Cofnodion:
Cyd-destun:
Diben yr adroddiad hwn yw cynnig gwybodaeth i Aelodau yngl?n â safle alldro refeniw’r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod adroddi 4 sy'n cynrychioli'r safle alldro ariannol am y flwyddyn ariannol 2016/17.
Argymelliadau sy’n cael eu Cyflwyno i’r Cabinet:
· Bod Aelodau’n ystyried gorwariant alldro refeniw net o £884,000, gwelliant o £805,000 ar ragdybiaethau alldro chwarter 3.
· Aelodau’n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £40.03m yn erbyn cyllideb wedi’i diwygio o £40.98miliwn, ar ôl y llithriad arfaethedig o £17.5 miliwn, gan arwain at danwariant net o £951 mil.
· Ystyried a chymeradwyo’r llithriad cyfalaf o £17.5m sydd wedi’i argymell (wedi'i fanylu yn atodiad 2), gan dalu sylw i’r cynlluniau a ddisgrifiwyd ym mharagraff 3.3.6 lle mae cais wedi’i wneud am lithriad gan y rheolwr gwasanaeth ond ni argymhellir i lithro (£198 mil).
· Ystyried defnyddio’r cronfeydd wrth gefn a gynigiwyd ym mharagraff 3.4.1.
· Cefnogi apwyntiad tanwariant cyffredinol wrth ychwanegu at lefelau wrth gefn fel y disgrifiwyd ym mharagraff 3.4.3 isod h.y.:
Cronfa Buddsoddi Blaenoriaethol £570k
Cronfa wrth gefn Diswyddo a Phensiwn £114k
Cronfa wrth gefn Trawsffurfiad TG £100 mil
Cronfa wrth gefn Derbynebau Cyfalaf £100 mil
Cyfanswm £884 mil
· Mae Aelodau’n nodi y bydd y lefel isel o gronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi’n lleihau’n ddifrifol yr hyblygrwydd sydd gyda’r Cyngor mewn cwrdd â heriau adnoddau prin yn y dyfodol.
· Mae Aelodau’n nodi'r lleihad sylweddol yn y balans cyflawn ar ddiwedd 2016/17 ac yn cefnogi’r gwaith parhaol gydag ysgolion i sicrhau bod anghenion cynllun Cyllid Tecach y Cyngor yn cael eu cyflawni a bod balans cyflawn ysgolion yn parhau i fod yn bositif yn 2017/18.
Archwiliadau’r Aelodau:
Cafodd y Pwyllgor ei atgoffa bod ceisiadau wedi’u cyflwyno i’r Cabinet am gyllid am gefnogaeth ychwanegol i dimau'r flwyddyn ddiwethaf a cwestiynwyd a oedd y cyfanswm hwn wedi'i gynnwys ac os oedd, sut cafodd ei gydbwyso yn erbyn mandadau yn y flwyddyn ariannol hon; cafodd y ffigwr ei ychwanegu i alldro blwyddyn ddiwethaf. Mewn ymateb, esboniwyd bod pwysau ar yr awdurdod o Lywodraeth Cymru e.e. mae maniffesto newydd y llywodraeth yn ceisio codi’r trothwy cyfalaf ar gyfer pobl sydd â lleoliadau preswyl hir dymor i £50,000 (a osodwyd yn flaenorol yn £24,000) dros y 3-4 mlynedd nesaf. Mae’r trothwy cyfalaf wedi’i godi’r flwyddyn ariannol hon i £30,000. Mae grant ychwanegol wedi’i dderbyn sy’n dechrau yn 2017/18 ac felly nid oes cyllid ôl-weithredol.
Gofynnodd Aelod y rheswm pam oedd mwy o bobl mewn gofal preswyl. Atebwyd bod pwysau wedi bod yn ne’r sir lle mae ychydig o bobl oedd gynt yn hunan-gyllido wedi rhedeg allan o arian ac wedi plymio o dan y trothwy (£24,000 yn 2016/17). Mae yna wedyn dyletswydd statudol i’w hystyried am gyllid. Esboniwyd bod ffurflen asesiad ariannol trylwyr i geisio adnabod os oes wedi bod unrhyw golled cyfalaf. Os oes unrhyw eiddo ategir tâl cyfreithiol i’r annedd sydd rhaid wedyn gwerthu i ariannu’u gofal.
Cwestiynwyd pellach sut fedrir cynnal gofal preswyl os yw'r duedd hon yn parhau. Esboniwyd bod darpariaeth ddigonol o fewn y sir gan gynnwys darpariaeth fewnol yn Nh? Preswyl Severn View yn ne’r sir a gyda darparwyr preifat. Ychwanegwyd bod defnydd gofal preswyl wedi aros yn statig er y cynnydd yn y nifer o breswylwyr oedran 85+. Nodwyd bod cynnydd yn y nifer o bobl gyda dementia hwyr a chartref gofal yw'r lleoliad mwyaf priodol dan yr amgylchiadau hyn.
Cwestiynwyd argaeledd gofal preswyl yng ngogledd y sir ac atebwyd bod digon yn yr holl sir. Mae’r awdurdod yn prynu oddeutu 10% o’r llefydd sydd ar gael ac mae'r cyflenwad yn cwrdd â’r galw. Y rhagolwg yw wrth i'r trothwy cyfalaf godi, bydd cyfran mwy o leoliadau cartref yn cael eu prynu wrth i fwy o bobl ddod yn gyfrifoldeb yr awdurdod a bydd perthynas gwahanol yn datblygu gyda'r sector cartref gofal.
Cwestiynodd Aelod os, gyda newid y trothwy cyfalaf, fydd Llywodraeth Cymru’n cynnig cymorth gan fydd y newidiadau’n dodi mwy o bwysau ar y gyllideb. Esboniwyd bod grant Llywodraeth Cymru o'r flwyddyn ariannol gyfredol 2017/18 a bod pobl sy'n plymio o dan y trothwy £30,000 yn cael eu nodi i Lywodraeth Cymru i sbarduno cyllid. Mewn ymateb i gwestiwn pellach am os fydd y grant yn cyfro'r galw, nodwyd ei fod yn bosibl i’r galw fod yn fwy na'r cyllid grant a bydd y data gweithgaredd sy'n cefnogi'r pwynt hwn yn cael ei ddarparu gan olrhain y bobl sy’n plymio o dan y cyfanswm trothwy cyfalaf a’r wir gost i’r awdurdod. Cafodd y farn ei rhoi, ar brofiad blaenorol, taw annhebyg yw hi y bydd gwir gost y galw’n cael ei chyfro.
Cyfeiriodd Aelod at y cynnydd mewn pobl ifanc ar y Sbectrwm Awtistig sydd nawr yn bwydo trwy wasanaethau oedolion a chwestiynodd os oedd darpariaeth ddigonol. Mewn ateb, esboniwyd bod cyllideb yn cael ei gosod i’r neilltu i bobl gydag anableddau dysgu sy’n cynnwys y rheini ar y Sbectrwm Awtistig. Ychwanegwyd bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn ardal Gwent am y tair blynedd nesaf i ymsefydlu Gwasanaeth Awtistig Cyfunol i bob oedran. Mae Sir Fynwy’n cynnal y gwasanaeth am yr ardal. Awgrymwyd gall hwn fod yn bwnc am ystyriaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: