DATRYSWYD:
Yn amodol ar ymgynghoriad, mae'r cyngor
Yn rhesymoli nifer yr ardaloedd chwarae sefydlog yn y sir ac yn ail-ddarparu y rhai yr argymhellir eu cau - mae'r cyfleoedd i resymoli yn fwy tebygol o ddigwydd yn y pedwar prif anheddiad;
Yn disodli'r dosbarthiad cyfredol Meysydd mewn Ymddiriedolaeth (FiT) o blaid dosbarthiad dwyradd Ardaloedd Chwarae Cymdogaeth a Throthwy a bod hyn yn cael ei ddefnyddio i resymoli nifer yr ardaloedd chwarae trefol yn y pedair prif dref;
Yn defnyddio'r dosbarthiad diwygiedig hwn wrth asesu cynlluniau gosodiad ar gyfer datblygiadau preswyl newydd yn y sir;
Yn rhesymoli'r ddarpariaeth chwarae sefydlog yn Nhrefynwy fel peilot cychwynnol, y gellir ei gyflwyno wedyn i'r prif aneddiadau eraill;
Yn y dyfodol symud tuag at ddarparu offer chwarae wedi'i adeiladu o ddefnyddiau mwy naturiol fel coed caled cynaliadwy (e.e. coed robinia), gyda chyfran uwch o offer hygyrch.