu blaenraglen
waith y Pwyllgor Dethol a
Chynllun Busnes y Cyngor
a’r Cabinet.
Yngngoleuni’r trafodaethau a gafwyd
yng nghyfarfod heddiw,
cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Rheolwr
Craffu a Swyddog o’r
Gwasanaethau Democrataidd ddrafftio
rhestr o’r pynciau a
godwyd gyda’r bwriad o
drefnu trafodaeth ar y
rhaglen waith yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor Dethol er mwyn blaenoriaethu’r pynciau y byddai’r Pwyllgor
yn hoffi
canolbwyntio arnynt.
Mewnperthynas â’r cyfarfod nesaf,
gofynnwyd i’r Aelodau
ystyried yr
eitemau canlynol:
·
Bu cais am adroddiad i’w
gyflwyno i’r Pwyllgor
ar ddarpariaeth TGCh
mewn ysgolion.
·
AdroddiadEnillion ar
Fuddsoddiad ar gyfer y velothon, os
yw’r adroddiad ar
gael.
Argyfer yn hwyrach yn y
flwyddyn yng nghyfarfod y
Pwyllgor Dethol ar
19eg Hydref 2017,
cyflwynir yr eitemau canlynol i’r
Pwyllgor:
-
Model Rheoli Cyrchfannau
Twristiaeth.
Penderfynasomdderbyn y diweddariad a nodi’i gynnwys.
|
11. |
Trafodaeth am amseriadau cyfarfodydd Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu yn y dyfodol.
Cofnodion:
Penderfynasom y bydd Cyfarfodydd y Pwyllgor
Dethol Economi a Datblygu
yn cael
eu cynnal
am 10.00am.
|