Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy.
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw faterion sy'n cael eu trafod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gallwch fynychu'r cyfarfod yn bersonol (neu ymuno o bell trwy Microsoft Teams), neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig. (defnyddiwch Microsoft Word, a hyd at 500 gair).
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i aelodau'r pwyllgor cyn y cyfarfod.
Mae faint o amser a roddir i bob aelod o'r cyhoedd i siarad yn ôl disgresiwn Cadeirydd y Pwyllgor. Gofynnwn nad yw'r cyfraniadau yn hwy na 4 munud. Os hoffech fynychu un o'n cyfarfodydd i siarad o dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd yn y cyfarfod, bydd angen i chi roi tri diwrnod gwaith o rybudd drwy gysylltu â GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov Os hoffech awgrymu pynciau yn y dyfodol i'w hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gwnewch hynny drwy e-bostio GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
|
|
Nodi'r Rhestr Weithredu o'r cyfarfod diwethaf. Cofnodion: Nodwyd y Rhestr Weithredu o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2025.
https://youtu.be/dNQTc-ktyxY?si=XRUUYJIa_yBY1K6v&t=2
1. Dyddiadau Cyfarfodydd: Cafodd y dyddiadau eu rhannu gyda’r Cadeirydd a’u cymeradwyo: CAU.
|
|
Diweddaru Rheolau Gweithdrefn Contract Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Gemma Ellis a John Paxton, Ardal (partneriaid caffael) adroddiad yn rhoi diweddariad ar y Rheolau Gweithdrefn Contractau, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestynau.
https://youtu.be/dNQTc-ktyxY?si=BT2yFLphoflNYrjH&t=12
Fel yn argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor:
1. nodi ac ystyried y drafft Reolau Gweithdrefn Contract, a gwnaed sylwadau neu ymholiadau perthnasol yn ystod cyfarfod y Pwyllgor. 2. nodwyd bod y Rheolau Gweithdrefn Contract yn amodol ar gymeradwyaeth ddilynol gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2025.
GWEITHREDU: Hysbysu Arweinydd y Cyngor, er fod y Pwyllgor yn gyffredinol gefnogol o’r ddogfen drafft, fod y Pwyllgor yn codi rhai pwyntiau fel sy’n dilyn:
· Dynododd y Pwyllgor beth tensiwn rhwng sicrhau prynu tryloyw â’r angen i gael proses Gwerth am Arian nad yw’n cyfyngu ystwythder y cyngor yn ormodol; hefyd
· Pryderon am absenoldeb gwerth de minimis yng nghyswllt yr angen am un dyfynbris.
Roedd y Pwyllgor yn anfodlon derbyn y ddogfen fel y mae ar hyn o bryd a gofynnodd am i rai addasiadau gael eu hystyried.
|
|
2024/25 Ch3 - Adroddiad y Trysorlys Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid yr Adroddiad Trysorlys ar gyfer Ch3 2024/25. Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau:
https://youtu.be/dNQTc-ktyxY?si=Y9tdF3yT1jDCBFo6&t=1449
Fel y cynhwysir yn argymhellion yr adroddiad, adolygodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit ganlyniadau’r gweithgareddau rheoli trysorlys a’r perfformiad a sicrhawyd yn chwarter 3 fel rhan o’r cyfrifoldeb a ddirprwywyd iddynt i graffu ar bolisi, strategaeth a gweithgaredd trysorlys ar ran y Cyngor.
|
|
Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth y Trysorlys 2025/26 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd Strategaeth Cyfalaf 2025/26 a’r Adroddiad Strategaeth Trysorlys eu cyflwyno gan y Pennaeth Cyllid. Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau:
https://youtu.be/dNQTc-ktyxY?si=JYcR9L58mnljAgKz&t=2902
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad:
1. Ystyriodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit y ddrafft strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2025/26 fel y’i gwelir yn Atodiad 1 a’i chymeradwyo i’w chylchredeg ymhellach a’i chymeradwyo gan y Cyngor llawn. 2. Ystyriodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y ddrafft strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2025/26 fel y’i gwelir yn Atodiad 2 a’i chymeradwyo i’w chylchredeg ymhellach a’i chymeradwyo gan y Cyngor llawn. Mae hyn yn cynnwys: · Datganiad Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2025/26, a · Strategaethau Buddsoddi a Benthyca 2025/26
3. Nododd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y gofyniad i adolygu gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor ar ran y Cyngor drwy barhau i dderbyn diweddariadau chwarterol ar weithgaredd rheoli trysorlys yn ystod 2025/26 yn unol â gofynion Cod Ymarfer Trysorlys diwygiedig CIPFA.
|
|
Adroddiad Cynnydd Chwarterol Archwilio Mewnol (Ch3) Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr Mewnol Gweithredol yr Adroddiad Cynnydd Chwarterol Archwilio Mewnol ar gyfer Ch3. Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd cwestiynau gan Aelodau:
https://youtu.be/dNQTc-ktyxY?si=PGSWKeCIlDJzsVZP&t=4139
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad: 1. Fe wnaeth y Pwyllgor ystyried a nododd y barnau archwilio a gyhoeddwyd. 2. Nododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed gan yr Adran tuag at gyflawni Cynllun Archwilio Gweithredol 2024/25 a dangosyddion perfformiad yr Adran ar gam 9 mis y flwyddyn ariannol.
|
|
Blaengynllun y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cofnodion: Nodwyd y Blaengynllun Gwaith.
Penderfynwyd canslo’r cyfarfod y bwriedid ei gynnal ar 13 Mawrth 2025.
https://youtu.be/dNQTc-ktyxY?si=re97xmmRRCj4DUQl&t=5139
|
|
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: |
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 13eg Mawrth 2025 1af Mai 2025 am 2.00pm 12fed Mehefin 2025 am 2.00pm 24ain Gorffennaf 2025 am 2.00pm 11eg Medi 2025 am 2.00pm 16eg Hydref 2025 am 2.00pm 27ain Tachwedd 2025 am 2.00pm 15fed Ionawr 2026 am 2.00pm 26ain Chwefror 2026 am 2.00pm 16eg Ebrill 2026 am 2.00pm
|
|
Cofnodion: |
|
Seiberddiogelwch Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Diogelwch Gwybodaeth a Thechnoleg a’r Prif Swyddog Diogelwch gwybodaeth adroddiad ar Seiberddiogelwch. Rhoddwyd sylw i’r pwyntiau canlynol: · Hyfforddiant staff seilwaith · Seiberddiogelwch a chydnerthedd – Rôl yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO). Nododd Aelodau yr adroddiad a’r trefniadau seiber a amlinellwyd ar gyfer Cyngor Sir Fynwy a chadarnhawyd fod ganddynt sicrwydd yn ei le ar gyfer y trefniadau.
|