Agenda item

Polisi Digartrefedd Tywydd Oer

Cofnodion:

Pwrpas:

Ystyried y Protocol Argyfwng Tywydd Difrifol (PATD) sy’n manylu ar ymateb arfaethedig y Cyngor tuag at bersonau sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol mewn amodau o dywydd caled difrifol a gwneud argymhellion fel bo’n briodol.

 

Materion Allweddol:

1. Er nad oes diffiniad eglur o’r hyn sy’n cyfrif fel “tywydd difrifol”, cynigir bod y Cyngor yn mabwysiadu agwedd synnwyr cyffredin ac yn dynodi unrhyw dywydd a allai gynyddu’r perygl o niwed difrifol i bobl sy’n cysgu mewn llefydd  anghonfensiynol. Gall hyn gynnwys oerni eithafol, glaw neu wynt.

 

At ddibenion y protocol diffinnir person sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol fel:

 

      i.        Pobl yn cysgu, ar fin gosod eu gwely (eistedd mewn/ar neu sefyll nesaf at eu dillad gwely) neu’n gwirioneddol wneud eu gwely yn yr awyr agored (megis ar strydoedd, mewn pebyll, y tu allan i ddrysau, parciau, cysgodfeydd bws neu wersylloedd). Pobl yn gwneud eu gwelyau mewn adeiladau neu leoedd eraill na ddyluniwyd ar gyfer pobl i fyw ynddynt (megis grisiau, ysguboriau, cytiau, meysydd parcio, ceir, cychod segur neu orsafoedd).

 

2. Bob blwyddyn mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol adrodd i Lywodraeth Cymru ar nifer y bobl sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol o fewn eu hardal. Mae casglu data ar ffurf dau gyfrif, cyfrif un noson a chyfrif dros gyfnod o amser.

 

      i.        Cyfrif Un Noson – digwydd hyn ar ddyddiad a benderfynir ymlaen llaw ac mewn ardaloedd daearyddol lle mae’n wybyddus bod pobl yn cysgu mewn mannau anghonfensiynol neu’n debygol o gysgu mewn mannau felly. Yn ystod 2015 digwyddodd y cyfrif ar y 4ydd Tachwedd rhwng oriau 10pm i 5am. Ni chanfuwyd un person yn cysgu dan yr amodau hyn.

     ii.        Cyfnod Cyfrif – cesglir data dros gyfnod o bythefnos gyda chymorth y sector gwirfoddol, grwpiau ffydd, busnesau/preswylwyr lleol, asiantaethau iechyd a cham-drin sylweddau a chyffuriau, a’r heddlu. Ar gyfer gaeaf 2015/16 digwyddodd hyn yn ystod 2il – 15fed Tachwedd a dynodwyd pum person yn cysgu allan.  Ar gyfer gaeaf 2016/17 digwyddodd hyn yn ystod 10fed– 23ain Hydref a dynodwyd un person yn cysgu allan.

 

3. Mae disgwyliad o fewn Llywodraeth Cymru y dylai awdurdodau lleol sicrhau bod darpariaeth yn ei lle i fynd i’r afael ag anghenion y rheiny sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol yn eu hardal yn ystod amodau tywydd difrifol, yn enwedig felly yn ystod misoedd y gaeaf. 

 

4. Ei nod yw cyflwyno’r hyn a adwaenir fel ‘Protocol Brys Tywydd Difrifol’ o aeaf 2017. Bydd y protocol yn sicrhau y deuir o hyd i loches i unrhyw rai wedi’u dilysu sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol gyda neu heb gysylltiad lleol yn ystod cyfnodau o dywydd difrifol, yn enwedig pan all tymheredd eithafol am gyfnodau estynedig fygwth eu diogelwch a’u lles.

 

5. Pwy sy’n Gymwys?

 

      i.        Unrhyw berson sy’n cysgu allan mewn lle anghonfensiynol ar y strydoedd mewn oerfel eithafol. Mae hyn yn cynnwys y rheiny heb fynediad i gronfeydd cyhoeddus megis gwladolion A10 a ddaethant yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Noda hyn fod yn rhaid i’r personau sy’n cysgu allan mewn llefydd anghonfensiynol:

 

·         fod mewn perygl os ydynt yn parhau i gysgu allan yn ystod cyfnod o dywydd difrifol

·         fod ag unlle i gysgu y tu fewn yn ystod cyfnod o dywydd difrifol (nid yw tu fewn yn  cynnwys ceir, cytiau neu garejis)

·         gytuno i’r cymorth a gynigir gan y Cyngor.

 

6. Y Broses

 

      i.        Caiff y broses ei sbarduno gan arolwg tywydd o’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld tair noson yn dilyn ei gilydd, neu fwy, lle mae’r tymheredd yn sero Celsius neu’n is. Ar gyfer ffurfiau eraill o eithafion mewn tywydd, er enghraifft glaw neu wynt, bydd y Cyngor yn cymryd agwedd bragmataidd yn seiliedig ar rybuddion tywydd wedi’u dynodi’n goch a’r tebygrwydd o niwed difrifol yn digwydd o ganlyniad i gyfnodau estynedig o gysgu mewn llefydd anghonfensiynol cyn sbarduno’r protocol.

     ii.        Cyn gynted ag y mae’r protocol wedi’i sbarduno, bydd y Swyddog Dewisiadau Tai sydd ar ddyletswydd yn cysylltu â’r sefydliadau perthnasol, yn asiantaethau allanol ynghyd â mewnol, i’w cynghori bod PBTD yn ei le, gyda manylion ynghylch â phwy i gysylltu os dynodant unrhyw berson sy’n cysgu mewn lle anghonfensiynol.

    iii.        Os yw unrhyw berson sy’n cysgu mewn lle anghonfensiynol yn cwrdd â’r meini prawf uchod, cynigir iddo/iddi lety brys, sy’n debygol o fod yn Wely a Brecwast, dros gyfnod y tywydd difrifol.

 

Craffu Aelodau:

 

Yn dilyn cyflwyniad o’r adroddiad gan y Swyddog Strategaeth a Pholisïau Tai gofynnwyd cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor:

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cytunwyd dwblwirio bod y rhif ffôn llety brys ar gael y tu allan i oriau swyddfa. 

 

Cwestiynodd Aelod paham fod y broses yn cychwyn wedi tair noson a chadarnhawyd bod hyn yn arfer safonol a dderbynnir. 

 

Cwestiynodd Aelod a fyddai llety ar gael ar fyr rybudd petai’r tywydd yn newid yn annisgwyl. Eglurwyd bod swyddogion yn monitro’r tywydd yn ddyddiol. Ychwanegwyd bod ffynonellau cyfyngedig o Wely a Brecwast ond bod y tîm fel arfer yn datrys sefyllfaoedd yn unionsyth. 

 

Gofynnwyd a oes cyfle i geisio cymorth meddygol neu gymorth a chefnogaeth arall. Cadarnhawyd y gwneir cynnig i weithio gyda’r person er mwyn ei ddenu oddi ar y stryd.

 

Text Box: Casgliadau’r Pwyllgor: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Protocol Brys Tywydd Difrifol (PBTD). Ystyriodd oblygiadau cysgu mewn lle anghonfensiynol ac i swyddogaeth y Cyngor, yn arbennig yn ystod cyfnodau o dywydd difrifol ac argymhellodd i’r Cabinet fod y Protocol Brys Tywydd Difrifol yn cael ei fabwysiadu’n unionsyth. Cwestiynwyd a chadarnhawyd bod cronfa gyffredinol ar gyfer digartrefedd â chyllideb o £60,000-£70,000 i gyflenwi’r gost, er enghraifft, o osod teuluoedd mewn llety Gwely a Brecwast.  

Dogfennau ategol: