Cyd-destun:
Derbyngwybodaeth ar sefyllfa
refeniw alldro’r Awdurdod
ar ddiwedd
cyfnod 4 sy’n cynrychioli’r sefyllfa ariannol
alldro ar
gyfer blwyddyn 2016/17.
Argymhellion
a gynigir
i’r Cabinet:
-
Bod Aelodau’n
ystyried tanwariant refeniw net
alldro o £884,000, gwelliant o £805,000 ar ragfynegiadau
alldro chwarter 3.
-
Bod Aelodau’n
ystyried gwariant cyfalaf
alldro o £40.03 miliwn yn erbyn cyllideb
ddiwygiedig o 40.98 miliwn, wedi
llithriad arfaethedig o £17.5 miliwn, gan
arwain at danwariant net o £951,000.
-
Ystyried
a chymeradwyo
llithriad cyfalaf a argymhellwyd
o £17.5 miliwn, gan dalu sylw i’r
cynlluniau hynny a ddisgrifir
ym mharagraff 3.3.6 o’r adroddiad
lle gwnaed
cais am lithriad gan y
rheolwr gwasanaeth ond
nad yw’n cael
ei argymell
i lithro (£198,000).
-
Ystyried
y defnydd o gronfeydd wrth
gefn a gynigir ym mharagraff 3.4.1 o’r adroddiad.
-
Cefnogirhannu’r tanwariant cyffredinol
i ategu
lefelau’r cronfeydd wrth
gefn fel y
disgrifir isod, h.y.:
CronfaBuddsoddi â Blaenoriaeth
£570,000
Dileu swydd
& Chronfa Bensiwn wrth
Gefn
£114,000
Cronfa wrth
Gefn Trawsnewid TG
£100,000
Cronfa Wrth
Gefn Cynhyrchu Derbyniadau
Cyfalaf £100,000
Cyfanswm
£884,000
-
Mae Aelodau’n
nodi y bydd
y lefel isel o gronfeydd
wrth gefn a
glustnodir yn lleihau’n
sylweddol yr hyblygrwydd
sydd gan y
Cyngor I gwrdd â heriau
adnoddau prin yn y dyfodol.
-
Mae Aelodau’n
nodi’r gostyngiad arwyddocaol
yng ngweddill cyffredinol
cyllideb ysgolion ar
ddiwedd 2016/17 ac yn cefnogi’r gwaith
parhaus gydag ysgolion i
sicrhau y cyfarfyddir â gofynion Cynllun
Ariannu Tecach y Cyngor ac y
bydd gweddill cyffredinol
ysgolion yn
dal yn gadarnhaol yn
2017/18.
CraffuAelodau:
-
Mae Ysgol Gyfun Cas-gwent
wedi gwneud
gwelliannau sylweddol wrth
gwtogi’i diffyg yn y
gyllideb.
-
Bu lleihad sylweddol yng
nghronfeydd wrth gefn cyllideb ysgolion
ar draws y Sir yn y flwyddyn ariannol
hon.
-
Nodwydmai cyfrifoldeb
llywodraethwyr ysgol oedd gosod cyllideb
eu hysgolion. Cydnabuwyd
bod costau sefydlog o fewn
ysgolion. Fodd bynnag,
lle mae meysydd
lle gall ysgolion wneud
arbedion, mae Swyddogion
yn gweithio’n glos
gydag ysgolion i sicrhau bod
yr arbedion
yn cael
eu defnyddio.
-
Mae nifer o brosiectau ar
hyn o bryd
o fewn ysgolion yn
edrych ar
ffyrdd lle
gallai’r ysgolion fod
yn gallu
arbed arian.
-
Mae Swyddogion
yn gweithio’n glos
gyda’r CLlLC ac maent
yn edrych
ar fodel y
Rheolwr Busnes gyda’r
bwriad o dderbyn peth
cyllid.
-
Mynegwydpryder bod rhai
cyfrifoldebau ychwanegol yn
mynd i mewn
i ysgolion ond nid oedd y cyllid
ar gyfer y
cyfrifoldebau ychwanegol hyn
yn cyrraedd. Dywedodd y
Rheolwr Cyllid bod yn
rhaid iddi
edrych i mewn i’r mater
hwn sy’n digwydd
ar draws yr
awdurdod ac nid dim ond
yn y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc.
-
Mewnymateb i gwestiwn ynghylch
Cyfnod 3 o Adolygiad Anghenion
Dysgu Ychwanegol, mewn
perthynas ag
Ysgol Mounton House, nodwyd i gynllun
adfer dair
blynedd gael ei ganiatáu i’r ysgol.
Parthed Ysgol Gynradd Deri
View, mae
canolfan Adnoddau Anghenion
Arbennig yn
dal yno. Fodd bynnag,
gwnaed yr
arbedion oedd eu hangen drwy
gwtogi nifer y staff o ganlyniad i’r
cwymp mewn
niferoedd disgyblion.
-
Mewnymateb i gwestiwn a godwyd
parthed a allai ysgolion
weithio mwy
mewn clystyrau gyda’r
bwriad o greu mwy o ddiwrnodau hyfforddiant
mewn swydd
er mwyn
arbed arian
a derbyn hyfforddiant ar y
cwricwlwm newydd, dywedodd y
Rheolwr Cyllid y byddai’n dwyn y
mater hwn yn ôl at y
Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl
Ifanc.
- Mewnymateb i gwestiwn a
godwyd ynghylch cyllid y GCA
yn cyfateb
i £0, hysbysodd y Rheolwr Cyllid y
Pwyllgor Dethol i’r
cyllid grant fod ar gael yn 2016/17
ac nid
oedd wedi’i ddyrannu
ar y pryd
hwnnw pan dderbyniodd yr
Awdurdod y grantiau, roedd
i’w ddefnyddio ar draws
yr ysgolion. Er
enghraifft, ar gyfer clwstwr Y Fenni, roedd
yr Awdurdod
wedi derbyn
grant a oedd
i’w rannu ymhlith
yr ysgolion. Ar
ddiwedd y flwyddyn roedd
yr arian wedi
cael ei
wario gan
yr ysgolion.
Casgliad
y Pwyllgor
Ar ran y
Pwyllgor Dethol, diolchodd y
Cadeirydd i’r Swyddogion
cyllid am gyflwyno’r adroddiad.
Penderfynasomdderbyn yr adroddiad a
nodi’i gynnwys.
|