Defnyddiwch yr opsiynau chwilio islaw ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar a gymerwyd gan gyrff gwneud penderfyniadau y cyngor.
Gallech hefyd edrych ar tudalen penderfyniadau swyddogion i gael penderfyniadau a ddirprwywyd i swyddogion a gymerwyd gan swyddogion y cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/04/2021
Effective from: 14/04/2021
Penderfyniad:
Cytuno i ymrwymo i broses Ymgynghoriad Statudol fel y nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion (dogfen a gynhyrchir yn sgil Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013) i gael sylwadau ymgyngoreion ar sefydlu ysgol pob oed gyda darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion rhwng 4-19 oed yn y Fenni.
Cytuno a chymeradwyo’r drafft Ddogfen Ymgynghori Statudol (atodiad 1) sy’n cynnig sefydlu ysgol pob oed a darpariaeth arbenigol ar safle Ysgol Brenin Harri VIII.
Cytuno i gynnal yr ymgynghoriad yn unol â’r amserlen a gynigir dan atodiad 2.