Mater - penderfyniadau

Test 2

02/10/2019 - DIGITAL INFRASTRUCTURE ACTION PLAN

Y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Seilwaith Digidol atodedig, ac wrth wneud hyn, byddant hefyd yn cymeradwyo’r argymhellion canlynol, hynny yw bod y Cyngor yn:

 

1. Mabwysiadu sefyllfa polisi er mwyn bod yn rhagweithiol wrth annog darparwyr band eang i gyflwyno seilwaith band eang ffeibr  yn y Sir;

2. Sefydlu Gr?p Gwaith Band Eang Strategol er mwyn sicrhau agwedd rhagweithiol er mwyn sicrhau bod holl brosesau’r Cyngor yn cael eu hwyluso i ganiatáu i ddarparwyr band eang i symud ar gyflymder;

3. Ystyried benthyciadau masnachol i gwmnïau sydd yn dymuno gweithredu prosiectau seilwaith digidol o fewn y sir a fydd yn mynd i’r afael gyda materion amddifadedd digidol; a

4. Ystyried unrhyw gyfleoedd yn llawn i ymgysylltu gyda chyfleoedd cyllido er mwyn gosod 5G a Seilwaith LoRaWAN o fewn y Sir lle y mae yna dystiolaeth o ran angen, yn agor y Sir fel arbrawf rhanbarthol a braenaru ar gyfer yr amrywiaeth o geisiadau sydd i’w datblygu o ganlyniad i hyn.