Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Alldro’r Trysorlys gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol.
Yn greiddiol i weithgaredd rheoli trysorlys y Cyngor mae Cod Ymarfer CIPFA ar Reolaeth y Trysorlys (“y Cod”), sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu’n flynyddol Ddangosyddion Darbodus a Datganiad o Strategaeth Reoli’r Trysorlys ar eu gweithgarwch cyllido a buddsoddi tebygol.
Roedd yr agweddau allweddol ar alldro fel a ganlyn:
Benthyca allanol
£m £m
Ebrill 16 Maw 17 Cyfradd Gyfartalog
Tymor Byr 26.6 19.5 0.6%
Tymor Hir 68.2 69.8 4.5%
Cyfanswm 94.8 89.3
y Benthyciad
Buddsoddiadau
Tymor Byr & 11.4 4.5 0.35%
Arian Parod
& Chyfwerth
ag Arian Parod Cyfnod Buddsoddi
Cyfartalog o 3 diwrnod
@ 31/3/17
Benthyca Net 83.4 84.8
Y Gofyn am Gyfalaf Cyllido £m
31 Mawrth 2017 134.6
1 Ebrill 2016 114.1
Symudiad 20.5
Cadarnhawyd y bydd ymgynghorwyr trysorlys, Arlingclose, yn darparu hyfforddiant ar bolisi’r trysorlys ym mis Hydref 2017. Gwahoddwyd Aelodau i ddarllen datganiad hunanasesiad CIPFA cyn y cyfarfod nesaf, i asesu lefel sgiliau’r Pwyllgor a’r anghenion datblygu i ddylanwadu ar gynnwys hyfforddiant.
Wedi derbyn yr adroddiad, gwnaeth yr Aelodau’r sylwadau canlynol:
Cwestiynodd Aelod, os yw’r awdurdod yn ymgymryd â newid strwythurol, a allai costau gael eu priodoli fel gwariant cyfalaf ac yna benthyca yn erbyn y gwariant cyfalaf yn hytrach na llif arian. Yr ymateb oedd bod diffiniadau cyfalaf mewn perthynas ag asedau'n amodol ar 3 phrawf llym (a yw’n gwella’i werth, ei oes neu’i ddefnydd) ac nid yw ailstrwythuro fel arfer yn syrthio i mewn i’r categorïau hyn. (Mae esemptiad penodol yng nghyfarwyddyd cyfalaf Llywodraeth Cymru sy’n eithrio costau cyfalafu dileu swyddi lle mae achos wedi’i brofi). Tra gellid gwneud hyn, yn hanesyddol mae’r rhaglen gyfalaf wedi’i chyfyngu ac mae’n darparu ond ychydig ychwanegiad wrth gefn i’w defnyddio yn y modd hwn. Y flaenoriaeth fwyaf fu darparu dwy ysgol uwchradd yn y sir.
Cwestiynodd Aelod y term “Bail ins” a rhoddwyd yr eglurhad ei fod yn golygu rheoliadau’r llywodraeth i osgoi banciau’n cael eu cymryd i reolaeth y llywodraeth pan fyddant mewn trafferthion. Dan reoliadau, amddiffynnir cronfeydd buddsoddwyr preifat i derfyn ariannol o £85,000, fodd bynnag byddai’n ofynnol i fenthycwyr sefydliadol megis awdurdodau lleol ysgwyddo cyfran Felly, ni fyddai’n ddarbodus ymddiried symiau mawr o arian gyda banciau gwan. O ganlyniad, mae buddsoddiadau arian parod yn gyfyngedig, felly’r ffafriaeth i ddefnyddio benthyca mewnol a defnyddio’n harian parod i osgoi benthyca o fanciau bregus. Ychwanegwyd ei bod yn fwy a mwy anodd adnabod banciau sy’n cwrdd â gofynion y cyfraddau a osodir yn strategaeth y trysorlys.
Gwnaeth Aelod sylw bod y Gofyniad Cyllido Cyfalaf (GCC) wedi codi o £20.5m a gofynnodd am wybodaeth ychwanegol. Atebwyd mai hon yw’r elfen o’r gwariant cyfalaf a gyllidir gan fenthyca. Nid yw prosiectau a gyllidir gan dderbyniadau cyfalaf neu grantiau penodol yn cynyddu'r GCC. Mae’n bwysig talu Darpariaeth Isafswm Refeniw (DIR) a chanran o’r GCC, cam darbodus i sicrhau nad yw’r GCC yn rhy uchel. Mae’r Cyngor yn penderfynu beth i’w ychwanegu i mewn i’r rhaglen gyfalaf ac yn 2016/17 cytunwyd i godi gwariant Ysgolion y Dyfodol, buddsoddi mewn ffermydd solar a disodli cerbydau ar ddiwedd eu bywyd defnyddiol gan godi’r GCC o £20.5 M. Tra nad yw’n ddiofal, monitrir y gallu i gynnal taliadau DIR ac ar hyn o bryd mae’n argoeli’n gynaliadwy.
Gwnaeth Aelod sylw, ar y wybodaeth ddiweddaraf, bod y buddsoddiad yn y fferm solar yn fuddsoddiad buddiol a’i fod yn cynhyrchu symiau sylweddol o drydan.
Cytunodd Aelodau’r argymhellion i nodi canlyniadau gweithgareddau rheoli’r trysorlys a’r perfformiad a gyflawnwyd yn 2016/17.
Dogfennau ategol: