Agenda item

Cynnig o'r Cynghorydd Sir D. Batrouni

Ers codi’r cwestiwn am dlodi mislif, mae'r gr?p Llafur wedi derbyn gwybodaeth anecdotaidd bod hyn yn broblem yn Sir Fynwy.  Felly, mae'r gr?p Llafur yn gofyn i’r Cyngor i weithio gydag ysgolion uwchradd lleol a banciau bwyd er mwyn canfod graddfa'r angen yn Sir Fynwy ac i helpu, lle bo'n briodol, darparu cynhyrchion glanweithiol i fenywod a merched. Dylai’r cyngor hefyd ystyried y strategaeth gyfredol o ddarparu peiriannau gwerthu am gynhyrchion glanweithiol mewn ysgolion a'r gost fesul uned. . Yn ogystal, rydym yn gofyn i’r cyngor ystyried defnydd cynhyrchion cynaliadwy mewn ffurf cynhyrchion gellir eu hailddefnyddio a bioddiraddadwy, gan fod y DU yn cynhyrchu 200,000 tunnell o wastraff olew mewn ffurf cynhyrchion glanweithiol sy’n cael eu taflu i ffwrdd bob blwyddyn.   Yn olaf, bod y Cyngor yn penderfynu, fel mater o bolisi ac ar sail drawsbleidiol, cael gwared â thlodi mislif yn Sir Fynwy.

 

Cofnodion:

Ers codi'r cwestiwn am dlodi mislif, clywodd y gr?p Llafur ei fod yn broblem yn Sir Fynwy. Felly mae'r gr?p Llafur yn gofyn i'r Cyngor weithio gydag ysgolion cyfun a banciau bwyd lleol er mwyn canfod maint yr angen yn Sir Fynwy ac i helpu, lle'n briodol, i ddarparu cynnyrch sanidol ar gyfer menywod a merched. Dylai'r cyngor hefyd ystyried y strategaeth bresennol o ddarparu peiriannau gwerthu ar gyfer cynnyrch sanidol mewn ysgolion a'r gost fesul uned. Yn ychwanegol, gofynnwn i'r cyngor ystyried defnyddio cynnyrch cynaliadwy ar wedd cynnyrch y medrir eu hailddefnyddio a phydradwy, gan fod y Deyrnas Unedig yn cynhyrchu 200,000 tunnell fetrig o wastraff seiliedig ar olew ar wedd cynnyrch sanidol sy'n cael eu taflu bob blwyddyn. Yn olaf, mae'r Cyngor yn penderfynu'n gadarn, fel mater o bolisi ac ar sail trawsbleidiol, i ddileu tlodi mislif yn Sir Fynwy.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Batrouni y cynnig gan ddiolch i'r Aelod Cabinet am yr ymateb yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor, a dywedodd y bu llawer o negeseuon gan y gymuned yn dilyn y cyfarfod yn cadarnhau fod hyn yn broblem. Ychwanegodd y dywedwyd wrtho fod nyrsys mewn ysgolion cyfun yn dosbarthu cynnyrch sanidol ac wedi bod yn gwneud hynny am flynyddoedd, rhai'n talu amdanynt o'u poced eu hunain. Gofynnodd a dylai'r Cyngor fod yn meddwl am gostau a maint elw peiriannau gwerthu yn yr ysgolion uwchradd.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd D. Evans.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Cynghorydd S. Jones, Aelod o'r Cabinet, ei bod yn hollol ymroddedig i ddileu tlodi mislif a chynigiodd gynnig gyda gwelliant:

 

Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gydag ysgolion, banciau bwyd a phob asiantaeth berthnasol i ganfod maint yr angen yn Sir Fynwy  a thrwy weithio mewn partneriaeth byddwn yn dynodi sut y gallwn gefnogi'r rhai y mae tlodi misglwyf yn effeithio arnynt. Fel rhan o'r ymagwedd yma, byddwn yn ystyried defnydd cynnrych cynaliadwy ar wedd cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio a phydradwy ac mae'r Cyngor hwn yn parhau'n ymroddedig i weithio gyda'n holl bartneriaid tuag at ddileu tlodi mislif yn Sir Fynwy.

 

Esboniodd y Cynghorydd S. Jones ei bod wedi cynnwys 'pob asiantaeth' yn ei chynnig gyda gwelliant gan gyfeirio at ysgolion cynradd a'u rhaglen Tyfu Lan, cymdeithasau tai ac elusennau eraill. Cadarnhaodd iddi fod mewn cysylltiad gyda mudiad Wings a gobeithiai roi hyder ei bod yn gweithredu ar y mater. Esboniwyd y cafodd y cyfeiriad at beiriannau gwerthu ei ddileu gan mai polisi Llywodraeth Cymru yw hynny ac nid ein strategaeth ni i'w hystyried. Clywsom mai dim ond un ysgol gyfun yn Sir Fynwy sydd â pheiriant gwerthu, eto mae pob ysgol yn cynnig cynnyrch sanidol am ddim fel rhan o'u hystafelloedd llesiant. Ychwanegodd y Cynghorydd Jones y byddai'n parhau i weithio ar yr agenda hwn ar ran menywod a merched Sir Fynwy.

 

Trafododd y Cyngor y cynnig gyda gwelliant:

 

Mynegodd y Cynghorydd Batrouni bryder am ddileu'r geiriau 'darparu' a 'pholisi' gan y byddai'n hyn yn cael ei weld fel galluogi ond nid gweithredu ein hunain.

 

RoeddAelodau yn awyddus i gefnogi'r cynnig ac yn croesawu data caled ar dlodi mislif.

 

Croesawoddyr Aelod Cabinet yr awgrym fod Aelodau'n ffurfio is-gr?p i hybu gwaith ar y mater.

 

Mewnpleidlais, pasiodd y Cyngor y cynnig gyda gwelliant.