Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
|
|
Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 7 – Adroddiad ar gyfer craffu chwarterol. PDF 306 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i’r pwyllgor yn dangos pwysau sylweddol, gyda diffyg digynsail o bron £4m ar y cam hwn – mae hon yn sefyllfa brin a’r her i’r Cyngor. Gwasanaethau Plant yw’r pwysau mwyaf o bell, gyda chynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal a lleoliadau drud iawn, gan arwain at orwariant o £2m. Meysydd eraill i’w nodi yw Gofal Oedolion a Chymdeithasol, a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol. Cafodd cynllun ei baratoi y medrir ei weithredu’n gyflym. Mae gallu’r Cyngor i wneud arbedion o fewn y flwyddyn yn mynd yn anos, mae’r gorwariant o £4m eisoes yn rhoi ystyriaeth i’r arbedion a’r toriadau a wnaed. Cymerir pob mesur disgwyliedig.
Her:
Pa mor hyderus ydyn ni y bydd y gwarged posibl o ddyfarniad Ealing, neu beth ohono, yn dod yn ôl i’r Cyngor?
Mae ystod yn yr adferiad TAW posibl, rydym yn darogan £1.9m yng nghanol yr ystod. Mae’r risgiau yn fwy am elfennau hen iawn yr hawliad: yr hynaf yr hawliad, yr anoddaf yw i’w wneud. Felly mae bob amser rywfaint o risg y bydd Tollau’n derbyn y sefyllfa honno. Mae KPMG wedi ein sicrhau ein bod mewn sefyllfa gref. Os awn tu hwnt i’r £1.9m a gaiff ei ddarogan, defnyddir yr arian er budd y sefyllfa all-dro ar ddiwedd y flwyddyn, gan wrthbwyso unrhyw bwysau ychwanegol a all ddod i’r amlwg yng ngweddill y flwyddyn.
Oherwydd y llithriad o £171k ar gyfer Cartref Gofal Crug, os nad ydym wedi dechrau gwario arian ar y prosiect erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf, a fyddem yn colli’r grant gan Lywodraeth Cymru?
Mae’r llithriad o £171k a nodwyd yn yr adroddiad oherwydd fod y cais cynllunio ar ei ffordd drwyddo a chael ei gymeradwyo. Nid oes unrhyw gonsyrn gwirioneddol, dynodwyd risgiau am gyllid ond mae’r rhain yn ymwneud mwy gyda chodi cartref gofal newydd ar y safle. Mae sgyrsiau yn parhau gyda sicrwydd yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru.
Sut mae’r buddsoddiad ym Mharc Spytty yn mynd, sut mae’n cydbwyso yn erbyn Castle Gate, a beth yw’r goblygiadau ar gyfer T? Menter?
Mae buddsoddiad Parc Spytty wedi ei seilio ar achosion busnes cadarn a bod yn ddarbodus. Mae gan Parc Spytty lefelau defnydd cryf o incwm masnachol wedi dod trwyddo o flaen y darogan llinell sylfaen. Mae Castle Gate yn dal i ysgogi incwm masnachol i wrthbwyso costau benthyca cyffredinol, ond mae ychydig o bethau wedi codi i rwystro cyrraedd y targed. Yn gyffredinol serch hynny, mae’r buddsoddiad yn iawn a’r portffolio yn gytbwys. Mae arallgyfeirio risg ar draws y portffolio – dyma’r rheswm am fuddsoddiad ym Mharc Spytty a Castle Gate. Caiff adferiad incwm yn Castle Gate ei wrthbwyso gan adferiad ym Mharc Spytty. Mae gan Castle Gate ddefnydd 88%, rydym yn gweithio i lenwi’r lleoedd gwag, fydd wedyn yn cynyddu’r incwm.
Bu oedi wrth symud staff i Floc J Neuadd y Sir, un canlyniad yw bod wedi gostwng y gallu i symud T? Menter ymlaen a gwneud arian ohono. Cafodd hyn effaith ar incwm, ond byddwn yn symud ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i’r pwyllgor sy’n amlinellu’r heriau yn y flwyddyn. Yn ôl y disgwyl, mae llawer o bwysau’n mynd trwodd i’r flwyddyn nesaf mewn cyfres o heriau ehangach. Mae cyfanswm y pwysau sy’n cael eu rheoli ac yn cael ei chynnwys bron iawn yn £10m - mae hyn yn sylweddol. Gofal Oedolion a Chymdeithasau yw’r agwedd fwyaf sylweddol o’r pwysau £10m. Mae pwysau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn parhau ac yn tyfu. Mae’r cynnydd mewn cyflogau a phensiynau athrawon yn parhau i’r flwyddyn nesaf. Mae’r 3 maes hyn yn ffurfio mwy na £8m o’r £10m.
