Agenda item
Penderfyniadau Treth y Cyngor 2018/19 a'r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer 2018/19
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Benderfyniad Treth y Cyngor 2018/19 a’r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer 2018/19. Mae’r Cyngor yn rhwym gan Statud i derfynau amser penodol ar gyfer gosod Treth y Cyngor ac mae hefyd yn ofynnol i’r Cyngor wneud penderfyniadau diffiniedig penodol. Mae’r argymhellion sy’n ffurfio rhan helaethaf yr adroddiad hwn wedi’u dylunio i gydymffurfio â’r Darpariaethau Statudol hynny. Mae’r penderfyniadau a argymhellir hefyd yn tynnu ynghyd oblygiadau’r praeseptau, a gynigir gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a phraeseptau’r Cynghorau Tref a Chymuned, ar Dreth y Cyngor, gan felly alluogi’r Cyngor Sir i sefydlu’i brif lefelau Treth y Cyngor ar yr amrywiol fandiau eiddo o fewn pob ardal Tref a Chymuned.
Dywedodd yr wrthblaid mai’r ysgolion a wynebai ben trymaf y toriadau a bod 50% o’r cynigion newydd yn ymwneud â phlant neu addysg mewn rhyw ffurf. f
Awgrymwyd y gellid codi symiau sylweddol o arian drwy godi premiwm ar ail gartrefi a adawyd yn wag am chwe mis. Gallai hyn o bosib ymwneud â 4500 o dai gwag ar draws Sir Fynwy a gallai o bosib godi £200,000. Byddai angen blwyddyn o ymgynghori ar y broses hon a gellid ei chynnwys yng nghyllideb 2019/20.
Deallwyd bod swyddogion yn disgwyl am gynnig.
Cynigiodd y Cynghorydd Batrouni welliant, i weithredu:
1. Premiwm o 150% ar ail gartrefi
2. Codi Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn o £50,000
3. Cael gwared ar y ffioedd ar gyfer prydau ysgol am ddim
4. Gosod £5000 o’r neilltu ar gyfer tlodi cyfnod
Eiliwyd y gwelliant a chafwyd dadl.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Batrouni am y gwelliant a gofynnodd am fwy o wybodaeth ynghylch Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.
Byddai £5,000 yn cael ei osod o’r neilltu ar gyfer tlodi cyfnod petai hynny’n gasgliad gan y gweithgor.
Ystyriwyd ei bod yn rhy hwyr i gefnogi’r gwelliannau, heb yr amser i roi ystyriaeth iddynt. .
Cydnabuwyd yr anawsterau o gwmpas gofal plant cyn ysgol ac awgrymwyd asesiad 3 mis i ddynodi effaith.
Pleidleisiodd y Cyngor ar y gwelliant. Trechwyd y gwelliant.
Yn dilyn cafwyd dadl ar yr argymhelliad gwreiddiol:
Mynegwyd siom ynghylch y toriadau i’r gyllideb Priffyrdd. Dangosai digwyddiadau diweddar effeithioldeb y gwasanaethau.
Diolchodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol i’r swyddogion am y gyllideb gytbwys a chydnabu’r pwysau a’r heriau. Gofynnodd am fwy o fonitro’r gyllideb yn y dyfodol a bod diweddariadau’n cael eu darparu er mwyn galluogi’r Cyngor i weithredu’n rhagweithiol.
Roedd pryderon ynghylch y broses ymgysylltu a gobeithid y byddai’r strategaeth yn cael ei hadolygu’r flwyddyn ddilynol.
Gofynnwyd i’r cynnydd yn ffioedd y clwb brecwast gael ei fonitro a mynd i’r afael ag ef petai effaith sylweddol. .
Gadawodd y Cynghorydd Sir R. Greenland y cyfarfod am 12:00
Mewn ymateb i gwestiwn, mae grantiau’r Pwyllgorau Ardal yn dal ar gael, yn ddibynnol ar ganlyniad adolygiad Bryn Y Cwm
Cyflwynir monitro’r cynigion i’r Pwyllgor Craffu yn yr Adroddiadau Alldro.
O’i roddi i bleidlais cariwyd yr argymhelliad. Pleidleisiodd holl Aelodau’r Gr?p Llafur yn erbyn yr argymhelliad:
· Bod yr amcangyfrifon refeniw a chyfalaf ar gyfer y flwyddyn 2018/19, fel yr atodir hwy yn Atodiad 1 a 2, yn cael eu cymeradwyo.
· Ei fod yn cael ei nodi, yn ei gyfarfod ar 28ain Chwefror 2018, cyfrifodd y Cabinet y symiau a amlinellir isod ar gyfer y flwyddyn 2018/19 yn unol ag adrannau 32 a 33 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("y Ddeddf"). Er gwybodaeth, cafodd Adrannau 32 a 33 o Ddeddf 1992 eu diwygio’n sylweddol gan Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994. Diwygiwyd y ddwy ymhellach gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2002 (“rheoliadau 2002”) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2013. Caiff Adran 33 ei diwygio ymhellach gan Orchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cyfrifo Swm Sylfaenol Treth y Cyngor) (Cymru)1996. Rhoddwyd ystyriaeth i’r holl ddiwygiadau deddfwriaethol a statudol wrth gyfrifo’r symiau canlynol : -
(a) 45,887.85 yw’r swm a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 33 o’r Ddeddf a’r Rheoliadau (fel y diwygiwyd hwy gan Reoliadau 1999 rhif. 2935), fel Sylfaen Treth y Cyngor am y flwyddyn;
(b) Rhan o Ardal y Cyngor, sef y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34 o’r Ddeddf, fel symiau Sylfaen Treth y Cyngor am yn flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’r ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol:
· Bod y symiau canlynol nawr yn cael eu cyfrifo gan y Cyngor am y flwyddyn 2018/19 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf ac Adrannau 47 a 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (fel y’i diwygiwyd):
(a) £152,920,291 yw’r cyfanswm ar gyfer amcangyfrifon y Cyngor ar gyfer yr eitemau a amlinellir yn Adran 32(2) (a) i (ch) o’r Ddeddf llai cyfanswm y symiau mae’r Cyngor yn amcangyfrif ar gyfer yr eitemau a amlinellir yn Adran 32 (3) (a) ac (c) o’r Ddeddf a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel gofyniad ei gyllideb am y flwyddyn
(b) £93,268,176 yw cyfanswm y symiau mae’r Cyngor yn amcangyfrif a fydd yn daladwy am y flwyddyn i mewn i’w gronfa mewn perthynas ag ardrethi annomestig a ail-ddosberthir grant cynnal refeniw yn unol ag Adran 33 (3)
(c) £6,000 yw’r gost i’r awdurdod o’r rhyddhad ardrethi annomestig dewisol y rhagwelir y byddant yn cael eu caniatáu (dan Adrannau 47 a 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, (fel y’i diwygiwyd)
(ch) £1,300.09 yw’r swm yn 2.3(a) a 2.3(c) uchod llai’r swm yn 2.3(b) uchod, y cyfan yn cael ei rannu gyda’r swm yn 2.2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth y Cyngor am y flwyddyn
(d) £2,676,418 yw swm cyfanredol yr holl eitemau arbennig y cyfeiriwyd atynt yn Adran 34 o’r Ddeddf (Praeseptau Tref a Chymuned)
(dd) £1,241.76 yw’r swm yn 2.3(ch) uchod llai y canlyniad a gafwyd drwy rannu’r swm yn 2.2(a) uchod a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) o’r Ddeddf, fel y symiau sylfaenol o Dreth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’r ardal nad oes unrhyw eitemau arbennig yn berthnasol
(e) Rhan o Ardal y Cyngor, sef symiau'r eitem neu’r eitemau arbennig yn berthnasol i anheddau yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor a grybwyllwyd uchod yn cael eu rhannu ym mhob achos gan y symiau yn 2.2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel y symiau sylfaenol o Dreth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’r ardal y mae un neu fwy o’r eitemau arbennig yn berthnasol:
(f) Ardal y Cyngor, sef y symiau a gafwyd drwy luosi’r swm yn 2.3(dd) uchod gan y rhif, sydd, yn y gyfradd a amlinellir yn Adran 5(1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i anheddau a restrir mewn band prisio penodol yn cael ei rannu â’r rhif sydd yn y gyfradd honno yn berthnasol i’r anheddau a restrir
ym Mand D a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, fel y symiau i’w hystyried am y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau o anheddau a restrir mewn gwahanol fandiau prisio.
(ff) Rhan o Ardal y Cyngor, sef y symiau a gafwyd drwy luosi’r symiau yn 2.3(e) ac 2.3(f) uchod gan y rhif, sydd, yn y gyfradd a amlinellir yn Adran 5(1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i anheddau a restrir mewn band prisio penodol yn cael ei rannu â’r rhif sydd yn y gyfradd honno yn berthnasol i’r anheddau a restrir ym Mand D a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, fel y symiau i’w hystyried am y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau o anheddau a restrir mewn gwahanol fandiau prisio: -
· Ei fod yn cael ei nodi, ar gyfer blwyddyn 2018/19 bod Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent wedi cynnig, yn ddibynnol ar gasgliad y broses graffu lawn, y symiau canlynol mewn praeseptau a gyflwynir i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf, ar gyfer pob annedd a ddangosir uchod:
· Wedi cyfrifo’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau yn 2.3(i) a 2.4 uchod, mae’r Cyngor felly yn gosod y symiau canlynol o Dreth y Cyngor am y flwyddyn 2018/19 ar gyfer pob un o’r categorïau o anheddau a restrir isod: -
· Bod Mrs J. Robson, Mr M. Howcroft, Miss R. Donovan, Mrs. S. Deacy, Mrs. W. Woods a Mrs. S. Knight yn cael eu hawdurdodi dan Adran 223 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i erlyn ac ymddangos ar ran Cyngor Sir Fynwy gerbron Llys Ynadon at ddiben gwneud cais am Orchmynion Dyled mewn perthynas â Threth y Cyngor ac Ardrethi Annomestig.
Dogfennau ategol: