Mater - penderfyniadau

Test 9

02/02/2017 - Hydrogen Car Trial

Bod Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi treialu Riversimple Rasa trwy ddarparu lle o fewn man agored cyfredol neu faes parcio cyhoeddus i ddarparu gorsaf ail-lenwi a lle am swyddfa/arddangosfa;

Bod y lle yn cael ei wneud ar gael trwy drwydded i Riversimple am ddim am gyfnod o hyd at ddeuddeg mis gyda'r opsiwn o'i ymestyn am ddeuddeg mis arall (os oes angen);

Bod y safle ei hun (naill ei yn y Fenni neu Drefynwy) a manylion y treial yn cael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Gweithrediadau ar y cyd ag aelod priodol y Cabinet yn dilyn trafodaethau manwl gyda Riversimple yn ymwneud â diogelwch y cerbydau a'r man ail-lenwi;

Bod gwahoddiad yn cael ei anfon at bob aelod i fynychu cyflwyniad ar gar a chysyniad Riversimple Rasa. Y bydd hwn yn cael ei gynnal am 1.00pm cyn y Cyngor ar y 16 Mehefin 2016 (bydd y car ar gael yn Neuadd y Sir Brynbuga i aelodau ei weld);

Y bydd parcio diogel ar gyfer hyd at 20 cerbyd yn cael ei darparu yn nepo'r Rhaglan, os oes angen, ar gyfer y gyrwyr sy'n cymryd rhan yn y treial.