Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i gychwyn gwaith ar fframwaith polisi cynllunio newydd i lunio a datblygu dyfodol ein Sir a’i swyddogaeth yn y rhanbarth, yn unol â phwrpas y Cyngor o adeiladu cymunedau cynaliadwy a chadarn. Yn benodol, gofynnir am gymeradwyaeth y Cyngor i gychwyn gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer Sir Fynwy, cymeradwyo’r Cytundeb Darparu gan gynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau ar gyfer ymgynghoriad targedig am bedair wythnos, a chytuno rhan o Gynllun Datblygu Strategol De-ddwyrain Cymru (CDS).

 

Cynghorodd y Cynghorydd Batrouni fod y Gr?p Llafur yn cefnogi adolygiad llawn, gan ychwanegu ei fod yn adlewyrchu methiant y Cyngor hwn i gwrdd ag anghenion tai Sir Fynwy. Ychwanegodd i’r adolygiad fethu â chymryd i ystyriaeth symud Tollau pont Hafren, a’r twf mewn poblogaeth.

 

Ymateboddyr Aelod Cabinet nad oedd safleoedd strategol arfaethedig wedi dod ymlaen fel y rhagwelid.

 

Mynegwyd bod angen ymgynghoriad ehangach, yn ymestyn i’r cyhoedd ac i gynnwys ardal Caerloyw.

 

Eglurodd y swyddogion, yng nghyd-destun y cynllun cyfredol, hunan-adlewyrchodd yr adolygiad ar y rheswm paham nad oedd safleoedd wedi dod ymlaen. Mae rhesymau cymhleth y tu ôl i hyn ond mae safleoedd yn gwneud cynnydd i ddod ymlaen. Yng nghyd-destun amcanestyniadau, cwmpasodd adroddiad yr adolygiad agweddau eraill sydd angen edrych arnynt, gan gynnwys tollau.  Os cymeradwyir yr adolygiad gan y Cyngor, y man cychwyn fyddai edrych ar opsiynau ar gyfer twf. Yng nghyd-destun ymgynghoriad roedd y swyddogion yn edrych ar ymgysylltu â chymaint â phosib o grwpiau.

 

Awgrymoddrhai Aelodau y gallai adolygiad byr fod yn well opsiwn. Eglurwyd, petai hyn yn digwydd, byddai dal yn rhaid i ni alinio gyda’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a byddai hyn yn cymryd ein cynllun cyfredol ymlaen i 2030.  Ni fyddai’r cynllun tymor byr yn goresgyn yr heriau presennol.

 

Tynnoddyr Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol  sylw at y Strategaeth Cynnwys Cymunedau a’r agwedd gynhwysfawr y byddwn yn ei chymryd i ymgysylltu â chymunedau. Mae’n crybwyll yn benodol y grwpiau anodd eu cyrraedd. Anogodd Aelodau unigol i ddod ymlaen ag awgrymiadau ar y modd i hwyluso’r broses.

 

Argymhellwydffurfio gr?p llywio trawsbleidiol i fynd i’r afael ag amcanion yn ymwneud ag isadeiledd.

 

Anogoddyr Arweinydd bod angen inni gymryd rheolaeth o’n tynged ein hunain ac nid oedd yn cytuno â gweithio ar y cyd ar Gynllun Datblygu Lleol gydag awdurdodau eraill.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir A. Webb y cyfarfod am 15:00pm

 

Mewnymateb i gwestiwn clywsom mai pris cyfartalog t? yn Sir Fynwy bellach yw’r uchaf yng Nghymru gyfan ar £307,000, sy’n cymharu â chyfartaledd Cymru o £186,000. 

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir F. Taylor y cyfarfod am 15:25pm.

 

Tynnoddyr Aelod Cabinet y drafodaeth i’w therfyn gan ddweud mai’r CDLlon yw’r cyfrwng i helpu gyda’r broblem ddemograffig. Roedd yn fodlon gyda’r ymgysylltu trawsbleidiol ac roedd eisiau cynnwys Aelod bwrdd ar draws y broses.

 

O’iroddi i bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhellion:

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r adroddiad adolygu i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo cychwyn adolygiad llawn i'w Gynllun Datblygu Lleol, a fyddai'n arwain at Gynllun Datblygu Lleol newydd sbon ar gyfer Sir Fynwy am y cyfnod hyd at 2033.

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Cytundeb Cynnwys Craffu gan gynnwys y Cynllun Cynnwys Cymunedau ar gyfer y CDLl newydd ar gyfer ymgynghoriad a dargedir dros bedair wythnos.

 

Bod y Cyngor yn penderfynu'n ffurfiol i fod yn rhan o Gynllun Datblygu Strategol De-ddwyrain Cymru.

 

Dogfennau ategol: