WEDI EI DDATRYS:
Mae’r Cabinet yn cymeradwyo’r defnydd o gyllid cyfalaf neu refeniw un tro o £239,300 er mwyn sicrhau bod ein gweithlu a’n cyfarpar ar y safle yn cwrdd â’r gofynion diogelwch isafswm o ran system weithredol Windows 10 erbyn Ionawr 2020.
Mae’r Cabinet yn cymeradwyo taliad ychwanegol un tro o’r gyllideb cyfarpar ychwanegol o £67,000 er mwyn delio gydag adnewyddiadau cyfarpar gweithredol ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.
Mae’r Cabinet yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y gyllideb cyfarpar canolog sydd yn deillio o gynnydd mewn teclynnau cyffredinol ynghyd â gostyngiad yn oes y gliniaduron. Er mwyn mynd i’r afael gyda hyn, rydym yn gofyn i’r Cabinet i ystyried cymeradwyo’r pwysau hwn fel rhan o’r broses o osod y gyllideb flynyddol.