Agenda item

CAIS C/2017/00159 - DWY ANNEDD AR WAHÂN A LÔN MYNEDIAD YN YMESTYN Y LÔN BRESENNOL. CAE ELGA, HEOL HIGHFIELD, OSBASTON, TREFYNWY, NP25 3HR.

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad at dai fforddiadwy.

 

Amlinellodd yr Aelod Lleol dros Dixton gydag Osbaston, a fynychai’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

Llifogydd a Draeniad 

 

·         Mae’r ardal mewn perygl o orlifoedd sydyn, ynghyd â gorlifo yn y gaeaf o ganlyniad i’r pridd trwm cleiog a goledd y llethr.

 

·         Mae gan yr Aelod Lleol brofiad personol o orlifoedd sydyn.

 

·         O blith gwrthwynebwyr Heol Highfield, dim ond un gwrthwynebydd sydd yn uwch i fyny na Chae Elga, gyda phum gwrthwynebydd islaw’r eiddo. Mae pob un o’r gwrthwynebwyr hyn wedi crybwyll y draenio a’r llifogydd.

 

·         Ni wrthwynebodd yr anheddau ar Heol Agincourt, sy’n edrych dros y safle hwn, y cais.

 

·         Efallai na allai system ddraenio gynaliadwy (SUDS) ymdopi ag effeithiau gorlif haf sydyn. 

 

·         Mae gan y tai modern sy’n ffinio â’r safle broblemau draenio cyfredol.

 

·         Efallai bod angen arolygu’r pridd cyn cymeradwyo’r cais i asesu hyfywedd SUDS.

 

Carthion

 

·         Mae preswylwyr lleol wedi hysbysu’r Aelod Lleol fod pibell garthion sy’n rhedeg dan Heol Highfield yn is na’r safonau mabwysiadu, a wrthododd D?r Cymru ei mabwysiadu’n wreiddiol, ond sydd wedi’i mabwysiadu’n ddiweddarach. 

 

·         Gan mai tanc carthion sydd yng Nghae Elga, a’r tai newydd arfaethedig yn is na lefel yr heol, mynegwyd pryder efallai na allai’r system garthion bresennol allu ymdopi â’r tair annedd newydd ynghlwm wrthi. 

 

·         Mae’r tanc carthion wedi torri yn y gorffennol gan beri problemau i nifer o anheddau, am gyfnod o amser.

 

·         Byddai angen system bwmpio ar gyfer yr anheddau newydd. Gallai methiant mecanyddol posib yn y dyfodol arwain at ryddhau carthion fyddai’n effeithio ar anheddau lleol.

 

Graddfa’r Datblygiad

 

·         Nid yw preswylwyr lleol yn ffafrio graddfa arfaethedig y datblygiad.

 

·         Symud coed, agosatrwydd lleiniau o bersbectif parcio, symud swmp priodol o ofod amwynder ar gyfer adeilad ar raddfa Cae Elga.  Byddai preswylwyr yn ei chael yn fwy derbyniol petai’r ymgeisydd yn dychwelyd â chais am un annedd yn hytrach na dwy annedd. 

 

Mynychodd Ms. K. Potts, yn cynrychioli gwrthwynebwyr i’r cais, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae Heol Highfield yn serth, yn gul a heb balmant.

 

·         Mae byw’n iach yn cymell cerdded.

 

·         Mae rhieni â phlant ifanc a choetsis yn cerdded i’r ysgol gynradd leol, mae plant h?n yn cerdded i’r tair ysgol uwchradd ac mae pobl oedrannus yn cerdded i’r safle bws lleol, yn cadw’n heini er mwyn helpu i leihau llygredd traffig drwy beidio â defnyddio cerbydau. 

 

·         Mae’r lleoliad eisoes yn beryglus i gerddwyr, yn enwedig ar oriau brig amserau ysgol a gwaith.

 

·         Mae traffig sylweddol yn teithio lan a lawr y rhiw, yn aml yn teithio ar gyflymder gormodol ar yr amserau brig hyn.

 

·         Bydd nifer y symudiadau traffig ychwanegol a gynhyrchir yn ddyddiol gan y lleiniau parcio newydd a’r nifer o gerbydau ynghlwm wrth ddatblygiad y safle yn gwaethygu’r posibilrwydd o berygl.

 

·         Bydd gorddatblygu’r safle’n peryglu bywydau.

 

·         Mae’r tir o gwmpas Clôs Highfield yn cynnwys clai trwm. Mae d?r glaw yn rhedeg lawr fel d?r wyneb o Heol Agincourt dros y caeau ac i mewn i Gae Elga, sy’n sugno i fyny’r d?r dros ben. Mae peth d?r yn rhedeg i ffwrdd drwy gyfrwng y gerddi a lawr Heol Highfield gan ddwyn gweddillion gydag ef sydd wedi blocio cwteri a draeniau.

 

·         Mae’r d?r hefyd yn llanw ffos y cae sy’n rhedeg ar ben yr ardd yng Nghae Elga drwy’r tair gardd agored a lawr dan Heol Highfield os gall y draen ymdopi â’r holl dd?r.

 

·         Ymddengys y bydd un o’r anheddau arfaethedig wedi’i leoli’n agos at ffos y cae. Mynegwyd pryder y gallai’r eiddo hwn fod mewn perygl o orlifo oherwydd y ffos a’r bwriad i gwympo’r llethr. 

 

·         Mae’r preswylwyr presennol eisoes wedi profi garejis yn gorlifo a d?r yn cronni ar y lawntydd cefn.

 

·         Mae nifer o bistyll yn yr ardal. Yn ystod tywydd gwlyb, gwthiwyd d?r yng ngardd y gwrthwynebydd o dan bwysau i’r wyneb ac i’r aer.

 

·         Gyda gorddatblygu arfaethedig y llai, bydd rhan fawr o ardd  Cae Elga yn diflannu dan wyneb caled naill ai gan dai, parcio ceir, llawr caled neu dramwyfa estynedig.

 

·         Bydd angen i’r d?r na chaiff ei amsugno gan y tir redeg i ffwrdd i rywle ond ni all y tir ymdopi â’r broblem hon nawr. Bydd datblygiad yn y dyfodol dim ond yn gwaethygu’r sefyllfa.

 

·         Mae’r datblygiad arfaethedig yn gosod y tai sydd yno eisoes mewn perygl rhag llifogydd.

 

·         Yn ôl y cynllun, ni ddangosir yr holl goed a effeithir gan y datblygiad arfaethedig ac nid yw’n glir pa goed gaiff eu cadw.

 

·         Mae’r coed yn rhai collddail felly fe gwtogir eu cysgod yn ystod rhannau o’r flwyddyn.

 

·         Amgylchynir yr ardd ar ddwy ochr gan gloddiau caeau aeddfed. Mae’r anheddau arfaethedig i’w lleoli’n agos i’r cloddiau a’r coed hyn gan eu gosod dan bwysau yn ystod ac wedi cwblhau’r datblygiad.

 

·         Bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ecoleg yr ardd a’r ardal o gwmpas.

 

Mynychodd Mr. B. Spencer, yn cynrychioli’r ymgeisydd, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Gall pob safle brofi gorlifoedd haf sydyn.

 

·         Os gweithreda’r safle fel ‘ysbwng’ yna ni ddylai llifogydd fod yn broblem.

 

·         Os caiff yr anheddau arfaethedig eu hadeiladu ar y safle, bydd angen i’r holl ardaloedd allanol, gan gynnwys parcio fod yn hydraidd, gan fod y Safon Brydeinig yn gwneud hyn yn ofynnol. 

 

·         Rheolir y carthion gan Dd?r Cymru. Mae digon o le i anheddau newydd gael eu cysylltu.

 

·         Mae’r system bwmpio i godi carthion o lefel is i lefel uwch wedi hen ennill ei thir ac fe’i defnyddir nawr mewn amgylchiadau adeiladu.

 

·         Nid yw’r orsaf bwmpio yn Heol Osbaston Road erioed wedi methu.

 

·         Parthed graddfa’r anheddau arfaethedig, nid yw’r mater hwn dan ystyriaeth fel rhan o’r cais.  Mae’r cais hwn yn cyfeirio at yr egwyddor o ddatblygu a mynediad.  Mae’r cynllun yn dangos  beth ellid ei osod ar y safle. 

 

·         Mae’r cynllun yn dangos bod yr holl goed ar y safle’n mynd i gael eu hamddiffyn.

 

·         Mae’r adran briffyrdd wedi dweud na fydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio’r rhwydwaith ffyrdd lleol yn andwyol.

 

·         Parthed y coed collddail a’r cwmpas cloddiau, mae’r datblygiad yn agos ond i ffwrdd o ledaeniad gwreiddiau’r coed ac fe’i dylunnir i safon coedyddiaeth.

 

Wedi ystyried yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd, codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ni fydd effaith weledol ar anheddau cyfagos oherwydd y sgrinio naturiol sydd yno eisoes.

 

·         Ni fydd dau eiddo ychwanegol yn gwaethygu unrhyw broblemau traffig.

 

·         Ystyriai rhai Aelodau bod lle i osod dwy annedd ar y safle.

 

·         Gellid ychwanegu amod yn mynnu bod manylion draenio d?r wyneb yn cael eu cyflwyno fel rhan o faterion a gedwir yn ôl.

 

·         Bydd y datblygiad arfaethedig yn cael ei leoli ar safle tir llwyd.

 

·         Mae gerddi’n ardaloedd gwerthfawr iawn i’w cadw gan eu bod yn gwella ansawdd aer, yn lleihau perygl llifogydd ac yn darparu noddfa ar gyfer bywyd adar.

 

·         Teimlai rhai Aelodau bod angen canllawiau ynghylch adeiladu eiddo o fewn gerddi.

 

·         Mynegodd rhai Aelodau bryder bod dau eiddo a leolwyd ar y safle hwn yn enfawr wrth ystyried y seilwaith domestig yn amgylchynu’r datblygiad. 

 

·         Cydnabuwyd bod angen am dai yn Sir Fynwy, yn enwedig, yr angen am dai fforddiadwy.

 

·         Mynegwyd pryder y bydd un o’r anheddau arfaethedig yn cael ei leoli mewn ardal o berygl isel/canolig o lifogydd.

 

·         Cyfeiriwyd ystyried polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mewn perthynas â llifogydd.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch graddfa’r datblygiad ac y byddai un annedd yn fwy priodol i ddarparu mwy o dir i amsugno’r d?r wyneb.

 

·         Nodwyd bod pob cais yn cael ei ystyried yn ôl haeddiant. Caiff gerddi yng Nghymru’u hystyried yn safleoedd tir llwyd yn darparu cyfle iddynt gael eu datblygu mewn modd cynaliadwy.

 

·         Ymgynghorwyd â’r Adran Briffyrdd ynghylch y d?r wyneb ac nid yw wedi gwrthwynebu’r cais. Awgrymwyd amod i sicrhau bod y d?r sy’n rhedeg i ffwrdd yn dd?r tir âr fel na wneir y sefyllfa’n waeth nag yw eisoes.

 

·         Mae amod tirwedd y bydd angen ei gymeradwyo drwy gyfrwng materion a gedwir yn ôl gan ganiatáu mwy o blannu, yn enwedig ar hyd ymylon y safle, a fydd yn gymorth i gynyddu lefelau amsugno ar y safle.

 

·         Gellid ychwanegu amod ynghylch yr isaf o’r ddau eiddo arfaethedig yn gofyn i’r asiant leihau graddfa’r paramedrau ar gyfer mwyafswm uchder crib y safle i leiafswm o un metr, gan ei osod yn ddyfnach i mewn i’r llethr os yw’n angenrheidiol i gyflawni hynny.

 

·         Gellid delio â d?r yn rhedeg oddi ar dir âr yng nghyfnod materion a gedwir yn ôl drwy osod system wanhau i ddal unrhyw dd?r yn rhedeg i ffwrdd na ddelid drwy gyfrwng yr wynebau hydraidd.

 

·         Cynigiwyd gan Y Cynghorydd Sir Murphy ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DC/2017/00159 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad tai fforddiadwy. Hefyd, bod amod ychwanegol yn cael ei ychwanegu yn mynnu bod manylion draenio d?r wyneb yn cael eu cyflwyno fel rhan o faterion a gedwir yn ôl, i gael y d?r tir âr i redeg i ffwrdd drwy gyfrwng wyneb hydraidd a system wanhau. Yn ychwanegol yr asiant i leihau graddfa’r paramedrau ar gyfer mwyafswm uchder crib Llain A i leiafswm o un metr, gan ei osod yn ddyfnach i mewn i’r llethr os yw’n angenrheidiol i gyflawni hynny a dylid cytuno hyn drwy gyfrwng Panel Dirprwyo cyn cyflwyno’r penderfyniad.

 

Y Cynghorydd Sir L. Brown gynigiodd ein bod o blaid gwrthod cais DC/2017/00159 ar sail y ffaith bod y safle’n dueddol o orlifo ac y bydd dau eiddo ychwanegol ar y safle yn gwaethygu’r sefyllfa yng nghyd-destun  llifogydd. Eiliodd Y Cynghorydd Sir G. Howard y cais.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor bleidleisio ar y cais a bod y Pwyllgor o blaid gwrthod y cais.

 

Wedi pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gwrthod           -           15

Yn erbyn gwrthod    -  0

Atal pleidlais                -           0

 

Ni chariwyd y cynnig i’r Pwyllgor fod o blaid gwrthod y cais.

 

·         Penderfynasom fod cais DC/2017/00159 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad tai fforddiadwy. Hefyd, bod amod ychwanegol yn cael ei ychwanegu yn mynnu bod manylion draenio d?r wyneb yn cael eu cyflwyno fel rhan o faterion a gedwir yn ôl, i gael y d?r tir âr i redeg i ffwrdd drwy gyfrwng wyneb hydraidd a system wanhau. Yn ychwanegol yr asiant i leihau graddfa’r paramedrau ar gyfer mwyafswm uchder crib Llain A i leiafswm o un metr, gan ei osod yn ddyfnach i mewn i’r llethr os yw’n angenrheidiol i gyflawni hynny a dylid cytuno hyn drwy gyfrwng Panel Dirprwyo cyn cyflwyno’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: