Agenda item

Polisi Diogelu Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Hysbysu’rPwyllgor Dethol ynghylch cyflwyno’r PolisiAmddiffyn Corfforaethol newydd.  

 

MaterionAllweddol:

 

  • Mae amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl yn flaenoriaeth o’r radd uchaf gan y Cyngor.

 

  • CydnabyddirAmddiffyn, dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel cyfrifoldeb pawb a gwnaed cynnydd sylweddol dros y pum mlynedd ddiwethaf i wneud diwylliant, gwybodaeth ac arfer  amddiffyn yn rhan systematig o’n gwead.

 

  • Mae’rholl staff, sy’n cael eu talu neu heb gael eu talu, a Chynghorwyr yn rhannu cyfrifoldeb yn gorfforaethol ac yn unigol i sicrhau y caiff plant ac oedolion sydd mewn perygl eu trin â pharch a’u hamddiffyn rhag niwed.

 

  • Tramae polisi amddiffyn yn ei le gan y Cyngor mae e’n canolbwyntio’n sylweddol ar leoliadau addysg a gwasanaethau plant a theuluoedd eraill. Mae amddiffyn, felly, wedi’i wreiddio’n gadarn mewn rhai Cyfarwyddiaethau a meysydd gwasanaeth. Fodd bynnag, mae amrywiol lefelau o ddealltwriaeth parthed disgwyliadau mewn rhannau eraill o’r sefydliad.

 

  • Bydd y polisi hwn yn fecanwaith i werthuso dealltwriaeth, systemau a hyfforddiant drwy’r Cyngor cyfan a sicrhau bod amddiffyn â throedle cadarn ac yn greiddiol i waith y Cyngor. 

 

CraffuAelodau:

 

  • Nodwyd y dylai’r holl Aelodau gael eu hyfforddi i o leiaf Lefel 1 mewn amddiffyn.

 

  • Bydd y mecanweithiau ynghlwm wrth y polisi yn helpu’r awdurdod i lynu at y PolisiAmddiffyn Corfforaethol. Mae’r Polisi’n cyfeirio at y broses hunanwerthusiad y bydd yn ofynnol i bob maes ei chyflawni.

 

  • Wrthymgymryd â’r hunan-arfarniadau, mae’n galluogi meysydd gwasanaeth unigol a’u timoedd rheoli adrannol i werthuso lle maent ac i osod cynlluniau gweithredu yn eu lle i fynd i’r afael â’r meysydd lle mae angen gwelliant. Disgwylir i’r hunan-arfarniadau hyn gael eu cwblhau 31ain Gorffennaf 2017.

 

  • Parthedhyfforddiant ar gyfer Aelodau, cynhelir sesiwn yng Ngorffennaf 2017.  Cedwir cofrestr o’r Aelodau nad ydynt yn gallu mynychu’r sesiwn gyda’r bwriad o gynnal sesiwn arall er mwyn sicrhau bod yr holl Aelodau’n derbyn hyfforddiant.

 

  • Sefydlircynllun hyfforddiant i sicrhau y gallai staff dderbyn hyfforddiant priodol, y mwyafrif ohonynt yn cael eu cynnal yn eu lleoliadau gwaith.

 

  • Mae’nofynnol i holl lywodraethwyr Sir Fynwy ymgymryd â’r hyfforddiant gaiff ei fonitro drwy gyfrwng proses hunanwerthuso ysgolion unigol.

 

  • Darperirhyfforddiant gan y Byrddau Amddiffyn rhanbarthol.

 

  • Mynegwydpryder nad oedd ysgolion yn cael eu darparu â’r wybodaeth gyflawn mewn perthynas â’r Strategaeth Ataliol ac felly heb gael eu gwneud yn ymwybodol o’i phwysigrwydd. Nodwyd bod ysgolion wedi bod drwy’r hyfforddiant ac y dylent, felly, fod yn ymwybodol o’r strategaeth hon.

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

  • Dymafaes lle mae’r Cyngor wedi gweithredu’n briodol wedi i wendidau gael eu dynodi mewn perfformiad yn flaenorol. 

 

  • Ar ran y Pwyllgor Dethol, diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion baratoi a chyflwyno’r adroddiad.

 

  • Ystyriwyd y gallai’r Awdurdod edrych gyda mwy o hyder ac arfer diogel ar hyd a lled y Sir a bydd yn helpu i warantu lefel uwch o amddiffyn ar draws y Sir gyfan a’i gwasanaethau. 

 

 

 

Dogfennau ategol: