Agenda item

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2017.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyn adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2017 – Gwella Canlyniadau Gwella Bywydau.

 

Materion Allweddol:

 

  • Mae’r adroddiad ar hyn o bryd mewn fformat drafft.

 

  • Tynnu sylw at y materion yn nhermau Plant a Phobl Ifanc a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant.

 

  • Mae fformat yr adroddiad nawr wedi’i ragnodi’n genedlaethol ac mae’n alinio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yng Nghymru.

 

  • Amserlennir yr adroddiad i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn cyn diwedd Gorffennaf 2017 a chaiff ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod yng Ngorffennaf 2017.

 

Craffu Aelodau:

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch monitro Amddiffyn Plant, nodwyd mai rheoli risg yw busnes gwasanaethau cymdeithasol. Derbynnir atgyfeiriadau ac asesir y risg ar y pwynt hwnnw. Ar gyfer plant lle mae angen ymchwilio pellach, rheolir y risg mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r Cyfarwyddwr naill ai’n gosod cynllun gofal a chymorth   yn ei le neu caiff y risg ei reoli drwy benderfyniad amlasiantaethol ac ar y gofrestr Amddiffyn Plant.

 

  • Mae mwy o blant yn cael eu rheoli drwy gynllun Amddiffyn Plant.

 

  • Un o flaenoriaethau’r Gyfarwyddiaeth ar gyfer y flwyddyn hon yw canolbwyntio’i wasanaethau cymorth teulu mewn dau le. Mae un o’r rhain ar ffiniau gofal, yn darparu opsiynau cymorth teulu dwys cyn i blant ddod i mewn i’r system derbyn gofal. Yr agwedd arall yw canolbwyntio adnoddau o gwmpas cymorth teulu, sydd cyn y gofrestr amddiffyn plant.

 

  • Felly, mae’n well ymgysylltu gyda theuluoedd yn gynt i reoli risg cyn  cofrestru amddiffyn plant.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch y diffyg data mewn rhai adrannau o’r adroddiad, hysbysodd y Prif Swyddog y Pwyllgor fod yr adroddiad yn dal mewn fformat drafft a diben dwyn yr adroddiad i’r Pwyllgor Dethol yn y cyfnod hwn yw ymgorffori unrhyw sylwadau a allai fod gan y Pwyllgor Dethol fel bod y fersiwn derfynol yn adlewyrchu’r sylwadau hynny a wnaed.

 

  • Nodwyd bod adroddiad blynyddol yn ogystal ynghylch cwynion yn y Gwasanaethau a ddaw o flaen y Pwyllgor Dethol.

 

  • Parthed fformat yr adroddiad, mae’r Ddeddf rydym yn glynu ati yng Nghymru, a ddaeth i fod o Ebrill 2017, yn cyfeirio at bobl yn hytrach nag oedolion neu blant. Mae’r adroddiad, felly, yn canoli ar bobl, yn hytrach nag ar blant neu bobl ifanc yn unig.

 

  • Parthed cwynion ynghylch materion Amddiffyn Plant, mae'r Gyfarwyddiaeth yn dysgu fel gwasanaeth ac yn gweithio gyda staff i’w cefnogi i ddatrys mwy o faterion yng Nghyfnod 1 o’r weithdrefn gwyno a chwtogi nifer y cwynion sy’n mynd ymlaen i gyfnod 2. Fodd bynnag, os gwneir cyhuddiad sydd angen ymchwiliad, cyflawnir hyn mewn ffordd amlasiantaethol gyda Heddlu Gwent. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn effeithiol mewn datrys a chau lawr y math hwn o ymchwiliad yn gyflym. Lle bu llai o gefnogaeth i deuluoedd   yw pan fydd y Gyfarwyddiaeth wedi mynd drwy broses o Amddiffyn Plant  a’r plant heb fod bellach yn byw gyda’u teuluoedd, mae proses sylweddol o alaru y mae’n rhaid i’r teulu hwnnw fynd drwyddi a phrin iawn yw’r gwasanaethau a ddarperir yn y cyfnod hwn, Felly, gall hyn arwain at gwynion yn cael eu gwneud yn erbyn y Gyfarwyddiaeth o gwmpas y broses yr ymgymerwyd â hi. Mae angen gwneud mwy i helpu’r  teuluoedd sy’n mynd drwy’r amser poenus hwn, 

 

  • Blaenoriaeth allweddol ar gyfer gwelliant i’r Gyfarwyddiaeth yw recriwtio mwy o rieni maeth o fewn y Sir. Buddsoddwyd yn y  gwasanaeth gofalwyr maeth yn fewnol er mwyn ceisio gwella’r ffigurau recriwtio ar gyfer rhieni maeth yn fewnol. Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw hyn wedi gweithio. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithio’n glos gydag isadran farchnata’r Awdurdod ac mae ymgyrchoedd cychwynnol ar y gweill i recriwtio. Mae nifer o rieni maeth posib wedi dangos diddordeb. Un o nodweddion Sir Fynwy yw bod gennym rieni maeth ond mae nifer yn dewis maethu ar gyfer yr asiantaethau yn hytrach na’r Awdurdod. Mae angen gwybod paham mae hyn yn digwydd, ac mae ymgais i ymchwilio. 

 

  • Mae Gofalwyr Teulu a Ffrindiau Sir Fynwy yn golygu, pan osodir plentyn, er enghraifft gyda pherthynas neu ffrind y rhieni, cyfeirir yn aml at hyn fel gofalwr sy’n berthynas.

 

  • Nid yw Cyngor Sir Fynwy’n gweithredu unrhyw gyfleusterau gofal preswyl. Mae gan yr Awdurdod un sefydliad gofal preswyl addysgol, sef Mounton House. Caiff y gwasanaeth hwn ei reoleiddio a’i archwilio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). 

 

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu darn arwyddocaol o waith, y mae’r Awdurdod yn rhan ohono, sy’n edrych ar y canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a ddaeth i mewn i’r system yn 2013/14.

 

  • Mae canlyniadau yng Nghyfnod Allweddol 4 i blant sy’n derbyn gofal yn flaenoriaeth ar gyfer yr awdurdod. Mae’n gohort gweddol fychan ond mae’n bwysig bod y plant hyn yn wybyddus ac yn cael eu  hadnabod yn gynnar. Mae gwaith da rhwng yr ysgol a phwy bynnag sy’n darparu’r gofal i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth y tu allan i’r ysgol ynghyd ag yn yr ysgol. Gobeithir y bydd y bylchau y mae’r plant wedi’u profi yn dechrau cael eu llanw   mae gwaith yn cael ei wneud yn barhaus i sicrhau bod darpariaeth ar gyfer y plant hynny yn briodol a bod y cyrsiau cywir ar gael iddynt. Bydd Swyddogion yn siarad gydag Estyn yr wythnos nesaf ynghylch cefnogi grwpiau sy’n agored i niwed.

 

  • Dan y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd, mae angen ymgymryd ag arolygon bob blwyddyn o oedolion gydag anghenion gofal a chefnogaeth gofalwyr ac o blant a phobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â’r Awdurdod. Mae geiriad y cwestiynau wedi’i ragnodi'n genedlaethol felly nid yw’r cwestiynau bob amser yn llifo’r ffordd y byddai’r Gyfarwyddiaeth yn hoffi gofyn cwestiynau yn nhermau  profiadau pobl o’r Gyfarwyddiaeth.

 

  • Mae angen i’r Gyfarwyddiaeth edrych yn fanylach ar y gwahaniaeth rhwng gofalwyr a’r rheiny ag anghenion gofal a chefnogaeth ac fel y gall y Gyfarwyddiaeth ddal i gefnogi gofalwyr.

