Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau wedi eu derbyn gan aelodau o’r cyhoedd. 

 

3.

Nodi’r Ddalen Weithredu o’r cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Rhestr Weithredu o’r cyfarfod blaenorol:

 

1a. Cydweithrediadau a Phartneriaethau Allweddol: Darparodd y Prif Archwilydd Mewnol ddiweddariad bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo, a bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. Crynodeb o'r adroddiad yw bod gennym drefniadau llywodraethu rhesymol ar waith ar gyfer y rhan fwyaf o bartneriaethau. [YN PARHAU]

 

1b. GRhR/Digonolrwydd swyddogaeth archwilio Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: Mae hwn wedi'i ychwanegu at y Cynllun Gwaith i'r Dyfodol. Bydd adroddiadau archwilio gyda graddfeydd anfoddhaol yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit pan fyddant yn cael eu cyhoeddi. [WEDI GAU]

 

2a. Capasiti'r Tîm Cyllid: Darparodd y Pennaeth Cyllid ddiweddariad interim bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i wahanol fodelau tîm gyda golwg ar symud ymlaen i recriwtio. Darperir diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf. [YN PARHAU]

 

2b. Amrywiadau Treth y Cyngor/Gwerth y Farchnad: Bydd y Pennaeth Cyllid yn ymateb i Colin Prosser y tu allan i'r cyfarfod hwn. [WEDI CAU]

 

2c. Dadansoddiad tueddiadau Buddsoddiadau Masnachol: Dywedodd y Pennaeth Cyllid y bydd diweddariad ar gynnydd buddsoddi masnachol ar gael yn y Pwyllgor Buddsoddi nesaf. Wrth symud ymlaen, adroddir ar ddadansoddiad flwyddyn ar ôl blwyddyn i’r Pwyllgor sy’n cymryd drosodd y cyfrifoldeb am fonitro buddsoddiadau masnachol, ac i’r Pwyllgor hwn yn ôl yr angen. Cytunwyd i adrodd ar bob un o'r buddsoddiadau masnachol ar wahân. Yr adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor Buddsoddi oedd 7fed Tachwedd 2022. Cadarnhawyd bod papurau’r cyfarfod hwnnw ar gael i’r holl Aelodau. [YN PARHAU]

 

3. Capasiti'r Tîm Archwilio: Cadarnhawyd na fydd swydd yr Uwch Archwiliwr yn cael ei thynnu o'r strwythur tîm fel rhan o'r arbedion cyllideb arfaethedig. Diolchwyd i'r Pwyllgor am ei gefnogaeth. Bydd recriwtio i'r swydd yn digwydd yn y flwyddyn ariannol newydd. Mae swydd y Rheolwr Archwilio wedi'i phenodi a bydd deiliad newydd y swydd yn dechrau tua diwedd mis Ebrill. Un o dasgau cyntaf y Rheolwr Archwilio fydd sicrhau bod cyflenwad llawn o staff yn y Tîm Archwilio. Os bydd angen unrhyw adnoddau ychwanegol, bydd adnoddau allanol yn cael eu hystyried. [AR GAU]

 

 

4.

Archwilio Cymru: Cynllun Amlinellol 2023/24. pdf icon PDF 293 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddogion Archwilio Cymru y Cynllun Archwilio Amlinellol ar gyfer 2023/24. Wedi cyflwyno'r Cynllun, gwahoddwyd Aelodau'r Pwyllgor i ofyn cwestiynau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gael gweld y llythyr yn darparu amserlenni diwygiedig ar gyfer archwiliadau llywodraeth leol a ffioedd diwygiedig. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd deunyddiau hyfforddi ar gael i gynorthwyo'r Pwyllgor i ddeall gofynion ISA315. Bydd Swyddog Archwilio Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau mewn cyfarfodydd Pwyllgor a rhag-gyfarfodydd ynghylch ISA 315, gyda gwybodaeth wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer Sir Fynwy.

 

Gofynnodd Aelod am yr elfen TG ar gyfer ISA315, yn benodol y ffocws uwch ar gywirdeb data a gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud yn flaenorol gan Archwilio Cymru ac a fyddai hon yn swyddogaeth i’r Tîm Archwilio Mewnol yn y dyfodol. Wrth baratoi ar gyfer y safonau newydd, cadarnhawyd bod Archwilio Cymru yn nodi'r ffocws cynyddol ar TG ac o ganlyniad mae lefel uwch o waith a manylder ar archwiliadau TG.

 

Gwnaeth y Pennaeth Cyllid sylwadau ar effaith y gofynion newydd ar y Tîm Cyllid. Bydd y cyswllt cynyddol â Swyddogion Archwilio Cymru yn cael ei reoli'n ganolog i sicrhau bod gan Archwilio Cymru fynediad digonol at wybodaeth a bydd timau eraill yn cael eu hysbysu o'r angen i ddarparu gwybodaeth. Pwysleisiwyd bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gydag Archwilio Cymru a bod gwaith paratoi a phrofi eisoes ar y gweill. Bydd yr hydref yn heriol wrth i waith cyllidebol ddechrau, ac felly bwriedir cwblhau cyfrifon drafft erbyn diwedd mis Mehefin er mwyn caniatáu i Archwilio Cymru brofi’r prif feysydd. Gobeithio na fydd unrhyw faterion cenedlaethol yn tynnu ar amser y Tîm Cyllid. Bydd cadernid papurau gwaith yn allweddol, a bydd gwelliannau yn lleihau amser cyswllt ag Archwilio Cymru. Bydd dadansoddeg data yn cael ei defnyddio fwyfwy i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd archwilio yn y dyfodol. Mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i weithio'n adeiladol gydag Archwilio Cymru yn ystod y cyfnod archwilio. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw faterion perthnasol.

 

Nodwyd y Cynllun Amlinellol. Mae'r Pwyllgor yn edrych ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd Archwilio Cymru a chynnydd yn erbyn y cynllun.

 

 

5.

Rhaglen Waith Archwilio Cymru: Diweddariad ar Gynnydd y Cyngor pdf icon PDF 582 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dadansoddwr Perfformiad ddiweddariad ar gynnydd y Cyngor yn erbyn Rhaglen Waith Archwilio Cymru. Yn dilyn yr adroddiad, gofynnodd yr Aelodau gwestiynau:

 

Awgrymodd Aelod y dylid ystyried y Strategaeth Pobl a'r Cynllun Rheoli Asedau ar wahân. Eglurodd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu fod y Strategaeth Pobl a'r Cynllun Rheoli Asedau wedi'u cyfuno gan eu bod yn yr un astudiaeth gan Archwilio Cymru a chodwyd nifer o bwyntiau cyffredin. Yn ogystal, mae cyfres o strategaethau galluogi rhan o’r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol. Am y tro, mae lefel uchel o gyffredinedd yn y ddau gynllun ond wrth iddynt ddatblygu, bydd mwy o wahaniaeth. Cytunwyd i wahanu'r strategaethau hyn mewn diweddariadau yn y dyfodol.

 

Gofynnwyd cwestiwn arall sut y caiff gwerth am arian ei asesu'n systematig gan y Cyngor ac Archwilio Cymru gan ddyfynnu enghraifft o rai goleuadau traffig dros dro. Eglurodd y Swyddog fod yna amrywiaeth o ddulliau i sicrhau gwerth am arian gan gynnwys rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, rhestr gyhoeddedig o'r holl wariant dros £500; cynhelir adolygiadau sy'n seiliedig ar risg, a chyflwynir adroddiadau cyllideb rheolaidd i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg. Pan nodir problemau, gellir eu hychwanegu at y gofrestr risg. Roedd yr Aelodau'n ansicr a fyddai Aelodau etholedig neu aelodau'r cyhoedd yn gwybod ble i ddod o hyd i'r rhestr gwariant.

 

Gofynnodd yr Aelodau am fwy o sicrwydd ynghylch asesiad systematig o werth am arian a darparodd y Swyddog wybodaeth am reolau sefydlog contractau. Rhaid i swyddogion sy'n caffael nwyddau a gwasanaethau y tu allan i reolau sefydlog y contract gysylltu â'r Prif Archwilydd Mewnol am eithriad; adroddir rhestr o eithriadau i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit. Mae gwaith lleol Archwilio Cymru yn edrych ar drefniadau’r Cyngor ar gyfer gwerth am arian ac wedi gwneud argymhellion yn Adroddiad ‘Springing Forward’ i sicrhau bod mecanweithiau adrodd a’r modd o fesur cynnydd yn erbyn strategaethau yn galluogi pwyllgorau craffu i asesu gwerth am arian.

 

Gan nodi pryderon bod Aelod wedi gorfod gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth i gasglu gwybodaeth, pwysleisiodd y Swyddog bwysigrwydd cynllun cyhoeddi’r Cyngor a’i gyfrifoldeb i sicrhau bod y wybodaeth yn gyhoeddus ac yn hygyrch. Mae'r Cyngor yn datblygu mwy o ddata agored, ac felly mae'n haws cael gafael arno gan beiriannau chwilio a ddefnyddir yn gyffredin.

 

Gwnaed sylw y byddai'r iaith yn yr adroddiad yn elwa o fod yn fwy cryno a’n cynnwys rhai llinellau amser yn cael ei ystyried ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Bydd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu yn ymateb yn ysgrifenedig i gwestiwn ynghylch menter gymdeithasol (llithriad o bron i ddegawd ledled Cymru).

 

Cyfeiriodd Aelod at ddyletswydd y Cyngor i annog mentrau cymdeithasol a mesur eu heffaith. Cadarnhawyd nad oes cofrestr ond mae darn o waith yn edrych ar y gwahanol bartneriaethau a gwasanaethau ar y cyd lle rydym yn ariannu neu'n galluogi menter gymdeithasol. Gall ymgysylltu fod yn ffurfiol neu'n anffurfiol trwy waith canol tref a chlystyru a'r tîm partneriaeth a datblygu cymunedol.

 

Cyfeiriodd Aelod at enghreifftiau o bartneriaethau gofal cymdeithasol arloesol a yrrir gan y gymuned a  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Cwynion Awdurdod Cyfan Ebrill 2021 – Mawrth 2022. pdf icon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid Adroddiad Cwynion yr Awdurdod Cyfan Ebrill 2021 – Mawrth 2022. Wedi cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

Nododd Aelod fod y siartiau bar yn adlewyrchu tueddiadau 3 blynedd a bod y testun yn dangos tueddiadau 5 mlynedd sy'n llai cadarnhaol. Nodwyd y pwynt hwn ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol. Cytunwyd ei fod yn peri pryder nad oes unrhyw gwynion yn uniongyrchol gan Blant a Phobl Ifanc. Eglurwyd bod Gweithwyr Cymdeithasol yn rhoi gwybod i blant/pobl ifanc y gallant gwyno a bod taflen yn cynnwys iaith sy’n briodol i'w hoedran ar gael. Gall gweithwyr cymdeithasol, athrawon, ffrindiau, rhieni ac ati godi cwynion ar ran plentyn. Yn hanesyddol, ledled Cymru, ychydig o gwynion a geir yn uniongyrchol gan Blant a Phobl Ifanc. Maent yn gyndyn i gymryd rhan mewn proses ffurfiol ac mae'n well ganddynt ofyn am gymorth gan Weithiwr Cymdeithasol, Rhiant, Athro ac ati er mwyn cael datrysiad cyflym. Felly, gellir ymdrin â materion y tu allan i'r weithdrefn Gwyno.

 

Mewn perthynas â chwestiynau ynghylch mynd y tu hwnt i'r amserlenni, eglurwyd mai dim ond gr?p bach o swyddogion ymchwilio allanol sy'n cael eu defnyddio gan Awdurdodau eraill gan arwain at oedi posibl. Yn ogystal, efallai y bydd cymhlethdodau yn gofyn am fwy o ymchwil, cysylltu â'r sawl sy’n cwyno am wybodaeth ychwanegol, cyfweld â staff, archwilio ffeiliau a chofnodion yn ogystal ag amser i lunio'r adroddiad.

 

Dywedodd Aelod y gellid dehongli rhai o'r sylwadau fel cwynion. Holwyd pam fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit oherwydd, er enghraifft, gallai'r Pwyllgor Craffu Pobl ystyried yr adroddiad Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol neu gallai'r Pwyllgor Craffu Lleoedd ystyried yr adroddiad cwynion awdurdod cyfan. Gallai'r Pwyllgor hwn ganolbwyntio ar fframwaith neu ddull gweithredu a dangosyddion perfformiad. Dylid adrodd hefyd ar y mecanweithiau ar gyfer dysgu a gwella. Cytunwyd y byddai'r pwyntiau hyn yn cael eu hystyried gan swyddogion o ran y ffordd orau o fynd i'r afael â hwy.

 

Awgrymodd Aelod gymariaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn a holodd a ddylid cael system bwysoli ar gyfer cwynion yn ôl difrifoldeb y mater. Eglurodd y Swyddog y byddai materion diogelu yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol fel blaenoriaeth. Bydd system bwysoli yn cael ei hystyried ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Nododd Aelod fod y wybodaeth yn flwydd oed, ac felly byddai’n well myfyrio ar wybodaeth fwy diweddar, perthnasol wrth ystyried effeithiolrwydd. Eglurodd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno'n gynharach y flwyddyn nesaf. Eglurwyd bod gan bob cwyn gynllun gweithredu sy'n cael ei rannu gyda rheolwyr er mwyn hwyluso dysgu fel Awdurdod cyfan.

 

Diolchwyd i'r Swyddog am yr adroddiad a nodwyd. Roedd yr adroddiad yn rhoi cipolwg defnyddiol ar brofiad defnyddwyr gwasanaeth ond nid oedd ynddo’i hun yn ddigon i roi sicrwydd i’r Pwyllgor ynghylch effeithiolrwydd prosesau’r awdurdod ar gyfer ymdrin â chwynion a chanmoliaeth. Gofynnwyd i swyddogion fyfyrio'n ofalus ar y sylwadau hyn.

 

 

7.

Crynodeb Archwiliad Blynyddol Archwilio Cymru. pdf icon PDF 162 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddogion Archwilio Cymru y Crynodeb Archwilio Blynyddol. Eglurwyd bod yr adroddiad er gwybodaeth yn unig, yn rhoi crynodeb o'r gwaith ariannol a pherfformiad a gyflawnwyd yn ystod 2022 gan Archwilio Cymru. Mae'r ffeithiau allweddol yn cynnwys cyfeiriad at Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru sy'n darparu data cymharol ledled Cymru. Nid oes yr un o'r 10% o ardaloedd amddifadedd yn Sir Fynwy ond cydnabyddir bod ardaloedd o amddifadedd yn y Sir; mae troednodyn gyda dolen i Asesiad Llesiant Sir Fynwy wedi'i gynnwys.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau na sylwadau.

 

 

8.

Trosolwg o Drefniadau Rheoli Perfformiad. pdf icon PDF 622 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu Drosolwg o Drefniadau Rheoli Perfformiad. Wedi cyflwyno'r adroddiad, gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at hunanwerthuso a holodd sut y gall y Pwyllgor ymgysylltu â'r broses. Eglurwyd y bydd yr hunan arfarniad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021, ac i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg. Mynegodd y Cadeirydd y farn bod gan y Pwyllgor ddiddordeb dilys mewn adolygu'r broses hunanwerthuso arfaethedig yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod lefelau o ragfarn ddiarwybod yn cael eu cydnabod a'u rheoli'n briodol fel bod hyder yn yr allbwn.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu mai ef sy'n gyfrifol am lofnodi'r asesiad.

 

Dywedodd Aelod nad yw adroddiadau cynnydd ar rai cynlluniau busnes gwasanaeth bob amser ar gael ar Yr Hyb.

 

Cyfeiriodd Aelod at gynlluniau busnes gwasanaethau gan nodi na ddylent fod yn ymarferion papur. Mewn ymateb i'r pwynt hwn, cadarnhawyd bod sicrwydd ansawdd wedi helpu i arwain penaethiaid gwasanaeth mewn modd sy'n edrych i'r dyfodol.

 

Dywedodd Aelod y byddai'r cynigion arbedion yn gofyn am newidiadau sylweddol i wasanaethau ac nid yw'n glir sut mae'r cynlluniau busnes gwasanaeth wedi'u diweddaru yn dangos lle mae gwasanaethau wedi'u trawsnewid oherwydd pwysau cyllidebol. Cadarnhaodd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu na fyddai'r cynlluniau busnes gwasanaeth yn dangos manylion sut mae'r arbedion yn newid gwasanaeth na sut y bydd y cynigion arbedion yn cael eu gweithredu. Daw'r manylion i'r amlwg wrth i'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn newydd gael eu datblygu gan ychwanegu y bydd angen llawer mwy o fanylion na chynllun busnes gwasanaeth ar gyfer rhaglenni rheoli newid

 

Gofynnodd Aelod sut y defnyddir gwahanol fathau o ddata i driongli canfyddiadau hunanasesu. Holwyd a yw'r hunanwerthusiad yn cael ei lywio gan drigolion. Ychwanegodd yr Aelod y dylid cael asesiadau effaith clir a defnydd o ddangosyddion proses a dangosyddion dirprwyol lle nad oes modd mesur effaith yn uniongyrchol; byddai fframwaith yn rhoi mwy o hyder yn y dangosyddion perfformiad. Eglurodd y Swyddog fod data defnyddwyr gwasanaeth yn eang ac amrywiol e.e. o Arolwg Cenedlaethol Cymru a ddadansoddir i lefel awdurdod lleol a bydd gwasanaethau unigol yn cynnal eu harolygon cwsmeriaid/cleientiaid gwasanaeth eu hunain i gymharu ag eraill ac olrhain eu cynnydd eu hunain. Cymerwyd penderfyniad rai blynyddoedd yn ôl i beidio â defnyddio unigolion sy’n cynnal arolygon preifat oherwydd y gost. Yn hytrach, defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael ar ddull desg i gynhyrchu'r mewnbwn cychwynnol ar gyfer gweithdai. Defnyddir ystod wahanol o ddangosyddion a chaiff yr holl dystiolaeth ei hystyried a’i thriongli i roi arwydd rhesymol o lefel boddhad defnyddwyr gwasanaethau.

 

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad. Defnyddiodd yr Aelodau’r diweddariad a ddarparwyd i wella eu dealltwriaeth o effeithiolrwydd gweithrediad trefniadau rheoli perfformiad yr Awdurdod a nodi unrhyw feysydd lle teimlent fod angen cymryd camau neu ddarparu gwybodaeth bellach.

 

 

9.

Adolygiad o’r Gofrestr Risgiau Strategol – 6 misol. pdf icon PDF 629 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu yr Adolygiad o'r Gofrestr Risgiau Strategol. Mae hwn yn adroddiad rheolaidd, bob chwe mis. Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau'r Pwyllgor i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y GRhR a nododd fod yna nifer o systemau annibynnol sy'n eistedd y tu mewn i'r Mur Tân a holodd a oes gan yr Awdurdod drosolwg strategol. Cadarnhaodd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu fod y Cyngor yn cadw cofrestr systemau a bod y Pennaeth Digidol yn cyfarfod yn rheolaidd â GRhR i geisio sicrwydd o brofion rheolaidd e.e. i atal ymosodiadau seiber. Gofynnodd yr Aelod am seiberddiogelwch ar gyfer systemau etifeddol, holodd y berthynas â SRS a sut y bydd y Cyngor yn bodloni safonau uwch ISA 315 i fodloni’r gofyniad archwilio. Eglurodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod gennym dîm diogelwch annibynnol ar wahân i'r SRS i atal ymosodiadau seiberddiogelwch ac i ddwyn y GRhR i gyfrif. Ar gyfer trafodaeth yn y dyfodol, bydd gan y Pwyllgor fynediad at y rhaglen archwilio mewnol ar gyfer y GRhR. Mae un elfen o’r trefniadau seiberddiogelwch newydd gael archwiliad sicrwydd llawn. O ran gofynion uwch ISA315, mae’r pwynt wedi’i godi gyda’r arweinydd ymgysylltu yn Archwilio Cymru i drafod disgwyliadau, paratoi a chymryd agwedd ragweithiol.

 

Gan gyfeirio at Risg 4, sy’n dod i ben heddiw, gofynnodd Aelod a fyddai’r risg yn parhau ac a oes cynlluniau i barhau i gefnogi’r risg honno. Cyfeiriodd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu at y tair elfen a rhoddodd ddiweddariad y byddai'r cynnydd dros dro yn y gyfradd milltiroedd yn dod i ben ac mae hyn wedi'i gyfleu i'r staff. Darperir diweddariad ar y ddwy elfen sy'n weddill y tu allan i'r cyfarfod.

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, nododd yr Aelodau'r asesiad ond datganwyd nad oedd y papur ynddo'i hun yn ddigon i roi sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd trefniadau rheoli risg yr Awdurdod a daethant i'r casgliad bod angen mireinio strwythur a chynnwys y papur hwn fel ei fod yn fwy cydnaws â chyfrifoldebau'r Pwyllgor. Ar wahân, mae’r Cadeirydd wedi ysgrifennu at y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu yn nodi cynnig ar gyfer mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiad ymddangosiadol rhwng disgwyliadau’r Pwyllgor a disgwyliadau swyddogion mewn perthynas â’r papurau a gyflwynwyd i’r cyfarfod hwn a chyfarfodydd blaenorol.

 

 

O ran Bwrdd Rhaglen Sir Fynwy, sy’n eistedd o dan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, mae’n meddu ar y dasg o archwilio buddion, a datblygu, cofrestr risg cymunedol sy’n edrych y tu hwnt i’r risgiau strategol sy’n effeithio ar yr awdurdod lleol. Cymeradwywyd y gofrestr risgiau cymunedol a chroesawir diweddariad ar ganlyniadau

 

10.

Gweithredu argymhellion cymeradwyo Archwiliad Mewol pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad ar Weithredu argymhellion Archwilio Mewnol y cytunwyd arnynt. Wedi cyflwyno'r adroddiad, gwahoddwyd yr Aelodau i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yr UDA yn gefnogol ac yn annog rheolwyr gwasanaeth i weithredu'r argymhellion. Dywedodd y Prif Archwiliwr Mewnol fod adborth yr UDA wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae'r adroddiadau wedi'u hanfon yn ôl at pob un DMT gyda neges gref i weithredu'r argymhellion fel y cytunwyd. Argymhellwyd derbyn adroddiad pellach ymhen chwe mis.

 

Dywedwyd bod cynnydd ar gynllun 2022/23 yn debygol o gyflawni 70% o'r cynllun y cytunwyd arno.

 

Gofynnodd Aelod am yr argymhellion a dderbyniwyd gan reolwyr, y rhai a weithredwyd ac a weithredwyd yn rhannol yn cwestiynu lefel boddhad gyda'r gyfradd gweithredu ac a ellid gwneud unrhyw beth i annog gwell gweithrediad o'r argymhellion. Cadarnhawyd y dylid gweithredu'r holl argymhellion. Cânt eu huwchgyfeirio i UDA, gan rannu’r neges gyda phob un DMT a rheolwyr gwasanaeth.

 

Pwysleisiodd y Dirprwy Brif Weithredwr bwysigrwydd gweithredu argymhellion a chyfeiriodd at rywfaint o waith parhaus i gryfhau systemau a darparu trosolwg o'r argymhellion gan y Timau Archwilio Mewnol, rheolwyr llinell a swyddogion cyfrifol.

 

Mewn perthynas â'r Tîm Archwilio Mewnol, cadarnhawyd bod y Cyngor yn archwilio opsiynau ar gyfer y Tîm yn y dyfodol a allai gynnwys cydweithio ehangach a allai gymryd hyd at flwyddyn i'w gweithredu. Gan gyfeirio at swydd y Prif Archwilydd Mewnol, mae’n annhebygol y bydd y trefniant a rennir presennol gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn parhau. Diolchwyd i'r Pwyllgor am ei gefnogaeth i gadw swydd yr Uwch Archwilydd Mewnol. Gwneir ymdrech i benodi i'r swydd hon mor hwylus â phosibl. Hysbyswyd y Pwyllgor am benodiad Jan Firtek i swydd y Rheolwr Archwilio. Mae trafodaethau'n parhau i roi rhai trefniadau dros dro ar waith a allai gynnwys cyfleoedd i weithredu i fyny.

 

Dymunodd y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol yn dda i'r Prif Archwilydd Mewnol yn ei rôl newydd a diolchodd iddo am ei lefel uchel o gefnogaeth i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit a'i wasanaeth i'r Cyngor. Ategodd y Cadeirydd y teimladau ac ymatebodd y Prif Archwilydd Mewnol yn unol â hynny.

 

Yn unol â'r argymhellion, rhoddodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit ystyriaeth i'r adroddiad, nododd unrhyw bryderon ynghylch peidio â gweithredu argymhellion archwilio a, lle bo'n briodol, ystyriodd ofyn am esboniadau pellach gan reolwyr gweithredol ynghylch pam nad yw gweithredu'r camau gweithredu wedi bod mor gynhyrchiol â'r disgwyl.

 

 

11.

Rhaglen waith ac amserlen Chwarter 3 Archwilio Cymru pdf icon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith Chwarter 3 ac Amserlen Archwilio Cymru fel yr oedd ym mis Rhagfyr 2022 gan Swyddogion Archwilio Cymru. Nodwyd y diweddariad.

 

12.

Nodi Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. pdf icon PDF 342 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y Cynllun Gwaith i'r Dyfodol ar ei newydd wedd. Cytunwyd bod angen i'r rhaglen gael ei diweddaru gan y swyddog cyfrifol i egluro'r hyn y bwriedir ei ddwyn ymlaen ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

 

13.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 175 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16eg Chwefror 2023 fel cofnod cywir.

 

 

14.

Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf ar 15 Mehefin 2023.