Lluniwyd set gadarn o gynigion i ddelio gyda’r pwysau. Y cyfrifoldeb creiddiol yw dod â chynigion cytbwys ym mis Mawrth. Pan aeth cynigion allan er ymgynghoriad ym mis Rhagfyr, nid oeddent yn hollol gytbwys gyda £1m yn dal i fod i’w drefnu. Mae’r ymgynghoriad yn parhau hyd yfory, 31 Ionawr. Cynhaliwyd cyfarfodydd clwstwr, ymgynghoriadau gyda chyllideb, digwyddiadau targed gyda phenaethiaid ysgol, digwyddiadau gyda phobl ifanc ac yn y blaen. Cafwyd cyfarfodydd gyda chynifer o bobl ag sydd modd i gael adborth. Prif bwynt yr adborth yw’r 2% yn ymwneud â’r gyllideb ysgolion. Mae’r Cabinet yn ystyried cynigion eraill. Roedd y cynnydd yn y dreth yn 3.95% i ddechrau ond mae 4.95% yn awr yn cael ei gynnig allan o reidrwydd, oherwydd y pwysau.
Her:
A ymgynghorwyd â phenaethiaid ysgol am yr arbediad o 2% ar gyllidebau ysgolion? A gynhaliwyd asesiad effaith ar y cynnig?
Do, ymgynghorwyd â phenaethiaid ysgolion a chafodd hynny ei fwydo i drafodaethau gyda’r Cabinet. Mae’r sgyrsiau wedi parhau, cafwyd adborth gan rieni ac yn y blaen. Nid oes gan y Cabinet unrhyw awydd i orfodi gostyngiad o 2%, a chaiff pob mesur arall ei ystyried.
A yw rhewi cyfraniadau pensiwn cyflogwr yn effeithio ar bensiynau gweithwyr cyflogedig?
Na, nid yw rhewi cyfraniadau pensiwn cyflogwr yn effeithio ar weithwyr cyflogedig.
A oes manylion cymariaethau gydag awdurdodau eraill yn nhermau cynnydd mewn ffioedd?
Pan mae rheolwyr yn asesu costau’n ymwneud â’u maes gwasanaeth, maent yn edrych ar y farchnad leol, achosion ac effeithiau cynnydd prisiau, sensitifrwydd yn y farchnad ac yn y blaen. Ydynt, maent yn edrych sut maent yn lleoli eu hunain o gymharu ag awdurdodau lleol ond yn yr un modd, byddant hefyd yn edrych sut maent yn eistedd wrth ochr y sector preifat (yn dibynnu ar natur y ffi a’r gost), yn arbennig pan maent mewn cystadleuaeth. Mae’n anodd rhoi manylion ar y pwynt hwn gan y bydd pob deiliad cyllideb a rheolwr yn cymryd asesiad gwahanol yn dibynnu ar natur y ffi a’r gost.
Mae’r dogfennau ariannol yn sôn am incwm ffafriol o dai newydd a gaiff eu cwblhau – yn nhermau’r strategaeth buddsoddi, a ydym wedi ystyried refeniw o werthiant a threth incwm?
Cyflwynwyd cynnig a gwnaed gwaith i asesu dichonolrwydd sefydlu cwmni datblygu – mae’r gwaith hwnnw’n parhau. Mae angen gofal wrth amseru hynny ond gan fod y strategaeth Cynllun Datblygu Lleol ar ei ffordd i’r Cyngor ym mis Mawrth, ond nid dyna ddiwedd y broses, felly o ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 131 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Hydref a’u llofnodi fel cofnod gywir.
|
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. PDF 294 KB Cofnodion: Awgrymodd y Cynghorydd A. Davies y dylid ychwanegu craffu ar y Fargen Ddinesig at y rhaglen a chydnabod nad yw bellach ar y cyd-bwyllgor. Cynigiodd fod y Cyngor yn ystyried newid ymagwedd Cyngor Sir Fynwy at y Fargen Ddinesig. |
|
Cynllunydd Blaenraglen Waith y Cyngor a'r Cabinet. PDF 520 KB Cofnodion: Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau 27 Chwefror. Mae gweithdy ar y Cynllun Datblygu Lleol ar 24 Chwefror.
|
|
Y Cyfarfod Nesaf: Cofnodion: Dydd Iau 27 Chwefror 2020 am 10:00 am..
|