Mater - penderfyniadau

Test 4

07/02/2025 - PROPOSED HOME TO SCHOOL TRANSPORT POLICY 25-26

Bod y Cabinet wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ynghyd â chynnwys yr adroddiad hwn a'r dogfennau ategol.

 

Gweithredu’r canlynol ym Mholisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol 25-26:

• Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r meini prawf cymhwyster pellter statudol o ddwy filltir ar gyfer dysgwyr oed cynradd sy'n mynychu eu hysgol addas neu ddalgylch agosaf.

• Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r meini prawf cymhwyster pellter statudol o dair milltir ar gyfer dysgwyr oed uwchradd sy'n mynychu eu hysgol addas neu ddalgylch agosaf.

• Ehangu cymhwysiad cyllidebau cludiant personol lle mai dyma'r opsiwn mwyaf manteisiol yn economaidd i'r Cyngor. Byddai’r opsiwn hwn yn cael ei weithredu dim ond os yw’r rhieni/gwarcheidwaid yn cytuno â’r cynnig, a bod ganddynt fodd i gludo eu plentyn/plant yn ddyddiol.

 

Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cymunedau a Lleoedd i ddatblygu a/neu ddiwygio'r Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol ac unrhyw ganllawiau ategol i adlewyrchu penderfyniad y Cabinet.