Mater - penderfyniadau

TEST

02/02/2017 - RMonitro Cyfalaf a Refeniw 2016/17 - Cyfnod 1 Datganiad Rhagolygon Alldro

Mae'r Cabinet yn nodi ystent y rhagolwg o orwariant refeniw yng nghyfnod 1 o £1.37 miliwn.

 

Mae'r Cabinet yn gofyn bod Prif Swyddogion yn darparu gwybodaeth ar sut fydd y sefyllfa o orwario yn cael ei gymryd yn ôl o fewn y gyllideb, gan gynnwys cynlluniau amgen i gyflwyno'r arbedion o £301,000 a fandadwyd nad sy'n gyraeddadwy o fewn y cyfnod monitro nesaf.

 

Mae'r Cabinet yn gofyn bod y Gyfarwyddiaeth yn adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac yn ail-ddyrannu cyllidebau i leihau'r ystent o orfod adrodd am sefyllfaoedd cydadferol cyn yr adroddiad 6 mis.

 

Mae'r Cabinet yn gwerthfawrogi ystent y defnydd o'r cronfeydd wrth gefn arfaethedig ar gyfer ysgolion a'r disgwyliad y bydd 13 ysgol mewn sefyllfa ddiffygiol erbyn diwedd 2016-17.

 

Ystyriodd y Cabinet y monitro cyfalaf sy'n dangos amrywiaeth fechan yn unig o'r gyllideb yn sgil cymeradwyaeth ddiweddar y Cabinet a'r Cyngor ar D? Caerwent.

 

Mae'r Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnydd o dderbynebau cyfalaf yn y flwyddyn arfaethedig a'r potensial i hyn roi pwysau sylweddol ar refeniw pe byddai oedi gyda'r derbynebau a bod rhaid benthyg cyllid dros dro.