 

  • Mae gan yr Awdurdod wasanaeth o’r enw Cwnsela Wyneb yn Wyneb gaiff ei redeg gan y Gwasanaeth Ieuenctid ac mae’n darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc ar draws yr holl ysgolion yn Sir Fynwy yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Cefnogir y gwaith hwn gan gymhorthdal gan Lywodraeth Cymru a chyllid craidd gan yr Awdurdod. Mae gan yr Awdurdod gwnselwyr sy’n mynd i mewn i ysgolion ac mae pobl sy’n gweithio gyda’r plant yn yr ysgol. Ymchwilir llwybrau eraill i hwyluso’r mater hwn, megis model a gaiff ei weithredu cyn bo hir lle bydd yr Awdurdod yn gweithio gydag Iechyd Meddwl Sylfaenol a fydd yn darparu proses atgyfeirio gyflymach.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch ffyrdd i gynyddu darpariaeth faeth yn fewnol drwy ddarparu esemptiadau‘r dreth gyngor i rieni maeth, fel y gwneir mewn rhai awdurdodau lleol yn Lloegr, nodwyd nad oedd esemptiad y dreth gyngor wedi’i ystyried gan yr Awdurdod ond byddai’r Gyfarwyddiaeth yn fodlon edrych ar unrhyw arfer o unrhyw awdurdod ar draws y Deyrnas Unedig lle maent wedi llwyddo i gynyddu gofal maeth yn fewnol. 

 

Nodwyd bod angen ymyrryd yn gynt lle mae a wnelo pobl ifanc sy’n agored i niwed gan sefydlu agweddau ataliol gan alluogi i fwy o blant aros gyda’u teuluoedd. Mae ystod o wasanaethau ar gael ar hyn o bryd e.e. Teuluoedd yn Gyntaf, Canolfan y Fesen, Dechrau’n Deg ac ymwelwyr iechyd. Ar lefel strategol drwy gyfrwng y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â’r 1000 o ddiwrnodau cyntaf o blant gyda’r bwriad o edrych ar yr ymyriadau sy’n ofynnol o gyfnod cyn genedigaeth i gyfnod cyn-ysgol. Mae hyn yn hynod o bwysig ac angenrheidiol i ail-ganolbwyntio adnoddau ar hyd y llinellau hyn.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch canran y staff asiantaeth a ddefnyddir, bydd y Prif Swyddog yn derbyn ac yn darparu ffigur i’r Aelod.

 

  • Ar ddechrau 2016/17 roedd 17 o weithwyr asiantaeth ar draws Gwasanaethau Plant. Mae’r nifer hon wedi bod yn gostwng yn gyson drwy gydol y flwyddyn. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd 8 gweithiwr asiantaeth o fewn y gwasanaeth sy’n ostyngiad o 50% mewn blwyddyn.

 

  • Mewn swyddi Rheoli, o’r rheolwr tîm i fyny, nid oes gan y Gyfarwyddiaeth bellach unrhyw weithwyr asiantaeth.

 

  • Dros y 18 mis blaenorol, mae enw da Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Fynwy wedi gwella’n sylweddol ac mae recriwtment dros y cyfnod hwn wedi bod yn gadarnhaol.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch y broses Amddiffyn Plant, nodwyd bod y Gyfarwyddiaeth, yn y chwe mis diwethaf, wedi symud y Tîm o Gwmpas y Teulu o Bartneriaethau i mewn i Wasanaethau Plant ac mae’r Gyfarwyddiaeth yn adolygu ac yn ailfodelu’r agwedd hon.

 

  • Mae adolygiad o gefnogaeth i’r teulu hefyd yn cael ei weithredu a’r cyfnod cyntaf yw alinio gwasanaethau i mewn i garfan fwy ystyrlon o wasanaethau.

 

  • Y flwyddyn ddiwethaf roedd y dangosydd perfformiad ar gyfer cwblhau asesiadau plant yn 75% ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae Rheolwr Tîm parhaol yn yr adran bellach ac mae’n monitro hyn yn gyson. Mae’r dangosydd perfformiad nawr yn fwy na 90%.

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

  • Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor am ofyn rhai cwestiynau dyrys ac ymhen amser, bydd y Pwyllgor Dethol yn edrych ar fonitro materion a godwyd gennym sydd angen eu gwella.

 

  • Ar ran y Pwyllgor Dethol, diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am ddarparu’r adroddiad a darparu atebion cryno i gwestiynau a godwyd a gofynnodd i’r Prif  Swyddog drosglwyddo’r diolch i’w staff  am y gwaith maent yn ei wneud.

 

 

 

Dogfennau ategol: