Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
||
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
|
||
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 188 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc dyddiedig 22ain Mehefin 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
||
Adroddiad perfformiad 2016/17. PDF 918 KB Cofnodion: Cyd-destun:
Craffu’r wybodaeth ar berfformiad 2016/17 sydd dan gylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, mae hyn yn cynnwys:
· Adrodd nôl ar ba mor dda y perfformiodd yr Awdurdod yn erbyn yr amcanion a osododd y Cyngor blaenorol ar gyfer 2016/17.
· Gwybodaeth o’r modd y perfformiodd yr Awdurdod yn erbyn ystod o fesurau a osodwyd yn genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a ddefnyddir gan bob Cyngor yng Nghymru.
Materion Allweddol:
Mae gan y Cyngor ar hyn o bryd fframwaith perfformiad ac o’i fewn mae’r Awdurdod yn trosi’i weledigaeth – adeiladu cymunedau cynaliadwy a chadarn – i mewn i weithredu a sicrhau bod pawb yn tynnu yn yr un cyfeiriad i gyflawni canlyniadau real a gweladwy.
Dros y blynyddoedd i ddod mae ffurf y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru’n debygol o newid yn sylweddol dan ddylanwad dau ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth Gymreig, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ynghyd â phwysau ariannol, newidiadau demograffig, newidiadau mewn anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid a newidiadau mewn rheoliadau a pholisi. Mae angen i wasanaethau barhau i feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau, ceisio osgoi problemau cyn iddynt godi a chymryd agwedd fwy cydgysylltiedig.
Mae’r Cyngor yn ddiweddar wedi cwblhau dau asesiad sylweddol o angen o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon. Mae’r wybodaeth hon wedi darparu sail tystiolaeth lawer dyfnach o lesiant yn y Sir ac, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, defnyddiwyd hi i gynhyrchu amcanion a datganiad y Cyngor 2017.
Mae’r gogwydd mewn ffocws yn yr amcanion llesiant yn golygu y bydd angen i weithgareddau ganolbwyntio ar heriau tymor hwy ar lefel gymunedol yn hytrach na rhai o faterion ac allbynnau’r broses fewnol y gellid dod o hyd iddynt weithiau yn ei ragflaenydd, y Cynllun Gwelliant. Wrth ddelio â heriau cymdeithasol mwy cymhleth fe gymer fwy o amser i newid y gellir ei fesur ddigwydd ac yn hwy fyth i allu tystio i’r newidiadau hynny mewn ffordd ystyrlon. Yn y tymor byr fe ddeil cerrig milltir y gellir eu defnyddio i olrhain siwrnai welliant yr Awdurdod. Caiff hon ei chefnogi gan ystod o adroddiadau perfformiad y gall pwyllgor dethol wneud cais amdanynt fel rhan o’i raglen waith ac adolygir strwythur yr adroddiadau perfformiad a dderbyniwyd gan y pwyllgor i adlewyrchu’r pwyslais hwn.
Mae Atodiad 2 o’r adroddiad yn amlinellu’r camau gweithredu a’r mesurau perfformiad a gymeradwywyd gan y Cyngor ym Mai 2016 fel rhan o’r Cynllun Gwelliant. Ynghyd â chael eu cyflwyno i’r pwyllgorau dethol cynhwysir yr amcanion ochr yn ochr â gwerthusiadau pellach o berfformiad yn 2016/17 a gaiff eu hadrodd i’r Cyngor a’u cyhoeddi erbyn mis Hydref 2017. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n ddiweddar ar gynlluniau i ddiddymu Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 sy’n golygu ei bod yn debyg mai hwn fydd y cynllun terfynol a’r adroddiad yn y diwyg hwn.
Mae Atodiad 3 o’r adroddiad yn darparu cerdyn adroddiad ar berfformiad yn 2016/17. Mae hwn yn cyflwyno data o’r fframwaith mesur newydd a gyflwynwyd yn 2016/17 fel rhan ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||
Cofnodion: Penderfynasom benodi’r Cynghorydd Sir M. Groucutt i gynrychioli’r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar Fforwm Cyllideb Ysgolion.
|
||
Adroddiad rhaglen waith. PDF 228 KB Cofnodion: Cyd-destun:
Mae angen ‘agwedd wedi’i chynllunio’ at Raglennu Blaenraglen Craffu er mwyn mwyafu effeithioldeb a gwerth ychwanegol gweithgarwch craffu, gan sicrhau y canolbwyntir ar bynciau o’r flaenoriaeth fwyaf i’r Cyngor a’r rheiny sy’n adlewyrchu’r diddordeb cyhoeddus.
Materion Allweddol:
Mae cyfarfodydd trafod rhaglenni gwaith wedi digwydd rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Dethol a’r prif swyddogion perthnasol ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol a thynnwyd sylw at y pynciau canlynol y gallai fod angen eu craffu.
· Rhaglen Welliant Gwasanaethau Plant ~ maes gweithlu, Llety Pobl Ifanc, Anghenion Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Rhai sy’n Gadael Gofal, Fframwaith Maethu Cenedlaethol.
· Gwasanaeth Integredig Rhanbarthol Awtistiaeth .
· Strategaeth Rhieni Corfforaethol.
· Pwysau Cyllideb o fewn gwasanaethau.
· Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
· Cyflawni gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
· Trafodaeth gyda Fforwm Ieuentid ‘Engage 2 Change’ ar eu blaenoriaethau.
· Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol.
· Cyrhaeddiad Ysgol.
Craffu Aelodau: Dynodwyd y pynciau canlynol gan Aelodau’r Pwyllgor Dethol ar gyfer craffu:
· Diweddariad ar yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus
· Diweddariad ar gynnydd ysgolion.
· Iechyd Meddwl Plant / gwasanaeth cynghori, gordewdra mewn Plant ac anorecsia – Dyma rai o’r pynciau gaiff eu cyflwyno i’r Pwyllgor Dethol drwy gyfrwng yr adroddiad ar Lesiant Plant.
· Gofalwyr Ifanc a’r Cyngor Ieuenctid.
· Gofal a chynllunio amlasiantaethol mewn perthynas â’r gefnogaeth a roddir i ffoaduriaid Syria, yn enwedig i’r plant sydd wedi symud i mewn i Sir Fynwy. Mae’n bosibl ymgymryd â rhyw fath o waith ar y cyd gyda Phwyllgor Dethol Cymunedau Cadarn mewn perthynas â’r mater hwn..
Dynodwyd y pynciau canlynol gan y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc:
Cofnodi Cyffredinol:
· Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - Adolygiad a darpariaeth / Mesur ADY / Parodrwydd a hyfforddiant.
· Ysgolion – dangosyddion ansawdd o fframwaith newydd arolygu / EIB a Monitro Ymyrraeth.
· Perfformiad – canlyniadau ar ddiwedd cyfnodau allweddol / grwpiau / presenoldeb / eithrio.
· Pwysau.
· Adroddiadau Hunanwerthuso (AH) diweddariadau ar bwyntiau cytûn.
· Diweddariadau cynhwysiant – llesiant / agweddau at ddysgu / llais disgybl.
· Nas cynhelir / blynyddoedd Cynnar – darpariaeth / canlyniadau / cynnig gofal plant.
· Categoreiddio Cenedlaethol / canlyniadau Estyn / Cynnydd tuag at fynd i’r afael ag argymhellion.
· Darpariaeth addysg ôl-16 / ymgysylltu a datblygiad.
Diweddariad blynyddol:
· Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA).
· Archwiliad o Ddigonolrwydd Gofal Plant.
· Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.
Seminar Aelodau:
· Fframwaith newydd Estyn.
Ychwanegol:
· Gr?p Cyfeirio Allanol.
Dynodwyd y pynciau canlynol gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant: · Diweddariad ar y Cynllun Gwelliant ar gyfer Gwasanaethau Plant.
|
||
Rhestr o gamau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod blaenorol. PDF 9 KB Cofnodion: Derbyn a nodi rhestr y camau gweithredu a gafodd eu cwblhau yn codi o gyfarfod y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd ar 22ain Mehefin 2017.
|
||
Rhaglen mae plant a phobl ifanc Pwyllgor Dethol ymlaen yn ei waith. PDF 146 KB Cofnodion: Derbyn a nodi blaenraglen waith y Pwyllgor Dethol.
|
||
Cyngor a chabinet busnes-y blaengynllun. PDF 381 KB Cofnodion: Derbyn a nodi Blaenraglen Waith Busnes y Cyngor a’r Cabinet a nodi’i chynnwys.
|
||
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf Thursday 14th September 2017 at 10.00am. Cofnodion: Cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Brynbuga, ar ddydd Iau 14eg Medi 2017 am 10.00am.
|