Agenda item

Cymorth Tai Gateway

Cofnodion:

Pwrpas:

Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu trosolwg o Gymorth Tai Gateway a gyllidir gan Gefnogi Pobl, codi ymwybyddiaeth o’r manteision, (i gleientiaid ac asiantaethau partner) a thynnu sylw at y lefelau gweithgarwch a’r peryglon yn y dyfodol.

 

Materion Allweddol:

1. Swyddogaeth Tîm Gateway yw darparu pwynt cyswllt sengl a mynediad i wasanaethau Cefnogi Pobl Sir Fynwy. Mae’r Gateway yn rheoli derbyn a phrosesu atgyfeiriadau cymorth tai, ymgymryd ag asesiadau cymorth oddi wrth aelwydydd neu mewn perthynas ag aelwydydd bregus, rheoli’r rhestri aros a threfnu dyraniad ‘amserol’ pecynnau cymorth i ystod o ddarparwyr gwasanaeth a gyllidir gan Gefnogi Pobl.

 

2. Fel rhan o’r swyddogaeth graidd, bydd y tîm yn darparu gwybodaeth, cyngor, cymorth ac asesiad o angen (anghenion) cyn atgyfeirio at Ddarparwr Cefnogaeth addas. Er enghraifft, Gwalia sy’n darparu cefnogaeth gyffredinol lle bo’r angen; MIND sy’n darparu cefnogaeth yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a Llamau sy’n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig a’r rheiny sydd angen gorchfygu rhwystrau i gael mynediad i gyflogaeth, sgiliau neu hyfforddiant.

 

3. Swyddogaeth ychwanegol y gwasanaeth, a lle bo’n briodol, yw darparu cefnogaeth uniongyrchol i unigolion a theuluoedd drwy gyfrwng gwasanaeth Atal ac Ymyrryd. Gwasanaeth argyfwng yw’r gwasanaeth hwn mewn gwirionedd, lle bydd y Gateway yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw faterion brys cyn atgyfeirio ymlaen at Ddarparwr Cefnogaeth addas. Er enghraifft, gall y tîm ymgymryd ag ymweliadau brys, cynorthwyo gydag apwyntiadau brys (e.e. cyfweliadau budd-daliadau) neu lenwi ffurflenni lle mae amser yn dyngedfennol ac ailgartrefu pobl yn uniongyrchol. Nid yw cydlynu â banciau bwyd yn anghyffredin.

 

4. Yn ddiweddar comisiynwyd y Gateway i ddarparu gwasanaeth adolygu ar ran Comisiynu Cefnogi Pobl. Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn cefnogi sicrwydd ansawdd, yn sicrhau yr ymgymerwyd â gweithgareddau cymwys; mae’n cyfrannu at effeithiolrwydd gweithredol (e.e. gwneud yn si?r nad yw achosion yn agored yn hwy nag sydd angen ar y cleient a choladu ‘yr hyn sydd o bwys’ ac adborth bodlonrwydd.

 

5. Mae’r Gateway yn bartner allweddol i nifer o wasanaethau eraill. Mae’r Tîm Dewisiadau Tai yn un o’r rhain. Trosglwyddir ar unwaith bob cysylltiad wnaed â’r Cyngor a’r Tîm Dewisiadau Tai mewn perthynas â digartrefedd i’r Gateway er mwyn i gymorth tai gychwyn cyn gynted â phosib ar gyfer ymgeiswyr unigol digartref.

 

Nod y trefniant hwn yw i ddarparwyr cymorth, gan gynnwys Gwasanaeth Atal ac Ymyrryd Gateway, ddarparu gwasanaeth atal ategol yn ogystal â swyddogaeth statudol y Tîm Dewisiadau Tai.

 

6. Mae partneriaethau eraill yn cynnwys cefnogi gofal Cymdeithasol, cydweithio i ddatblygu gwasanaethau Tai a Llesiant a Chynhwysiant Cymdeithasol “sy’n seiliedig ar le” sy’n gymorth tai wedi’i gyflenwi drwy agwedd integredig gan bedwar Hyb Sir Fynwy.

 

7. Mae’r Gateway yn darparu swyddogaeth bwysig mewn perthynas â chyfrifoldebau Diogelu’r Cyngor a chynorthwyo i adnabod a chefnogi pobl agored i niwed mewn amgylchiadau megis cam-drin domestig a cham-drin plant ynghyd ag oedolion.

 

Craffu Aelodau:

 

Derbyniodd y Pwyllgor Dethol gyflwyniad gan yr Uwch Swyddog Cymorth Tai gyda Chymorth Tai Gateway Sir Fynwy a chafodd gyfle i ofyn cwestiynau. Diolchwyd i’r Swyddog am y cyflwyniad ardderchog ac am y gwaith mae Gateway yn ei gyflawni.

 

Gwnaeth Aelod sylw ar symud tollau Pont Hafren, codiadau mewn rhent a morgeisi, a chyfraddau llog cynyddol a holodd a oedd y ffactorau hyn yn creu pwysau o fewn y gwasanaeth. Ymatebwyd bod unrhyw fathau o newidiadau’n gallu effeithio ar wasanaethau gan gydnabod ei bod yn anodd dod o hyd i dai fforddiadwy o fewn Sir Fynwy beth bynnag. Mae fforddiadwyedd wrth galon llawer o’r ceisiadau a dderbynnir am dai, a nodwyd bod cyfraddau rhent y farchnad yn uwch na’r lefelau budd-daliadau     

 

Eglurodd Aelod, yn nhermau cynllunio, mai prin y gwelir ceisiadau am dai aml breswylwyr neu newidiadau i dai aml breswylwyr. Cadarnhawyd mai dyma yw’r sefyllfa. Mae yna gynllun rhannu tai sy’n darparu’r prif unedau yn y Sir ond gwnaeth sylw bod cymdeithasau tai yn dechrau ystyried yr agwedd hon. Mae hyn yn annhebygol o gael effaith yn y byrdymor.

 

Cyfeiriodd Aelod at bythefnos genedlaethol cyfrif y rheiny sy’n cysgu mewn llefydd agored anghonfensiynol a holodd a yw’n debygol y bydd cynnydd mewn trethi. Eglurwyd y disgwylir cynnydd bychan, yn fwy nag yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Holwyd a oedd unrhyw themâu cyffredin a oedd yn peri i bersonau gysgu mewn llefydd agored anghonfensiynol. Ymatebwyd bod rhesymau cymysg.

Text Box: Casgliadau’r Pwyllgor: Derbyniodd y Pwyllgor Dethol yr adroddiad a rhoddwyd ystyriaeth i’r modd mae Cymorth Tai Gateway yn cefnogi aelwydydd bregus, yn enwedig y rheiny a fygythir gan ddigartrefedd neu sy’n ddi-gartref dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Diolchwyd i aelodau’r tîm am eu gwaith caled.

 

Dogfennau ategol: