Agenda item

Adroddiad perfformiad 2016/17.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Craffu’r wybodaeth ar berfformiad 2016/17 sydd dan gylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, mae hyn yn cynnwys:

 

·                Adrodd nôl ar ba mor dda y perfformiodd yr Awdurdod yn erbyn yr amcanion a osododd y Cyngor blaenorol ar gyfer 2016/17.

 

·                Gwybodaeth o’r modd y perfformiodd yr Awdurdod yn erbyn ystod o fesurau a osodwyd yn genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a ddefnyddir gan bob Cyngor yng Nghymru.

 

Materion Allweddol:

 

Mae gan y Cyngor ar hyn o bryd fframwaith perfformiad ac o’i fewn mae’r Awdurdod yn trosi’i weledigaeth – adeiladu cymunedau cynaliadwy a chadarn – i mewn i weithredu a sicrhau bod pawb yn tynnu yn yr un cyfeiriad i gyflawni canlyniadau real a gweladwy. 

 

Dros y blynyddoedd i ddod mae ffurf y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru’n debygol o newid yn sylweddol dan ddylanwad dau ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth Gymreig, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ynghyd â phwysau ariannol, newidiadau demograffig, newidiadau mewn anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid a newidiadau mewn rheoliadau a pholisi. Mae angen i wasanaethau barhau i feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau, ceisio osgoi problemau cyn iddynt godi a chymryd agwedd fwy cydgysylltiedig.   

 

Mae’r Cyngor yn ddiweddar wedi cwblhau dau asesiad sylweddol o angen o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon. Mae’r wybodaeth hon wedi darparu sail tystiolaeth lawer dyfnach o lesiant yn y Sir ac, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, defnyddiwyd hi i gynhyrchu amcanion a datganiad y Cyngor  2017.

 

Mae’r gogwydd mewn ffocws yn yr amcanion llesiant yn golygu y bydd angen i weithgareddau ganolbwyntio ar heriau tymor hwy ar lefel gymunedol yn hytrach na rhai o faterion ac allbynnau’r broses fewnol y gellid dod o hyd iddynt weithiau yn ei ragflaenydd, y Cynllun Gwelliant. Wrth ddelio â heriau cymdeithasol mwy cymhleth fe gymer fwy o amser i newid y gellir ei fesur ddigwydd ac yn hwy fyth i allu tystio i’r newidiadau hynny mewn ffordd ystyrlon. Yn y tymor byr fe ddeil cerrig milltir y gellir eu defnyddio i olrhain siwrnai welliant yr Awdurdod. Caiff hon ei chefnogi gan ystod o adroddiadau perfformiad y gall pwyllgor dethol wneud cais amdanynt fel rhan o’i raglen waith ac adolygir strwythur yr adroddiadau perfformiad a dderbyniwyd gan y pwyllgor i adlewyrchu’r pwyslais hwn.

 

Mae Atodiad 2 o’r adroddiad yn amlinellu’r camau gweithredu a’r mesurau perfformiad a gymeradwywyd gan y Cyngor ym Mai 2016 fel rhan o’r Cynllun Gwelliant. Ynghyd â chael eu cyflwyno i’r pwyllgorau dethol cynhwysir yr amcanion ochr yn ochr â gwerthusiadau pellach o berfformiad yn  2016/17 a gaiff eu hadrodd i’r Cyngor a’u cyhoeddi erbyn mis Hydref 2017. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n ddiweddar ar gynlluniau i ddiddymu Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 sy’n golygu ei bod yn debyg mai hwn fydd y cynllun terfynol a’r adroddiad yn y diwyg hwn. 

 

Mae Atodiad 3 o’r adroddiad yn darparu cerdyn adroddiad ar berfformiad yn 2016/17. Mae hwn yn cyflwyno data o’r fframwaith mesur newydd a gyflwynwyd yn 2016/17 fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac mae’n ei osod o fewn cyd-destun gofynion y ddeddf a chyfraniad i amcanion y Cyngor. Mae’r mesurau perfformiad yn wead o ddata meintiol a data ansoddol a gasglwyd drwy holiaduron i blant a rhieni ynghylch eu profiad o’r gwasanaethau cymdeithasol ac a oedd y profiad hwn wedi gwella’u llesiant. Gosodwyd targedau ar gyfer  2016/17 lle’r oedd hynny’n ddichonadwy a chynhwyswyd targedau ar gyfer 2017/18 lle maent ar gael ac yn berthnasol, helaethir y rhain  pan fydd data awdurdodau lleol cymharol ar gael yn nhymor yr hydref 2017.

 

Mae gweithgaredd sy’n cyfrannu at gyflawni rhai o’r amcanion yn torri ar draws cylchoedd gwaith pwyllgorau dethol a chafodd y rhain eu hadrodd i’r pwyllgorau perthnasol eraill hefyd. 

 

Craffu Aelodau:

 

·         Nodwyd bod rhai rhieni’n dewis peidio â derbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim i’w plant ond yn hytrach yn cymryd credyd cynhwysol. Mynegwyd pryder y gallai hyn effeithio ar y ffigurau prydau ysgol am ddim parthed cyrhaeddiad. Hysbyswyd Aelodau’r Pwyllgor Dethol bod y ffigurau ar gyfer cyrhaeddiad yn cynnwys y myfyrwyr hynny a oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ac nid yn unig ar gyfer y myfyrwyr hynny a oedd yn dewis derbyn prydau ysgol am ddim.

 

·         Mae patrwm yn ymddangos sef bod pobl yn gwneud dewisiadau ynghylch y budd-daliadau a dderbyniant a allai eu heithrio rhag derbyn prydau ysgol, yn ddibynnol ar ba lwybr y cymerant. Edrychir ar y mater hwn ar y cyd ar draws rhanbarth Gwent i ddeall y mater hwn yn well. 

 

·         Caiff nifer y plant sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim effaith ar yr ysgolion mewn perthynas â grant datblygu disgyblion. Mae po isaf y ganran o blant mewn ysgol sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn newid â pha ysgol mae’r awdurdod yn cymharu’r ysgol honno.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch targedau perfformiad, nodwyd bod y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) yn gweithio’n agos gydag ysgolion mewn perthynas â gosod targedau ac mae’n edrych ar gyrhaeddiad disgyblion unigol posib. Felly, mae ynghylch gosod targedau sy’n realistig ond hefyd yn mwyafu gallu’r disgyblion hynny.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch y dirywiad yn nangosydd perfformiad y Cyfnod Sylfaen, nodwyd bod yna ychydig o lithro nôl. Fodd bynnag, hysbyswyd y Pwyllgor bod yr Awdurdod yn cyflawni ar y lefel uchaf yng Nghymru yn nhermau’r Cyfnod Sylfaen sy’n cyfateb efallai i un neu ddau blentyn heb gyflawni’r lefel ddisgwyliedig deilliant 5. Bydd un plentyn ag anghenion addysgol arbennig mewn dosbarth yn cael effaith ar y dangosydd perfformiad. Ar hyd y flwyddyn mae swyddogion wedi bod yn siarad ag ysgolion am y Cyfnod Sylfaen mewn perthynas â’r lefel a gyflawnir. Bydd y lefel ddisgwyliedig +1 yn cynnwys y gwelliannau y mae’r ysgolion yn eu gwneud yn y Cyfnod Sylfaen. Dynodir y gwelliannau hyn yn adroddiad y Prif Swyddog a dderbynnir gan y Pwyllgor Dethol yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch y gostyngiad yn niferoedd y staff addysgu, nodwyd bod ysgolion wedi bod dan bwysau ariannol yn y blynyddoedd diweddar a bod yn rhaid i ysgolion wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch eu strwythurau staffio. Lle mae plant gydag anghenion addysgol arbennig yn cael eu cadw o fewn y Sir caiff hyn ei gydnabod a’i gyllido yn unol â hynny. Nid yw’r gefnogaeth ar gyfer y plant hynny sydd ei hangen yn cael ei thynnu mewn ysgolion prif ffrwd. 

 

·         Nodwyd bod nifer y datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) wedi gostwng yng ngoleuni gweithredu Cymorth Gweithredu Adnoddau Ychwanegol Ysgol (CGAYY). Fel mae Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yn gwneud ei ffordd drwy’r Cynulliad Cenedlaethol bydd hyn yn arwain at ddiwedd Datganiadau a Chymorth Gweithredu Adnoddau Ychwanegol Ysgolion ac fe fydd Cynlluniau Datblygu Disgyblion i bob plentyn ag ADY. Yn nhermau lle mae’r Awdurdod nawr, mae cynnydd sylweddol mewn ceisiadau am ddatganiadau a Chymorth Gweithredu Adnoddau Ychwanegol Ysgolion o ysgolion cyn y newid mewn deddfwriaeth.

 

·         Bydd adroddiadau’r dyfodol yn darparu’r union ffigurau ochr yn ochr â gwerthoedd canrannol.

 

·         Nid yw canlyniadau Prydau Ysgol am Ddim lle byddai’r Awdurdod yn disgwyl iddynt fod a chaiff ysgolion eu herio fel bod yr ysgolion yn gwybod lle mae’r disgyblion Prydau Ysgol am Ddim yn eu datblygiad a’r hyn sydd ei angen arnynt yn nhermau mwy o gefnogaeth i gyrraedd y lefelau disgwyliedig.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch nifer y staff asiantaeth sy’n gweithio mewn gwasanaethau plant, nodwyd mai’r diben yw cael gweithlu parhaol a chadarn a sicrhau y penodir y person cywir. Nodwyd bod y targed o gael tri staff asiantaeth yn gweithio i’r Awdurdod yn uchelgeisiol gan fod llawer o gystadleuaeth i ddenu gweithwyr cymdeithasol. Fodd bynnag, fe wnaed cynnydd..

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch amddiffyn plant  nodwyd, mewn cymhariaeth ag awdurdodau lleol eraill, bod ffigurau  amddiffyn plant yn isel o fewn Sir Fynwy a’u bod o fewn lefelau targed yr Awdurdod. 

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

  • Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor.

 

Penderfynasom dderbyn yr adroddiad gan nodi’i gynnwys.

 

 

 

Dogfennau ategol: