Agenda item

Sir Fynwy Ddi-blastig

Cofnodion:

 Cyflwynodd yr Aelod Cabinet adroddiad i gael ymrwymiad polisi gan y Cyngor i weithio at ddod yn 'sir ddi-blastig" ac i hysbysu'r Cyngor am y dilynol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ar 24 Mai 2018:

 

           Y gwaith o fewn cymunedau Sir Fynwy i ostwng y defnydd o blastig un-defnydd.

           Cynnydd y Cyngor wrth ostwng y defnydd o blastig un-defnydd.

 

Bu cynnydd enfawr mewn diddordeb yn yr ychydig fisoedd diwethaf mewn gostwng y defnydd o blastig un defnydd, nid yn lleiaf oherwydd y golygfeydd ofnadwy o lygredd plastig yn ein moroedd a ddangoswyd ar gyfres Blue Planet y BBC. Mae plastig un-defnydd yn defnyddio tanwyddau ffosil gwerthfawr, yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru, yn anafu bywyd gwyllt ar dir ac yn y môr, yn hagru'r tirlun fel sbwriel, yn blocio draeniau ac yn costio arian i'w prynu, clirio a chael gwared arnynt. Mae hyn wedi arwain at gymryd camau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Howard yr adroddiad ond cydnabu fod dweud a gwneud yn aml yn bethau gwahanol. Cyfeiriodd at ein dibyniaeth ar fagiau ailgylchu un-defnydd a disgwyliad preswylwyr i ddefnyddio bagiau du ar gyfer gwastraff gweddilliol, a chroesawodd fanylion cynlluniau eraill.

 

Gofynnwyd i'r Pennaeth Gweithrediadau roi diweddariad ar sbwriel a gwastraff bwyd o fewn y contract, a rhoi sylw i unrhyw effaith y gall hyn ei gael ar y cynigion. Esboniodd fod Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i gontract ar gyfer gwaredu ein gwastraff bwyd, lle byddai'n well gan y contractwr weld y bwyd yn cael ei gyflwyno iddynt mewn bagiau plastig yn hytrach na bagiau sy'n pydru. Fodd bynnag, mae'r contract yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei dderbyn mewn bagiau sy'n pydru pe dymunem iddynt wneud hynny. Eir â'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ac wedyn i'r Cabinet. Byddai budd ariannol i'r Awdurdod pe byddem yn newid i ddefnyddio bagiau plastig.

 

Mynegodd Aelodau bwysigrwydd 'cael ein t? ein hunain mewn trefn', gyda defnyddio cwpanau plastig yn y siambr a defnyddio poteli plastig un-defnydd mewn canolfannau hamdden yn enghreifftiau.

 

Mewnpleidlais penderfynodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhellion:

 

Bod y Cyngor yn cytuno i weithio tuag at ddod yn 'sir ddiblastig' drwy ddefnyddio plastig un defnydd, yn unol ag ymgyrch Arfordir Di-blastig Surfers Against Sewage.

 

Bod y Cyngor yn ymrwymo i'r camau dilynol, a gefnogwyd yn unfrydol gan y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf:

Gwneud ymrwymiad i weithio tuag at statws di-blastig.

Adolygu ei ddefnydd ei hun o blastig un-defnydd a chymryd camau i ddynodi defnydd diangen ar blastig a gostwng hyn.

Cefnogi gweithredu gwirfoddol a chymunedol i ostwng defnydd plastig, cynnal ymgyrchoedd casglu sbwriel ac yn y blaen.

Gweithio gydag ysgolion, busnesau a phartneriaid eraill i ostwng defnydd plastig.

Gweithio gyda threfnwyr digwyddiadau ar eiddo Cyngor Sir Fynwy i ostwng y defnydd o blastig un-defnydd i isafswm (a sicrhau fod ailgylchu effeithlon yn ei le ar gyfer ailgylchu plastig diangen).

Cymryd rhan mewn cyfarfodydd i gefnogi a chydlynu gweithgareddau di-blastig ar draws y Sir.

 

Dogfennau ategol: