Cofnodion:
Cyd-destun:
'Dull gweithredu wedi'i gynllunio' ar flaenraglen waith Craffu er mwyn cynyddu effeithlonrwydd a gwerth ychwanegol gweithgaredd craffu, gan sicrhau ffocws ar bynciau y brif flaenoriaeth i'r Cyngor a'r rhai sy'n adlewyrchu'r budd cyhoeddus.
Materion Allweddol:
Cynhaliwyd cyfarfodydd trafod rhaglen waith rhwng Cadeirydd newydd y Pwyllgor Dethol a'r prif swyddog perthnasol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a phynciau a amlygwyd fel bod angen craffu yw::
Comisiynu Gwasanaethau Oedolion yn y Dyfodol - yn gysylltiedig â "Troi'r Byd a'i Ben i Lawr"
Pwysau Cyllideb o fewn gwasanaethau a dadansoddi gwariant
Datblygu Cymunedol a Llesiant
Strategaeth Cefnogi Pobl
Llesiant - Trafodaeth gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy ar y stoc bresennol a datblygu cartrefi newydd, cefnogaeth ar gyfer diwygio lles
Tai: (awgrwymwyd Medi 2017)
Porth Cymorth Tai
Polisi Digartrefedd Tywydd Oer
Protocol Argyfwng Tywydd Difrifol
Dileu Ffi Rheoli Llety dros Dro
Adroddiad Llety i'r Digartref (Dyfodol Lesau Preifat)
Asesiad o'r Farchnad Tai Leol
Cynllun Lesau Preifat Melin
Gwasanaethau Sipsiwn a Theithwyr
Strategaeth Atal Digartrefedd - dechrau 2018
Addasiadau i'r anabl ymhellach i'r cyllid ychwanegol ar gyfer 2017/18
Adroddiad Cwynion Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafodd yr eitemau dilynol eu dynodi ar gyfer cyd-graffu gyda'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc:
Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth - cyfrifoldeb y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Ionawr/Chwefror 2018)
Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Hydref 2017)
Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - cysylltiedig gydag oblygiadau Grant Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
Llesiant - cyfrifoldebau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn ymwneud â chymunedau cysylltiedig a diwallu anghenion
Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 - adolygu'r 18 mis diwethaf ynghyd â dyletswyddau’n ymwneud â charchardai (Mawrth 2018)
Cynnydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol - Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
Gwasanaeth Integredig Rhanbarthol ar Awtistiaeth
Annual Complaints Report for Social Services
Craffu gan Aelodau:
Rhoddodd Aelodau'r Pwyllgor Dethol sylwadau fel sy'n dilyn:
· Mae tai yn flaenoriaeth;
· Dywedwyd fod dileu toll Pont Hafren a'r cynnydd dilynol a ragwelir mewn rhenti preifat a phrisiau eiddo yn flaenoriaeth. Bydd pob Pwyllgor Ddethol dan arweiniad Economi a Datblygu yn ystyried hyn.
· Awgrymwyd fod gofal yn y cartref yn bwnc ar gyfer craffu, yn neilltuol, sut y darperir hyn a'r hyfforddiant a dderbyniwyd a throsiant gofalwyr. Cytunwyd y caiff y materion hyn eu hychwanegu at y rhaglen waith fel rhan o ystyried comisiynu gwasanaethau oedolion yn y dyfodol - yn gysylltiedig â "Troi'r Byd â'i Ben i Lawr".
· Gan fod y boblogaeth 65+ yn tyfu'n gyflym, bydd mwy o unigrwydd ac arwahanrwydd ac mae angen dynodi bylchau ar draws y sir na chaiff eu llenwi gan grwpiau gwirfoddol i asesu ble mae angen mwy o ofal. Cytunwyd ychwanegu hyn at y rhaglen waith fel rhan o'r drafodaeth ar Ddatblygu Cymunedol a Llesiant.
· Dynododd Aelod bum thema trosfwaol sy'n effeithio ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn nhermau modelau gofal, gwasanaeth ac ansawdd. Gofynnodd pa un oedd y ffordd orau i'r sector cyhoeddus ddefnyddio profiad a galluedd y sector gwirfoddol a phreifat wrth gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau a siaradodd am geisio deall beth yw'r trefniadau comisiynu ac os bydd model darparu arall. Soniwyd am yr angen i ddeall, gan ystyried agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer cydweithredu ac integreiddio, sut i ddarparu gwasanaethau gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Fel canlyniad, tanlinellwyd pa mor bwysig yw hi bod y Pwyllgor Dethol yn trefnu sesiynau gyda'r bwrdd iechyd lleol. Codwyd trefniadau llywodraethiant y dyfodol er mwyn cyflwyno'r cydweithredu fydd ei angen dan y ddeddfwriaeth newydd. Yng nghyswllt gweithlu, siaradodd am yr angen i ddeall galluedd, gofynion ac anghenion o fewn y Sir ac ystyried sut i gydbwyso adnoddau a galw am iechyd a gofal cymdiethasol o gofio am heriau sicrhau newid gwirioneddol p'un ai'n genedlaethol, rhanbarthol neu leol.
Cyfeiriodd yr Aelod at yr oedi mewn trosglwyddo i ysbyty, deall darpariaeth gwasanaeth cymunedol a mynegodd ddymuniad i ddeall asesiad y Bwrdd Iechyd o bwysau gwasanaeth yng ngoleuni datblygiad yr M4 a dileu tollau Pont Hafren. Soniodd am bwysau gwasanaeth yn ne'r sir a dywedodd fod rhai pobl yng Nghas-gwent yn dewis defnyddio gwasanaethau yn Lloegr. Dywedwyd fod gan y Cyngor Iechyd Cymunedol symiau sylweddol o wybodaeth berthnasol. Er y credid fod cofnodion cyfarfodydd y cyngor iechyd cymunedol yn gaeedig ac nad ydynt ar gael, cytunwyd holi beth yw'r sefyllfa bresennol.
Dogfennau ategol: