Mater - penderfyniadau

TEST

30/07/2020 - REVENUE & CAPITAL MONITORING 2019/20 FORECAST OUTTURN STATEMENT - MONTH 7

PENDERFYNWYD:

Bod Aelodau’n ystyried rhagolwg refeniw net â diffyg o £3.99m, a’r addasiadau untro er mwyn dychwelyd i sefyllfa gytbwys (gwarged o £245) cyn diwedd Mawrth 2020.

 

Bod Aelodau’n nodi cyflawni’r 85% o arbedion wrth osod y gyllideb, a gytunwyd gan y Cyngor Llawn yn flaenorol, a’r angen am gamau adferol/arbediadau o ran tua 15% o arbedion (£994k) sydd, yn ôl adroddiadau gan reolwyr gwasanaeth, yn anghyraeddadwy neu’n debygol o fod yn hwyr.

 

Bod yr Aelodau’n ystyried y gwariant alldro cyfalaf o £39.38m, gan gyflwyno £384k o danwariant disgwyliedig, a’r rhagdybiaeth a wnaed o ran canlyniadau cyllido net a welir ym mharagraff 4.4.

 

Bod Aelodau’n nodi faint o symud sydd wedi bod o ran y defnydd o’r gronfa wrth gefn, gan gynnwys tyniadau unigol ar falensau ysgolion, ac ar ragdybiaethau cynllunio ariannol darbodus (paragraff 5.2 ymlaen).