Lleoliad: Remote Microsoft Teams Meeting
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
|
|
Fforwm Agored i’r Cyhoedd. Cofnodion: Nidoedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Jonathan Davies, Dave Loder a Frances O'Brien yr adroddiad ac fe wnaethant ateb cwestiynau’r aelodau. Herio: Doedd dim modd gweithredu rhai o'r arbedion nad ydynt yn rhai Covid oherwydd bod staff wedi symud i rolau Covid. Sut y penderfynwyd ar wariant sy'n gysylltiedig â Covid a gwariant nad yw’n gysylltiedig â Covid? A allem hawlio mwy o grantiau? Mae gwahanu'r hyn a ddiffinnir fel gwariant Covid a gwariant nad yw'n wariant covid yn gymhleth. Mae gennym rai amodau a rheolau gan Lywodraeth Cymru. Rhaid priodoli'r costau a'r colledion incwm hynny'n uniongyrchol i'n hymateb pandemig. Ceir effeithiau anuniongyrchol hefyd: un o'r rhain yw gallu'r gwasanaethau i gyflawni'r arbedion y cyllidebwyd ar eu gwneud yn ystod y flwyddyn ariannol. Lle mae staff ac adnoddau wedi'u dargyfeirio i gymorth rheng flaen, nid ydynt wedi gallu canolbwyntio ar gyflawni'r arbedion hynny. Mae adroddiad Mis 9 yn cael ei lunio nawr: mae gwasanaethau wedi'u cyllidebu ar hyn o bryd i wneud dros £4m o arbedion effeithlonrwydd gwasanaethau; y rhagolwg presennol yw na fydd £732 mil o'r rheini'n cael eu cyflawni. Mae hynny'n bwysau awtomatig ar y gyllideb ar gyfer eleni, ac i'r flwyddyn nesaf. O ran cymorth ychwanegol, rydym yn dilyn i fyny gyda Llywodraeth Cymru lle mae grantiau a chymorth ychwanegol ar gael. Yn ogystal â chymorth busnes, bydd rhai ym meysydd celf a diwylliant. Mae nifer o lwybrau ychwanegol i fynd i lawr er mwyn cefnogi'r costau a'r colledion ychwanegol hynny. Mae'r golled incwm o MonLife yn dod â nifer o heriau. Beth yw'r seilwaith adeiladu cynnar o ran adferiad? Un o'r pethau y mae MonLife yn edrych arno yw ailagor. Mae'r brandio a'r marchnata yn barod fel bod ganddynt gynnyrch cryf pan fyddant yn gallu ailagor. Un anhawster yw agor a chau'n barhaus – weithiau mae'n haws gwybod eich bod yn mynd i fod ar gau, yna pan fyddwch yn ailagor gallwch wneud hynny'n hyderus. Yn ein deialog gydag Ian Saunders, y Prif Swyddog sy'n goruchwylio MonLife, gallwn weld, o ystyried effeithiau Covid ar iechyd a lles pobl, y bydd angen i ni ddarparu'r gwasanaethau hyn yn y tymor hir fel y gall pobl fod yn heini ac yn iach eto. Bydd gwasanaethau hamdden yn chwarae rhan sylfaenol yn yr adferiad hwnnw. Mae MonLife yn hyderus y gall ail-rwymo; dim ond y cyfnod y bydd yr adferiad yn ei gymryd. Dywed rhai y bydd yn cymryd 2 flynedd, ac efallai y bydd cynllun adferiad hir i gael y gwasanaethau hynny'n ôl i'r lle yr oeddent o'r blaen. A fu trafodaethau cychwynnol gyda'r Bwrdd Iechyd i fapio darlun o'r cymorth y bydd ei angen ar ôl Covid? Ydyw, mae'n bwysig ystyried y rôl y gallwn ei darparu, boed hynny'n hwyluso drwy ein rhwydwaith cymorth cymunedol neu wasanaethau MonLife. Mae tîm MonLife wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r gwasanaethau i blant, fel y mae ein cydweithwyr PPI yn ymwneud â'r rôl y gall addysg awyr agored ei chwarae yn y dyfodol i hwyluso dysgu a darpariaeth amgen. Felly mae llawer o gyfleoedd ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2021/22 PDF 1 MB Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i’r papurau ar gyfer yr eitem hon – ar gael fel rhan o Agenda’r Cabinet ar gyfer 20 Ionawr 2021.
https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4793&Ver=4
Cofnodion: Jonathan Davies a Dave Loder a draddododd y cyflwyniad ac atebodd gwestiynau'r aelodau, gyda Frances O'Brien. Cyflwynodd Jonathan Davies a Dave Loder yr adroddiad ac fe wnaethant ateb cwestiynau’r aelodau, gyda Frances O'Brien. Herio: O ystyried y drafodaeth flaenorol am rewi cyflogau a darparu gwasanaethau, a phwysau'r flwyddyn nesaf, a yw'n realistig dweud ein bod yn mynd i barhau i ddarparu ein cyfres lawn o wasanaethau? Mae hwnnw'n gwestiwn dilys oherwydd bydd yn rhaid i ni ystyried a fydd rhai o'r gwasanaethau'n gynaliadwy yn y tymor hir, neu a ellir eu darparu mewn ffordd wahanol. Bydd angen i ni barhau i'w hadolygu dros y cynllun a'r strategaeth ariannol tymor canolig. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i beidio â gorfod cau neu newid unrhyw wasanaethau'n sylweddol, ond mae'n rhaid i ni fonitro'r sefyllfa'n barhaus a blaenoriaethu, o ran pa wasanaethau anstatudol sydd yno y byddem yn ceisio eu haddasu a'u newid. Mae'r rheini'n ystyriaethau anodd iawn i'w gwneud. Un o'r pwysau cost nas cyllidebwyd ar ei gyfer yw ystyriaethau buddsoddi MonLife. A allwn gael rhagor o fanylion am hyn? Nid oes gennym wybodaeth fanwl ar gyfer y cyfarfod hwn. Mae'r tîm yn ystyried a ddylid gohirio rhai o'r buddsoddiadau hynny ar gyfer y dyfodol agos tra ein bod yn deall beth yw sefyllfa adfer Covid. Roedd y sleid gyflwyno yn ymwneud â'r ymrwymiadau cyfalaf wrth symud ymlaen, a'r pwysau a'r buddsoddiadau hynny'n eistedd y tu allan i'r gyllideb bresennol. Mae rhestr o fuddsoddiadau posibl MonLife y byddent yn ceisio'u gwneud dros y tymor canolig, sydd ar gael yn y pecyn o bapurau a aeth i'r Cabinet ac sy'n gysylltiedig â'r agenda heddiw. Mae setliad Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy hael nag erioed eleni. Beth yw’r rhesymau dros hyn? A oes gwersi i'w dysgu gan gynghorau eraill? Mae'r setliad ei hun yn cynnwys cyfrifiad eithaf cymhleth o amgylch llawer o ffactorau, y mae rhai ohonynt yn cael effeithiau uwch nag eraill. Mae un neu ddau o'r dangosyddion lle'r ydym wedi elwa y tro hwn yn ymwneud â phoblogaeth a 'chyfartalu adnoddau': mae hyn yn edrych ar allu awdurdodau i godi eu cyllid o'r dreth gyngor, ac yn cymhwyso cymhareb i addasu ar gyfer hynny ar draws awdurdodau Cymru. Mae'n anodd iawn esbonio. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio nawr i wneud y dangosydd hwnnw'n llawer cliriach i awdurdodau. Mae wedi bod yn ffactor mawr y tro hwn; mae'n debyg bod y rhesymau dros hynny'n ystadegol, ac nid ydym yn deall y darlun llawn o hynny eto. A yw ein mewnbwn yn effeithio ar y swm rydym yn derbyn? Mae'r mewnbynnau wedi'u gosod ar lefel statudol felly mae'r dychweliadau a wnawn, o ran y dychweliadau ystadegol hynny i Lywodraeth Cymru, yn mynd tuag at gynhyrchu'r data hwnnw iddynt ei roi yn eu model. Nid oes gennym y gallu i newid y rheini ond mae niferoedd amrywiol o'r hyn sy'n cael eu cynnwys: niferoedd disgyblion, amcangyfrifon poblogaeth, data budd-daliadau, a'r galwadau ar ein gwasanaethau a'r poblogaethau yr ydym yn dychwelyd gwybodaeth arnynt. Felly, ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Blaengynllun Gwaith Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu. PDF 518 KB Cofnodion: Mae fformat y noson ar gyfer gweithdai wedi gweithio'n dda iawn. Bydd angen codi caffael yn ddiweddarach eleni, ar ôl cael ei roi i un ochr oherwydd y pandemig. Byddai'n fuddiol clywed oddi wrth Kelly Byrne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Caerdydd, yn ystod y misoedd nesaf. Nodwch fod yr adolygiad maes parcio gyda Chymunedau Cryf wedi'i ohirio dros dro oherwydd pwysau Covid a’r llifogydd, ond byddwn yn ailedrych ar y pwnc pwysig hwn yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Bydd ystyriaeth o lifogydd yn cael ei hychwanegu at y cynllunydd hefyd; awgrymodd y Cynghorydd Becker efallai gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio cyfnewid gwres yn ein hafonydd i ostwng ein hôl troed carbon.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 445 KB Cofnodion: Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion fel cofnod cywir.
|
|
Cyfarfod Nesaf: Dydd Iau 25 Chwefror 2021 am 10.00am. |