1. Cymeradwyo'r ailstrwythuro arfaethedig sy'n golygu y bydd 1.0 swydd Cynghorydd Cefnogaeth Teuluol cyfwerth ag amser llawn a 0.5 swydd gweithiwr Iaith a Chwarae cyfwerth ag amser llawn yn cael eu dileu o'r strwythur o fis Gorffennaf 2016.
2. Cymeradwyo hyd at £15,000 o daliadau diswyddo cysylltiedig o'r gronfa wrth gefn ar gyfer diswyddiadau a phensiynau pe na fydd staff yn gallu cael eu hail-leoli a bod cyllidebau'r gwasanaeth yn methu talu'r costau hyn.