Agenda item

Datganiad Cyfrifon Drafft (fel rhagarweiniad i'r broses graffu) yn cynnwys Datganiad Llywodraethiant Blynyddol

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor ddatganiad drafft o’r cyfrifon ar gyfer 2016/17 a rhoddwyd cyflwyniad iddynt. Yn dilyn hyn, gwahoddwyd cwestiynau.

 

Holodd Aelod a gymhwysir unrhyw gyfraddau adenillion mewnol pan fenthycir yn fewnol. Atebwyd, ar gyfer prosiectau, gellid codi cyfradd llog fewnol ond nid ar gyfer benthyca arian parod, (cynilo yn erbyn cost benthyca allanol, gan nodi, er enghraifft, y byddai buddsoddiad o’r swm a fenthycwyd oddeutu  1.5% - arbediad o bron 1% yn y cyfrif Refeniw).

 

Yn ail, holwyd a fyddai gwariant cyfalaf sylweddol yn cael ei ddileu dros amser neu’n cael ei ddileu ymhen blwyddyn. Eglurwyd bod costau’n cael eu dileu dros oes asedau. Yn achos y fferm solar byddai hyn am 20 mlynedd. Cymerodd yr achos busnes agwedd ddarbodus o ystyried cyfradd fenthyca Bwrdd y Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ond, fe gymerodd allan fenthyciad di-log o gynllun Salix Llywodraeth Cymru.

 

Wrth ystyried adeiladu dwy ysgol uwchradd newydd, cwestiynodd Aelod, a chafodd hyn ei gadarnhau, bod yr eiddo newydd yn dod yn ased ar y fantolen a ddaw’r adeiladau newydd yn ased ar y fantolen a’u body n cael eu hasesu i benderfynu oes ddefnyddiol a phriodol i gyfrifo dibrisiant (yn yr achos hwn rhwng 50-60 mlynedd). Eglurwyd ymhellach fod tri math o ysgolion, ysgolion a gynhelir, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Ni fyddai’r adeiladau yng nghategori ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn cael eu dal ar y gofrestr asedau ac eithrio’r cae chwarae.

 

Cwestiynwyd hefyd a oedd unrhyw oblygiadau treth mewn perthynas â dibrisiant asedau. Cadarnhawyd bod gan y sector cyhoeddus gyd-destun gwahanol ar gyfer enillion a cholledion cyfalaf na’r sector preifat. Mae ailbrisiad cyfnodol o bob ased bob 4 blynedd. Gwneir addasiad ar gyfer unrhyw amrywiad mewn gwerth yn y cyfrif ailbrisio.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad, gan gyfeirio at Gronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Ffermio Sir Fynwy, Cyfrifon Canolfan Lesiant Gymdeithasol Llanelly Hill ac unrhyw gronfeydd eraill o’r fath, ynghylch eu rheolaeth ac a yw hon yn swyddogaeth briodol ai peidio i’r Cyngor. Gwnaed sylw ei bod yn anodd torri statws ymddiriedolaeth gan nad oes corff arall mewn  gwell sefyllfa i ddal y swyddogaeth. Darparwyd eglurhad, yn hanesyddol trosglwyddwyd rhai cronfeydd elusennol bychain i’r Gronfa Gymunedol ond ni theimlwyd ei bod yn briodol trosglwyddo rheolaeth cronfeydd mwy.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir B. Strong fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu fel aelod o Bwyllgor Cronfeydd Eglwys Cymru.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y ffigurau wedi bod drwy graffu manwl.

 

Nododd y Cadeirydd fod cronfeydd wrth gefn ar gael  na ellir eu defnyddio sy’n negyddol ac sy’n cyfateb i’r gronfa bensiwn. Eglurwyd bod y gronfa bensiwn wrth gefn yn adlewyrchu lefel atebolrwydd y gronfa i’w haelodau yn erbyn y cyfraniad a wneir ac o ganlyniad yn dangos  sefyllfa negyddol.  Dros y tair blynedd nesaf bydd cyflogwyr yn gwneud cyfraniadau cynyddol i’w haelodau. Ychwanegwyd ei bod yn llai problematig i gael cynllun agored y mae’r holl gyflogeion newydd yn gymwys i ymuno ag ef. Mae nifer o gynlluniau wedi cau ac nid yw cyfraniadau aelodau newydd o ganlyniad yn cael eu derbyn i mewn i’r gronfa. Mewn cynllun agored mae’r aelodau cyfredol yn talu am atebolrwydd y costau fel y mae aelod yn ymddeol ac fe gaiff y gronfa’i hail-lenwi yn ei thro fel y byddant yn ymddeol. Caiff sensitifrwydd marchnadoedd hefyd ddylanwad sylweddol ar gronfeydd pensiwn. Cydnabuwyd bod colled ar bapur yn y gronfa wrth gefn na ellir ei defnyddio a gwnaed sylw nad oedd cronfeydd pensiwn yn y sector cyhoeddus yn cael eu cyllido’n llawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd ei fod yn Gynllun Buddiannau Diffiniedig.

 

Fel yr argymhellwyd, adolygodd y Pwyllgor Ddatganiad o Gyfrifon drafft Cyngor Sir Fynwy ar gyfer 2016-17, fel y’u cyflwynwyd i’w harchwilio, adolygodd y datganiadau o gyfrifon gan gynnwys y rhestr ganlynol:

 

·         Cronfa Deddf Eglwys Cymru Cyngor Sir Fynwy;

 

Nodwyd bod y ffigurau terfynol mewn perthynas â’r Cronfeydd Ymddiriedolaeth canlynol, eto i’w cyflenwi:

 

      i.        Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Ffermio Sir Fynwy

      ii.            Cyfrifon Canolfan Lesiant Gymdeithasol Llanelly Hill.

 

Dogfennau ategol: