Agenda item

Cynnig o'r Cynghorydd Sir A. Easson a'r Cynghorydd Sir P. Pavia

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi dechrau ymgynghoriadau yngl?n â dyfodol Gwasanaethau Oedolion ledled Gwent.    Yr awgrym yw canoli gofal dementia i ysbytai ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd ac uned yn Nhorfaen; ar ôl i Ysbyty’r Faenor gael ei gomisiynu yn 2021. Mae hyn yn awgrymu cau Ward San Pierre yn Ysbyty Cas-gwent, sy’n cael ei ddefnyddio am ofal dementia ar hyn o bryd.  Buasai cefnogaeth am ofal dementia yng ngogledd Sir Fynwy’n bodoli yn Ysbyty Tri Cwm Hospital yng Nglyn Ebwy ac yn y de yn Ysbyty Sant Gwynllyw.

 

“Dwi’n cynnig bod y Cyngor hwn yn gweithio mewn cydweithrediad â BIPAB a CICAB i ddarganfod ffyrdd positif a blaengar o gael gwared â’r bygythiad hwn i Ysbyty Cas-gwent, sydd â 10 mlynedd ar ôl o’r fenter PFI i gwblhau’r contract, a dylid ehangu defnydd y cyfleuster hwn nid ei leihau. 

 

Cofnodion:

Cytunodd y Cadeirydd gymryd Cynnig 8.2 a 8.3 gyda'i gilydd ar gyfer trafodaeth:

 

Cynniggan y Cynghorydd Sir Easson:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi dechrau ymgynghori am ddyfodol Gwasanaethau Oedolion ledled Gwent. Yr awgrym yw canoli gofal dementia i ysbytai ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd ac uned yn Nhorfaen; ar ôl comisiynu Ysbyty'r Grange yn 2021. Byddai hyn yn awgrymu cau Ward St Pierre yn Ysbyty Cas-gwent a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer gofal dementia. Byddai cefnogaeth ar gyfer gofal dementia yng ngogledd Sir Fynwy yn Ysbyty'r Tri Chwm yng Nglynebwy ac yn y de yn St Woolos yng Nghasnewydd. Cynigiaf fod y Cyngor hwn yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan i ganfod ffyrdd cadarnhaol ac arloesol o dynnu'r bygythiad hwn i Ysbyty Cas-gwent sydd â 10 mlynedd o'r cynllun PFI i gwblhau'r contract, ac y dylai defnydd y cyfleuster hwn gael ei gynyddu ac nid ei ostwng."

 

Cynniggan y Cynghorydd Sir Pavia:

Mae Cyngor Sir Fynwy yn deall yr heriau demograffig sy'n wynebu'r sir dros y degawdau nesaf. Mae'n cydnabod y bydd y cynnydd yn nifer y bobl h?n yn anochel yn rhoi mwy o ofynion ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol, gan fod poblogaeth sy'n heneiddio yn fwy tebygol o fod ag o leiaf un ac yn aml gyflyrau cronig lluosog fel dementia. Felly, mae'n bryderus am gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ailgynllunio gwasanaethau iechyd meddwl oedolion h?n, a allai o bosibl olygu cau ward dementia St. Pierre yn Ysbyty Cas-gwent a throsglwyddo cleifion i Ysbyty'r Tri Chwm yng Nglynebwy a St Woolas yng Nghasnewydd.

Geilwar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i:

1. Ddechrau ar ymgysylltu 'cadarn ac ystyrlon' gyda chleifion, rhanddeiliaid a chymunedau lleol yn Sir Fynwy, parthed ei gynigion ail-ddylunio a gwrando ar bryderon priodol y bydd unrhyw drosglwyddo gofal tu allan i'r sir yn naturiol yn ei gynhyrchu;

2. Cwrdd yn rheolaidd gyda'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd ac uwch swyddogion, i ymchwilio modelau newydd, a gyd-gynhyrchwyd a chynaliadwy o ofal ar gyfer oedolion h?n gydag afiechyd meddwl, fel rhan o brif gynllun strategol y Cyngor i ddarparu gofal cymdeithasol integredig ansawdd da ym mhob rhan o'r sir.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd fod y Cyngor yn ymgyngoreion yn yr ymgynghoriad tri mis, ac y bydd yn cymryd rhan lawn a phenderfynol i gyflwyno'r achos dros y gwasanaethau gorau posibl ar gyfer pobl Sir Fynwy.

 

Cafwydtrafodaeth yn dilyn ymateb.

 

Ynnhermau proses fe'n hysbyswyd y bu'r adroddiad drwy'r Pwyllgor Dethol, yn ogystal â'r Cyngor. Mae seminar i Aelodau ar 16 Tachwedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i drafod cynigion. Cafodd aelodau eu hannog i fynychu.

 

Awgrymodd Aelod Cabinet Menter ychwanegu cofnodion o gyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus at agendâu'r Cyngor yn y dyfodol i sicrhau fod Aelodau’n hollol ymwybodol am waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cydnabuwyd fod Cadeirydd blaenorol Pwyllgor Dethol Oedolion wedi bod mewn llawer o gysylltiad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a chytunwyd y dylid gwahodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyfarfod yn y dyfodol o'r Pwyllgor Dethol Oedolion.

 

Rhoddwyd y cynnig i bleidlais, a chafodd ei gario