Agenda item

Rhaglen Grantiau Tai Cymdeithasol

Cofnodion:

Cyd-destun:

Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno i’r Aelod Cabinet Sengl y newyddion diweddaraf ar gwblhau’r raglen Grant Tai Cymdeithasol am 2016/2017 ac i geisio cymeradwyaeth am y

Rhaglen GTC am 2017/2020 a’r Rhestr Cynllun wrth Gefn.

 

Cydnabyddir yn Sir Fynwy bod prisiau tai wedi codi i lefel tu hwnt i’r hyn

sy’n fforddiadwy i nifer o bobl leol.  Cyfartaledd pris tai ar hyn o bryd yw £276,000 (£177,200 o’i gymharu â Chymru) a’r chwartel isaf o gymhareb pris tai i incwm 

yw 9:1. Y nifer o ymgeiswyr ar y Gofrestr Tai Cyffredin ar hyn o bryd yw

3048. O ganlyniad, un o flaenoriaethau’r Cyngor yw darparu tai fforddiadwy mewn

ardaloedd trefol yn ogystal ag ardaloedd gwledig (Ffynhonnell y data:   Hometrack 23ain o Fai 2017).

 

Materion Allweddol:

Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol 2016/2017:

 

1. Y dyraniad Grant Tai Cymdeithasol am Sir Fynwy yn 2016/2017 oedd:

 

Prif Raglen GTC         £1,144,759

 

Cyflwynwyd cais gan Dai a Chymunedau i Lywodraeth Cymru am lithriad diwedd flwyddyn ychwanegol ac roeddent yn llwyddiannus yn ennill: 

 

Cyllid Ychwanegol £2,062,469

 

Y ffigwr terfynol a dynnwyd o Lywodraeth Cymru oedd £3,207,228.

 

2. Cwblhaodd Melin Homes achubiad morgais yn llwyddiannus gan ddefnyddio £98,000 o Grant Tai Cymdeithasol wedi'u Hailgylchu Sir Fynwy (RCG).  Effaith hyn oedd atal teulu rhag dod yn ddigartref.

 

3. Perfformiad bendigedig yw hwn sy'n gweld Sir Fynwy'n gwario 100% o'i ddyraniad grant yn ogystal â £2,062,469 o gyllid ychwanegol.  Yn 2016/17 cyfanswm y tai newydd oedd wedi’u cwblhau oedd 87. Mae 63 uned ychwanegol o'r Rhaglen Grant Tai Cymunedol yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.

 

4. Cwblhawyd y Tai Fforddiadwy canlynol:

 

            Ysgol West End, Cil-y-coed 17

            Westgate, Llan-ffwyst (S106 Safle) 13

            Cae Meldon, Gilwern (S106 Safle – PCBB) 18

            Celli Cae Mawr (bwthyn wedi’i addasu) 1

            Mynyddbach 2

            Lôn Gwyrdd, Cil-y-coed 4

            Ysgol Tryleg (60/40 Safle) 9

            Clinig Heol Dixton, Trefynwy (S106 safle) 4

            Ysgol Rogiet 19

 

Rhaglen grant Tai Cymdeithasol 2017 – 2020

 

5. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cyllid ychwanegol i helpu cyrraedd eu targed o 20,000 o dai fforddiadwy trwy gydol y tymor gweinyddiaeth hwn. Dyraniadau Sir Fynwy yw:

 

            2017/2018 Grant Tai Cymdeithasol £3,342,894

            Grant Cyllid Tai £1,810,055

            Cyfanswm £5,152,949

            2018/2019 Grant Tai Cymdeithasol £4,369,317

            Grant Cyllid Tai £1,037,615

            Cyfanswm £5,406,932

 

            2019/2020 Grant Tai Cymdeithasol £1,250,044

            Grant Cyllid Tai £716,213

            Cyfanswm £1,966,257

 

6. Trwy weithio’n agos gyda phartneriaid RSL mae Cyngor Sir Fynwy wedi gallu adeiladu rhestr cynllun wrthgefn iachus a dylai bod mewn sefyllfa i wario'r dyraniad hwn yn llawn.

 

Archwiliadau’r Aelodau:

Cyflwynodd Rheolwr Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol yr adroddiad a'r ystyriaeth ganlynol, gwnaeth yr Aelodau’r arsylwadau canlynol:

 

Gofynnodd Aelod a oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei gwneud yngl?n â fforddiadwyedd tir mewn ardaloedd gwahanol ac os oedd, oes angen mwy o gyllid mewn rhai lleoliadau nac eraill (e.e. mewn ardaloedd awdurdod lleol) o ran Grant Tai Cymdeithasol a’r Grant Cyllid Tai.     Esboniwyd bod y grantiau sydd ar gael yn cael eu cyfrifo yn ôl Canllawiau ar Gostau Derbyniol Llywodraeth Cymru ac mae pob ardal o bob sir yn cael eu dodi ar fandiau gwahanol sy'n seiliedig ar werthoedd y farchnad; mae yna dri band yn Sir Fynwy.  Cadarnhawyd bod mwy o grant ar gael mewn ardaloedd gwahanol yn ddibynnol ar ble mae adeiladu’n digwydd.

 

Cafodd y Swyddog ei longyfarch ar ôl sicrhau gwariant llawn ac ar ôl defnyddio unrhyw gyllid sydd heb ei ddyrannu neu wario.

 

Gofynnodd Aelod am y maint o bobl oedd yn aros am dai cymdeithasol, yn enwedig rhieni ifanc, ac os oedd y rhestr yn rhy hir, yn enwedig yn Y Fenni.    Adroddwyd bod dros 3000 o deuluoedd ar y rhestr ac oddeutu 700 yn Y Fenni.  Mynegwyd bod hi bob amser yn amhosib cwrdd â’r galw.   Ychwanegwyd bod safle newydd mawr yn cael ei ddatblygu yn fuan iawn yn ardal Y Fenni.

 

Gwnaeth Aelod ymholiad yngl?n â’r angen i dorri lawr coed aeddfed a gofynnodd am sicrwydd y bydd coed aeddfed yn cael eu hamnewid trwy blannu coed newydd ar ôl iddynt gael eu torri i lawr.   Atebwyd bod coed sy’n cael eu torri lawr yn cael eu hamnewid yn gyffredinol ond i ardal wahanol ar adegau.   

 

Gan ystyried y galw, ymholodd Aelod os oedd modd i Landlordiaid Cymdeithasol Preswyl (RSL) prynu eiddo di-raen i gynnig mwy o dai sydd wir eu hangen.  Yr ateb oedd bod gyda phartneriaid RSL, yn enwedig Cymdeithas Tai Sir Fynwy, rhaglen er mwyn prynu eiddo yn ôl a werthwyd o dan gynllun Hawl i Brynu.  Yn ogystal, os oes dal grant ar gael, mae’n cael ei ddefnyddio i brynu mwy o eiddo, yn enwedig bythynnod i’r anabl/ wedi’u haddasu.

 

Ymholodd Aelod, mewn perthynas â’r Cynllun Cyflwyno Rhaglen (yn benodol, safle Pont Mabey), pam cafodd y dyraniad ei ostwng i 18 tra bod galw sylweddol yng Nghas-gwent ac os oes unrhyw lain arall o dir wedi'i glustnodi ar gyfer tai cymdeithasol yn yr ardal.   Mewn ymateb cadarnhawyd bod 38 uned fforddiadwy'n cael eu datblygu ar safle Osborn Paint.  Ychwanegwyd bod safle Pont Mabey ddim yn ymarferol oherwydd materion sylweddol yn gysylltiedig â’i statws tir llwyd.   Mae grant yn awr ar gael ac fe fydd dau barsel o dir ar gael am gost ostyngedig.  Cadarnhawyd y bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tai fforddiadwy ac nid oes safleoedd eraill hysbys ar hyn o bryd.  Cafodd gwybodaeth ychwanegol ei darparu i esbonio taw tra bod darn o dir o dan ystyriaeth, mae yna drafodaeth yngl?n â maint abnormalau.      Lle mae abnormalau’n ormodol o fawr, tai fforddiadwy sy'n troi'n bwynt trafodaeth fel arfer i droi’r datblygiad yn fforddiadwy i ddatblygwyr sydd yn dymuno gwneud elw o 20%, a nodwyd taw'r her yw ceisio lleihau elw'r datblygwyr er mwyn cynnig tai fforddiadwy.   Cyflwynwyd Heol Crug fel enghraifft lle mae'r awdurdod yn gweithio gyda'r datblygwr, Melin Homes, i leihau maint yr elw i 12% bydd yn dechrau gosod cynsail ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol.

 

Dwedodd Aelod y dylai'r polisi Cynllun Datblygu Lleol gael ei weithredu bob tro.

Ymholodd Aelod pam y mae datblygwyr, mewn ardaloedd wledig, yn defnyddio'r esgus o dalu oddi ar y safle i gael tai preifat, ond nid fforddiadwy, ar y safle.  Cwestiynwyd pam y mae datblygwyr yn cael eu galluogi i wneud hyn tu allan i ddarpariaethau polisi'r CDLl.  Atebwyd nad oedd hyn wedi digwydd gan fod polisi tai fforddiadwy o 60% mewn ardaloedd gwledig sy'n cael ei weithredu’n llwyddiannus ac yn drylwyr. 

 

Dwedodd Aelod y mai adeiladau newydd mewn ardaloedd gwledig hyn yn ffurfio’r dyraniad gwledig gyda blaenoriaeth i'r rhai sy’n byw yn yr ardal.    

 

Dadleuodd Aelod ei fod yn ymddangos nad oedd pob datblygwr o hyd yn cyflawni'r ganran o dai fforddiadwy sy'n ofynnol ac nid oedd y polisi'n cael ei dilyn, bod arian yn cael ei dalu am dai oddi ar y safle ac felly nid yw'n helpu'r sefyllfa tai fforddiadwy.

 

Cadarnhawyd bod rhaid cadw at y polisi o 60% o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig. Cadarnhawyd na chymerwyd swm cymudol ac mae'n rhaid adeiladu’r tai.   Bydd swm cymudol yn cael ei gymryd am dai unigol, serch hynny.  Ychwanegodd Aelod ei bod hi’n ymwybodol o ganiatâd cynllunio amlinellol yn cael ei roi mewn pentref lle nad oedd y datblygwr wedi dilyn y polisi a chytunwyd y bydd gwybodaeth bellach yn cael ei chyflwyno i’r Swyddog y tu allan i’r cyfarfod. 

 

Gofynnodd Aelod pam oedd 18 t? fforddiadwy oedd wedi’u hadeiladu gyda SHG yng Nghae Meldon, Gilwern wedi’u gwerthu eisoes.  Mewn ymateb esboniwyd taw perchnogaeth gartref cost isel oedd ychydig o’r tai a chawson nhw eu gwerthi i bobl ar y gofrestr tai.   Esboniwyd bod trafodaethau hir wedi digwydd gyda’r Parciau Cenedlaethol (PC) yngl?n â symiau cymudol ond mae PC wedi cadw’r arian ac nid ydynt yn ei ryddhau i’r awdurdod tai.   Ychwanegwyd bod yna £176,000 yn deillio o safle Cae Meldon sy’n ddyledus.  Rhaid gwario’r arian yn Sir Fynwy neu bydd yn arian yn cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn y Parc Cenedlaethol.  Dywedwyd bod gofyn am £100,000 fel swm cymudol gyda chartrefi annedd sengl a dim ond dwy esiampl sydd lle mae’r swm hwn yn debygol o gael ei dalu.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas â datblygiad tai ym Maerdy, Y Fenni, am drafodaethau yngl?n â’r gost i'r datblygwr o orfod claddu ceblau trydan sy’n cael eu cario ar hyn o bryd gan beilonau, a gofynnodd am sicrwydd na fydd effaith ar y nifer o unedau tai fforddiadwy ar y cynllun os oes unrhyw newid i’r cais cynllunio.     Atebwyd taw’r gost o ddelio gyda’r ceblau yw £5 miliwn a bu effaith niweidiol ar dai fforddiadwy a oedd yn wreiddiol i fod yn 35% ond sydd nawr wedi'u lleihau i 19.8%.  Roedd awydd i gadarnhau os oedd y costau gwreiddiol yn cynnwys y rhagdybiaeth y bydd y ceblau trydan dan ddaear ac nad modd yw hyn o leihau’r maint o dai fforddiadwy sy’n cael eu cynnig.  Atebwyd bod y cyfanswm wedi’i gostio gan y cwmni cyfleustodau ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ac maent nawr wedi’u rhagori’n aruthrol.

 

Awgrymodd Aelod taw mater Cynllunio yw hwn, ac ychwanegodd bod y Pwyllgor Cynllunio’n drylwyr dros ben.  Cafodd gwybodaeth ei darparu yngl?n â phan mae dadl mewn perthynas â’r canran o dai fforddiadwy mewn cynllun, ceir sicrhad bod y datblygiad yn cael ei asesu trwy becyn cymorth yr awdurdod.    Mae modd i'r Prisiwr Dosbarth adolygu’r achos ac os credir nad yw darpariaeth tai fforddiadwy mewn cynllun yn ymarferol, bydd yn cynnig cyngor annibynnol i’r Pwyllgor Cynllunio nodi.

 

Gofynnodd y cadeirydd beth oedd yn digwydd os nad yw'r ddarpariaeth yn cael ei defnyddio.   Mewn ymateb esboniwyd bod y cyllid yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru i'w ailddosbarthu. Mae’r dull hwn yn cael ei adolygu ac fe all cyllid sydd heb ei ddefnyddio gan awdurdod gael ei fenthyg i awdurdod arall i’w ddychwelyd y flwyddyn ganlynol. 

Text Box: Casgliad y Pwyllgor Roedd y materion allweddol a drafodwyd yn cynnwys fforddiadwyedd tir, y rhestr aros am dai cymdeithasol a fforddiadwyedd tai. Roedd y Pwyllgor wedi bodloni bod y grant llawn wedi’i sicrhau ac wedi’i wario o fewn Sir Fynwy, sydd ddim yn digwydd ym mhob awdurdod. Dymunodd y Cadeirydd bod copïau cyfredol o gyflenwadau rhagamcanedig yn cael eu danfon i Aelodau. Nododd y Cadeirydd bod Aelodau’n hapus gyda datblygiadau hyd yn hyn a bydd yn parhau i archwilio tai fforddiadwy, gyda’r Cynllun Datblygu Lleol yn cynrychioli darn allweddol am archwilio ar y cyd yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: