Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit - Dydd Iau, 17eg Hydref, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni waned unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ar gyfer Fforwm Agored i’r Cyhoedd

 y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn cael eu ffrydio’n fyw a bydd dolen i’r ffrwd fyw ar gael ar dudalen cyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw faterion sy'n cael eu trafod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, gallwch fynychu'r cyfarfod yn bersonol (neu ymuno o bell drwy Microsoft Teams), neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair).

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm, a hynny dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i Aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod.

 

Mae’r amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad yn ddibynnol ar Gadeirydd y Pwyllgor. Gofynnwn i gyfraniadau beidio â bod yn hwy na 4 munud.

 

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad o dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd yn y cyfarfod, bydd angen i chi roi tri diwrnod gwaith o rybudd drwy e-bostio GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov.uk

 

Os hoffech awgrymu pynciau yn y dyfodol i'w hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, e-bostiwch GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol.

3.

Nodi'r Rhestr Weithredu o'r cyfarfod diwethaf. pdf icon PDF 5 KB

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn weddill.

4.

Adroddiad Grantiau Archwilio Cymru pdf icon PDF 779 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru Adroddiad Grantiau Archwilio Cymru. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.

https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=SXD3W3EtvJGaYKBf&t=67

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

5.

Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru pdf icon PDF 818 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru yr Adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol. Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 Ymateb y Cyngor i’r papur.

 

https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=0y4fQhOfxDGZR-XA&t=618

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

6.

Cynllun Archwilio Blynyddol 22.23 Cronfa'r Degwm pdf icon PDF 990 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru Gynllun Archwilio Blynyddol 2023/24.

 

https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=lyNg_rc8s1ySMitP&t=1360

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

7.

Rhaglen Waith Archwilio Cymru: Diweddariad Cynnydd y Cyngor pdf icon PDF 544 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dadansoddwr Perfformiad Adroddiad Diweddaru ar Gynnydd Cyngor Rhaglen Waith Archwilio Cymru. Gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau:

 

https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=Jq_U3t7HynHJf_I_&t=1431

 

 Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, roedd Aelodau'r Pwyllgor wedi:

 

1.     craffu ar ymateb y Cyngor i raglen waith Archwilio Cymru, a cheisio sicrwydd bod cynnydd digonol yn cael ei wneud.

2.     ystyried cyfeirio unrhyw faterion sydd wedi'u cynnwys yn astudiaethau cenedlaethol Archwilio Cymru i bwyllgorau eraill eu hystyried, lle nodwyd bod canfyddiadau sy'n arbennig o berthnasol i'r Cyngor y mae angen craffu arnynt ymhellach. Wrth wneud hynny, penderfynwyd gofyn i’r Pwyllgor Craffu perthnasol adolygu llwyddiant cynlluniau Teithio Llesol a disgwyliadau a dyheadau trigolion lleol.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

8.

Cyflwyniad ar y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang a'r Cod Ymarfer newydd ar gyfer Llywodraethu Archwilio Mewnol yn Llywodraeth Leol y DU

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit wedi derbyn cyflwyniad gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro ar y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd a'r Cod Ymarfer ar gyfer Llywodraethu Archwilio Mewnol yn Llywodraeth Leol y DU. Cafodd Aelodau’r Pwyllgor Llywodraeth y cyfle i ofyn cwestiynau:

https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=Vbh6H-XA9_K0Nocx&t=3170

 

Diolchwyd i'r Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro am y cyflwyniad.

 

9.

Blaengynllun y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 194 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit.

 

https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=w1KySnxTv6cEe3_n&t=4509

 

 

10.

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5ed Medi 2024 fel cofnod cywir.

https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=C4HWSdl4MNR3J0WP&t=4523

 

11.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 28ain Tachwedd 2024 am 2.00pm