Agenda item

Cynllun Rheoli Asedau Strategol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau’r adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i’r Strategaeth Rheoli Asedau, Strategaeth Ffermydd y Sir a’r Polisi Buddsoddi Asedau. Hysbysodd y Cyngor am welliannau i'r adroddiad fel a ganlyn:

Diwygiadau Arfaethedig i Eitem 15a ar yr Agenda

Strategaeth Rheoli Asedau a Pholisïau Cefnogi

 

Rydym yn cynnig y gwelliannau canlynol i’r adroddiad uchod:

Argymhellion:

1.1          Cymeradwyo’r Strategaeth Rheoli Asedau, Strategaeth Ffermydd y Sir a’r polisïau cefnogi.

 

1.2          Cytuno i fabwysiadu’r Polisi Buddsoddi mewn Asedau a chymeradwyo hyd at £50,000,000 o fenthyca darbodus i ariannu caffaeliadau dros gyfnod o dair blynedd.

 

1.3          Cytuno i ddiwygio’r Cyfansoddiad i gynnwys Pwyllgor Buddsoddi a fydd ag awdurdod dirprwyo i wneud penderfyniadau ar gaffael Asedau Buddsoddi fel y rhagnodwyd gan y Polisi Buddsoddi mewn Asedau.

 

1.4          Cytuno i ffurfio pwyllgor buddsoddi fel yr amlinellir yn 3.10 o’r adroddiad diwygiedig.

 

1.5          Dirprwyo awdurdod i Bwyllgor Buddsoddi i gymeradwyo Achosion Busnes, cymeradwyo gwariant ar gyfer arolygon diwydrwydd dyladwy ac  adroddiadau a chytuno i gaffael asedau tir ac eiddo yn unol â meini prawf gwerthuso ac yn rhwym wrth adolygiadau perfformiad blynyddol.

 

1.6          Cymeradwyo sicrwydd yr arian wrth gefn a glustnodwyd i’r swm o £100,000 o dderbyniadau cyfalaf y gronfa wrth gefn, Cynhyrchu Derbyniadau Cyfalaf i ariannu costau cychwynnol diwydrwydd dyladwy cyn caffael. 

 

Mae Paragraff 3.10 o’r adroddiad yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

Dirprwyir gwneud penderfyniadau i Bwyllgor Buddsoddi a fydd yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ac arweinwyr y ddwy wrthblaid fwyaf (3: 1: 1). Bydd y pwyllgor yn cael ei gefnogi gan y Prif Swyddog Adnoddau a chydweithwyr o adrannau’r Ystadau, Cyllid a’r Gwasanaethau Cyfreithiol. Bydd adroddiadau blynyddol ar berfformiad yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor Archwilio. Disgwylir y bydd cyngor arbenigol yn cael ei gymryd gyda chaffaeliadau cychwynnol i ychwanegu at arbenigedd a gallu.

 

Mae Paragraff 6.4 o’r Polisi Buddsoddi Asedau (tudalen 780 yn eich pecyn) of your bundle) wedi cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

6.4       Cyflwynir yr Achos Busnes i’r Pwyllgor Buddsoddi a fydd yn cynnwys  Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ac Arweinwyr y ddwy wrthblaid fwyaf (cydbwysedd gwleidyddol 3: 1: 1). Caiff y Pwyllgor ei gynghori gan y Prif Swyddog Adnoddau a Swyddogion o adrannau’r Ystadau, Cyllid a’r Gwasanaethau Cyfreithiol.

Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:

Mewn ymateb i bryder sicrhaodd yr Aelod Cabinet yr Aelodau nad oeddem yn benthyca mwy nag y gallem ei fforddio.

Cadarnhaodd y Swyddogion, o ran y meini prawf gwerthuso, bod y dangosyddion perfformiad rydym ynghlwm wrthynt yn cael eu hesbonio ar dudalen 773 o'r pecyn agenda.

Yn ogystal â pharchu safonau’r Cyngor, parthed y caffaeliadau penodol  rydym yn bwriadu eu hyrwyddo, daw diweddariadau ar berfformiad drwy’r Pwyllgor Archwilio.

Holwyd sut y byddai'r Arweinydd yn gallu bod yn rhan o'r Pwyllgor Buddsoddi o ystyried ei fuddiant dan Ffermydd y Sir. Cadarnhawyd y byddai'r Arweinydd yn parhau i ddatgan buddiant yn y maes hwnnw, ac ystyriwyd ei fod yn bwysig bod yr Arweinydd yn aelod o'r panel.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Taylor at baragraff 3.10 sy'n trafod y gwneud penderfyniadau a ddirprwywyd, gan ddatgan y bydd y pwyllgor yn cynnwys arweinwyr y ddwy wrthblaid a chynnig gwelliant y dylid cynnwys Arweinwyr y 3 gr?p gwrthblaid.

Eiliwyd y gwelliant, ac ar ôl pleidlais, cafodd y gwelliant ei orchfygu.

Dychwelodd y drafodaeth at yr argymhelliad gwreiddiol, ac ar ôl pleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhelliad:

Cymeradwyo'r Strategaeth Rheoli Asedau, Strategaeth Ffermydd y Sir a’r polisïau ategol.

Cytuno i fabwysiadu'r Polisi Buddsoddi Asedau a chymeradwyo hyd at £50,000,000 o fenthyca darbodus i ariannu caffaeliadau dros gyfnod o dair blynedd.

 

Cytuno i’r gwelliant yn y Cyfansoddiad i gynnwys Pwyllgor Buddsoddi a fydd yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau ar gaffael Asedau Buddsoddi fel y rhagnodir yn y Polisi Buddsoddi Asedau.

 

Cytuno i ffurfio Pwyllgor Buddsoddi fel yr amlinellir yn 3.10 yn yr adroddiad diwygiedig.

 

Dirprwyo awdurdod i Bwyllgor Buddsoddi i gymeradwyo Achosion Busnes, cymeradwyo gwariant ar gyfer arolygon diwydrwydd dyladwy mewn perygl ac adroddiadau a chytuno i gaffael asedau tir ac eiddo yn unol â meini prawf gwerthuso a gytunwyd, rhwym wrth adolygiadau perfformiad blynyddol.

 

1.7          Cymeradwyo sicrwydd yr arian wrth gefn a glustnodwyd i’r swm o £100,000 o Dderbyniadau Cyfalaf y gronfa wrth gefn i ariannucostau cychwynnol diwydrwydd dyladwy cyn caffael.

 

 

Dogfennau ategol: