Agenda item

Polisi Diogelu Corfforaethol

Cofnodion:

Cyd-destun:

Rhoi gwybod i Aelodau o gyflwyniad y Polisi Diogelu Corfforaethol newydd.

 

Argymhellion:

Argymhellir bod Aelodau’n cytuno ac yn mabwysiadu’r Polisi Diogelu Corfforaethol.

 

Materion Allweddol

Blaenoriaeth uchaf y Cyngor yw diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.

  • Mae diogelu, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, yn cael ei adnabod fel cyfrifoldeb pawb ac mae datblygiad sylweddol wedi digwydd dros y 5 mlynedd ddiwethaf i ymgorffori diwylliant, adnabyddiaeth ac ymarferiad diogelu'n systematig.
  • Mae pob aelod o’r staff, ar gyflog neu beidio, a Chynghorwyr yn rhannu cyfrifoldeb yn gorfforaethol ac yn unigol i sicrhau bod plant ac oedolion mewn peryg yn cael eu trin gyda pharch ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed. 
  • Mae gyda’r Cyngor polisi diogelu sy'n bodoli eisoes ond mae wedi’i ffocysu’n drwm tuag at sefyllfaoedd addysg a gwasanaethau plant a theulu eraill.

 

            O ganlyniad mae diogelu wedi’i fewnblannu i rai Cyfarwyddiaethau a          meysydd gwasanaeth; serch hynny mae yna lefelau amrywiol o ddealltwriaeth o ran          disgwyliadau mewn rhannau eraill o’r sefydliad.

 

  • Bydd y polisi hwn yn fecanwaith er mwyn gwerthuso dealltwriaeth, systemau a hyfforddiant ledled y Cyngor ac mae'n sicrhau bod diogelu wedi'i ddodi yng nghraidd busnes y Cyngor.

 

Archwiliadau’r Aelodau:

 

Dwedodd Aelod taw adroddiad cynhwysfawr dros ben oedd hwn gyda dyheadau uchel a chwestiynodd aelodaeth Gr?p Cydweithredu Diogelu’r Holl Awdurdod.  Cadarnhawyd bod y gr?p yn cael ei gadeirio gan y Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai.   Mae’r aelodaeth yn cynnwys Prif Swyddogion neu Benaethiaid Gwasanaeth o bob cyfarwyddiaeth a chynrychiolwyr o’r Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd.   Esboniwyd taw diben y gr?p yw cynnig dull cynhwysfawr a llywodraethu effeithiol.  Cadarnhawyd nad yw aelodau’n cymryd rhan yn y Gr?p ar hyn o bryd ond gallir ystyried hyn.  Cwestiynodd y Prif Swyddog a oedd archwiliad trwy Bwyllgorau Dethol yn cynnig digon o sicrwydd yn ogystal ag adroddiadau i’r Cabinet a Chyngor neu os oedd teimlad bod rhaid i aelodau cymryd rhan yn y Gr?p sydd â rôl fwy gweithredol.    

 

Cytunodd Aelod y dylai cynghorwyr i gyd cael eu hyfforddi i Lefel 1 Diogelu, ymholodd pa mor gyflym byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu a gofynnodd sut i sicrhau bod pob aelod yn cwblhau'r hyfforddiant.  Cadarnhawyd bod sesiwn ar y 10fed o Orffennaf a bydd y rheini sydd ddim yn mynychu'n cael eu nodi i fynychu sesiwn arall.

 

Gofynnodd Aelod sut fydd yr Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd yn monitro effeithlonrwydd archwiliadau ac esboniwyd y bydd cynrychiolwyr yn mynychu cyfarfodydd Pwyllgor Dethol, i gyflwyno adroddiadau’u hun ond hefyd i arsylwi ac i fonitro eitemau eraill o fusnes.    Atgoffwyd aelodau y dylai adroddiadau pwyllgor i gyd gynnwys adran i adnabod ac i fynd i’r afael â “Goblygiadau Diogelu”.   Bydd cynnwys ac ansawdd y datganiadau hyn yn cael eu samplo ledled pob pwyllgor gan yr Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd er mwyn gwerthuso trefniadau diogelu.

 

Cwestiynwyd lefel ac argaeledd hyfforddiant i wirfoddolwyr.   Atebwyd bod cymorth a hyfforddiant i wirfoddolwyr yn cael eu cynnig mewn fformat cymesur a chyfleus.  Esboniwyd bod Polisi Gwirfoddoli'n cael ei baratoi bydd yn graddio lefel yr hyfforddiant â rôl y gwirfoddolwr.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: