Agenda item

Dyfodol Cynllun Prydlesu Preifat: Adroddiad Dilysrwydd Dyladwy ac Opsiynau

Cofnodion:

Pwrpas

 

Mae cytundeb y Cyngor gyda Melin Homes i reoli'r Cynllun Prydlesu Preifat yn dod i ben ym Mehefin 2018. Pwrpas yr adroddiad yw gwneud y Pwyllgor yn ymwybodol o ganfyddiadau ymarfer astudrwydd dyladwy ac ystyried yr opsiynau ar gyfer dyfodol rheoli'r cynllun. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid llety dros dro Llywodraeth Cymru a'i berthnasedd i'r  Cynllun Prydlesu Preifat.

 

 

Materion Allweddol

 

·         O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ymateb i ddigartrefedd ac atal digartrefedd, ill dau. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi'r p?er i gyflawni'r dyletswyddau cysylltiedig yn y sector rhentu preifat. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu'n flaenoriaeth i gryfhau gweithgarwch atal, gan gynnwys ymgysylltu â landlordiaid preifat i alluogi mynediad i'r llety preifat fel dewis arall yn hytrach na dibynnu ar dai cymdeithasol a'r angen i ddefnyddio llety gwely a brecwast.

 

·         Mae'r Cyngor wedi gweithredu Cynllun Prydlesu Preifat ers dros ddeng mlynedd. Fe'i sefydlwyd i ddechrau oherwydd diffyg tai cymdeithasol. Mae'r cynllun yn cefnogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac yn helpu lleihau'r defnydd o lety gwely a brecwast. Trosglwyddwyd y Cynllun Prydlesu Preifat i Melin Homes yn 2009 ar ôl i'r tendr gael ei gynnig.  Daw hyn i ben ym mis Mehefin 2018. Bellach mae angen gwneud penderfyniad yngl?n â dyfodol y Cynllun Prydlesu Preifat ac mae'r Cyngor yn paratoi ar gyfer diwedd y contract ac yn ymgymryd â phroses o astudrwydd dyladwy.  Gweler Atodiad 1. Nid yw Melin bellach yn dymuno rheoli'r cynllun, yn rhannol, oherwydd newidiadau Diwygio Lles.

 

·         O berthnasedd y penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau o fis Ebrill 2017 i gael gwared ar y gallu i hawlio cymhorthdal ffi rheoli llety dros dro o £60 yr wythnos, trwy fudd-dal tai. Mae Llywodraeth Cymru wedi disodli hyn gyda'r Grant Cymorth Cyfradd ychwanegol.

 

·         Er bod y Cyngor yn ceisio’n barhaol i gael mynediad i gyfleoedd rhent preifat, mae'r gallu i ddarparu'r nifer angenrheidiol o eiddo yn gyfyngedig am nifer o resymau, gan gynnwys:

 

o   Fel arfer, mae ymgeiswyr digartref yn gartrefi incwm isel ac yn derbyn budd-dal.

o   Mae asiantaethau Gosod a landlordiaid yn aml yn amharod i dderbyn aelwydydd sydd ar fudd-daliadau.

o   Ni all llawer o gartrefi fforddio cwrdd â rhenti lleol a chostau'r sector preifat o flaen llaw. Dim ond gallu cyfyngedig sydd gan y Cyngor i gefnogi yn hyn o beth.

o   Mae aelwydydd sy'n agored i niwed yn aml yn cael eu canfod, yn aml yn anghywir, fel perygl i landlordiaid.

o   Mae rhai teuluoedd ag anghenion cymhleth yn anodd lletya mewn unrhyw sector.

 

·         Mae'r opsiynau canlynol, sydd wedi'u gwerthuso'n llawn yn Atodiad 1, ar gael:

 

o   Opsiwn 1 - Trosglwyddo yn ôl i'r Cyngor a pharhau i weithredu wrth geisio cadw, ond ail-drafod, gyda landlordiaid. Byddai'r Cynllun Prydlesu Preifat yn gweithredu ochr yn ochr â'r Cynllun Tai a Rennir. Ystyrir Opsiwn 1 yw'r opsiwn mwyaf priodol er mwyn cyflawni’r dyletswyddau statudol yn fwyaf effeithiol. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad Gosodiadau Mynwy.

o   Opsiwn 2 - Trosglwyddo'n ôl i'r Cyngor a therfynu'r cynllun mewn camau. Byddai hyn yn cael effaith negyddol ar atal digartrefedd oherwydd diffyg tai cymdeithasol ac opsiynau tai eraill. Byddai hefyd yn niweidiol i ymgeiswyr a bydd costau eraill yn codi, megis llety gwely a brecwast a gwariant sy'n gysylltiedig ag Atal.

o   Opsiwn 3 - Nodi darparwr newydd, er y credir na fydd fawr o ddiddordeb oherwydd natur unigryw'r gwasanaeth. Yn yr un modd, ystyrir bod y Tîm Opsiynau Tai yn y sefyllfa orau i reoli'r Cynllun Prydlesu Preifat yn uniongyrchol oherwydd yr angen am yr hyblygrwydd mwyaf, yn enwedig mewn perthynas â chefnogi aelwydydd sy'n agored i niwed.

 

Argymhellion:

 

·         Ystyried sut mae'r Cynllun Prydlesu Preifat yn cefnogi teuluoedd sy'n cael mynediad ato, dyletswyddau'r Cyngor mewn perthynas â digartrefedd, cyfrifoldebau eraill (e.e. Diogelu’r Cyhoedd) ac i ystyried goblygiadau'r gyllideb i'r Cyngor.

·         Mae'r Cyngor yn archwilio'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer cyflawni ei gyfrifoldebau am ddarpariaeth barhaol o lety dros dro, yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014 ac i'r Pwyllgor dderbyn adroddiad pellach cyn gynted ag y bo modd.

·          Parhau i weithio gyda Melin Homes a pharatoi ar gyfer diwedd y contract prydlesu preifat ym mis Mehefin 2018, gan gynnwys ceisio lleihau neu ddileu costau lle bynnag y bo modd.

·         Parhau i weithredu'r broses o astudrwydd dyladwy yn cynnwys rhoi sylw arbennig i ôl-ddyledion rhent a chyflwr eiddo.

 

Craffu gan Aelodau:

 

Craffodd yr Aelodau ar yr adroddiad a gyflwynwyd gan y Rheolwr Tai ac Adfywio a'r Rheolwr Tai Sector Preifat.   Siaradodd y Cynghorydd Sir R. Greenland fel Aelod o'r Cabinet.

Text Box: Casgliadau'r Pwyllgor Cafodd yr adroddiad ei graffu, a rhoddwyd sylw i fewnbwn yr Aelod Cabinet. Cytunwyd ar yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: