Agenda item

Diweddariad ar drefniadau Diogelu - Cynllun Kerbcraft.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Cynei gyflwyno i’r Cabinet ar 5ed Gorffennaf 2017, darparu Aelodau’r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc â diweddariad ar y cynllun  gweithredu a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 20fed Mawrth 2017 (atodiad 2 o’r adroddiad yn dwyn y teitlAdroddiad Swyddfa Archwiliad Cymru ar amddiffyn o fewn cynllun kerbcraft yng Nghyngor Sir Fynwy’).

 

MaterionAllweddol:

 

  • Yndilyn adolygiad gan SwyddfaArchwiliad Cymru (SAC) o ddarpariaeth hyfforddiant kerbcraftgan staff Cyngor Sir Fynwy ar ran Llywodraeth Cymru, hysbyswyd y Cyngor o’r cynllun gweithredu ar 20fed Mawrth  2017.

 

  • Mae Atodiad 1 o’r adroddiad yn atgynhyrchu’r cynllun gweithredu ond mewn llythrennau italaidd dan benawdau perthnasol darperir diweddariad.

 

  • Mae un o’r camau gweithredu’n gofyn am baratoi a gweithredu gweithdrefnau newydd ar gyfer darparu hyfforddiant kerbcraft ac y dylid hysbysu’r Cabinet o’r model gweithredu yn y dyfodol, Mae cyfle gan y PwyllgorDethol Plant a Phobl Ifanc adolygu’r adroddiad cyn ei fod yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.

 

  • Ynystod Mawrth ac Ebrill 2017, adolygodd Swyddogion y trefniadau gwaith blaenorol a chyfredol a datblygodd weithdrefn newydd ar gyfer darparu hyfforddiant  kerbcraft.

 

  • Darperir y gweithdrefnau newydd polisi a gwaith yn atodiadau 2, 3 a 4 o’r adroddiad.

 

  • Gwendidmawr y tynnwyd sylw ato gan SAC oedd rheoli a recordio gwirfoddolwyr a gefnogodd Gyngor Sir Fynwy wrth hyfforddi plant ymhob ysgol,

 

  • Ersi’r SAC fynegi pryder dros reoli gwirfoddolwyr yn Awst 2016, ni ddefnyddiwyd un gwirfoddolwr a darparwyd pob hyfforddiant kerbcraft gan hyfforddwyr kerbcraft yng Nghyngor Sir Fynwy, yn achlysurol gyda chymorth gan staff cymorth ysgol.

 

  • Mae’rweithdrefn newydd yn cyfyngu ar y defnydd o wirfoddolwyr i chwech ar unrhyw un adeg felly fe ddaw gwirio a chofnodi gwybodaeth amddiffyn mewn perthynas â gwirfoddolwyr yn llawer mwy syml (cyn hynny roedd angen cofnodion hyd at 80 o wirfoddolwyr). 

 

  • Mae’rnewid hwn mewn gweithdrefn, ynghyd â chyfarwyddiadau clir ar y modd mae’r cynllun yn mynd i gael ei gyflenwi, yn cynnig mwy o hyder bod amddiffyn yn cael ei reoli yn y ddarpariaeth hon o wasanaeth . 

 

CraffuAelodau:

  • Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol, nodwyd ar y foment, y gallai’r Awdurdod straffaglu os caiff y model newydd ei dderbyn. Fodd bynnag, byddai’r Awdurdod yn gallu defnyddio’r chwe gwirfoddolwr ar draws yr ardal ond gyda mwy o adnoddau o ffynonellau mewnol; dylai hyn fod yn gyraeddadwy. Gobeithir y gallai’r gwirfoddolwyr craidd ddarparu’u gwasanaethau ar fwy o achlysuron, h.y. llai o wirfoddolwyr ond yn gallu darparu mwy o’u hamser yn hwy.

 

  • Arbediramser sylweddol wrth gwtogi’r rhaglen o 12 i 9 wythnos. Mae Swyddogion wedi hysbysebu drwy’r rhwydwaith wirfoddoli ac mae nifer o bobl wedi mynegi diddordeb i ddod yn un o’r chwe gwirfoddolwr craidd. 

 

  • Byddmonitro’r Cynllun Kerbcraft yn dangos pa fath o gynnydd a fu. Mae’r wybodaeth a adroddir yn ôl ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru yn gyfyngedig. Fodd bynnag, gobeithir drwy estyn y broses fonitro i gael gwybodaeth bellach ac adborth oddi wrth y plant eu hunain a’r ysgolion, y bydd hyn yn darparu mwy o wybodaeth ystyrlon i’w fwydo nôl i Lywodraeth Cymru.

 

  • Mae Llywodraeth Cymru’n diweddaru’i gweithdrefnau gyda’r bwriad o wneud y cynllun yn fwy ystyrlon.

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

  • Ar ran y Pwyllgor Dethol, diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Traffig a Rhwydwaith am gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor. 

 

  • Mae’rCynllun yn ceisio mynd i’r afael â’r materion a godwyd gyda’r Awdurdod gyda Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

 

  • Bydd y Pwyllgor Dethol yn derbyn adroddiad diweddaru maes o law.

 

 

 

Dogfennau ategol: