Cyd-destun:
Yndilyn cymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer gweithredu
rhaglen Inspire2Work (I2W) ym Mawrth 2016,
mae
Menter Ieuenctid yn
gofyn mewn
egwyddor am gefnogaeth i arian
cyfatebol ychwanegol o gronfeydd
wrth gefn
yr Awdurdod. Bydd
yr arian hwn
yn galluogi
cyflenwad ehangach o’r
rhaglen I2W bresennol sy’n
darparu cefnogaeth wedi 16,
ymyrraeth a chyfleoedd cyflogaeth
gan ddefnyddio arian y
Gronfa Strwythurol Ewropeaidd
(CSE).
MaterionAllweddol:
-
Cymeradwywyd
y rhaglen I2W
gyfredol ar
gyfer pobl
16-18 oed gan y Cabinet ym
Mawrth 2016 am dair blynedd
ar gyfanswm
cost y prosiect o £381,601 a
rennir rhwng 55% CSE o £171,720 ac arian cyfatebol
Cyngor Sir Fynwy o £209,881.
-
Yndilyn y gymeradwyaeth derfynol
ohiriedig o’r
rhaglen yn
Chwefror 2017, mae un o bartneriaid
gwreiddiol y prosiect, Cartrefi
Melin, wedi
tynnu nôl o’r
prosiect. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r Awdurdod
estyn ei
raglen o’r ddarpariaeth
bresennol y tu hwnt i bobl 16-18 oed i 16-24
oed.
-
Mae Aelodau’n
flaenorol wedi cael eu gwneud yn ymwybodol bod
Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Fframwaith
Ymgysylltu ag Ieuenctid a Datblygiad 2013, sy’n darparu
model cyflenwi yn canoli ar anghenion
pobl ifanc
gan ddynodi
chwe phrif
faes ar
gyfer gwireddu gwell
canlyniadau i bobl ifanc.
Gwireddir egwyddorion y fframwaith yn y
rhaglen I2W ac fe’u dylunnir i
sicrhau gwerth ychwanegol
tra adlewyrchant ar
yr un
pryd anghenion a dyheadau
pobl ifanc
Sir Fynwy a Chynllun Integredig
Sengl yr
Awdurdod.
CraffuAelodau:
-
Mae oddeutu 50 o
bobl ifanc
16 – 18 oed Heb Fod mewn Addysg,
Cyflogaeth neu Hyfforddiant
(NEET). Fodd bynnag, gall pobl
ifanc ddod
mewn ac allan o hyn fel meant
yn datblygu.
-
Mae 40 o bobl
ifanc 18 – 24 oed ar hyn o bryd yn hawlio Lwfans Ceisio
Gwaith.
-
Caiff
data eu monitro’n barhaus
gan mai’r rhain
yw’r bobl ifanc sydd fwyaf anodd eu cyrraedd. Mae angen
tudalennau pwrpasol o gefnogaeth
h.y. gallai
fod angen
ymyrraeth, bach neu fawr, yn dibynnu ar anghenion yr
unigolyn.
-
Cynhelirtrafodaethau gyda’r awdurdod
arweiniol, Cyngor Dinas
Casnewydd, ynghylch gosod
targedau,
-
Mewnymateb i gwestiwn ynghylch
cynlluniau tebyg a gafodd
eu gweithredu, nodwyd bod
tri chontract wedi cael eu rhedeg ddwy flynedd
yn ôl
gyda Chanolfan Byd
Gwaith ac maent yn eiddgar i atgyfodi’r gwaith
hwn eto gan
gydlynu gyda chysylltiadau
lleol a’r Ganolfan
Waith.
-
Deilliannau
i dystio i lwyddiant y prosiect -
– 33% Addysg, 22% i mewn i gyflogaeth
a 18% i mewn
i hyfforddiant. Mae deilliannau’n cael eu gwireddu.
-
Ymchwilir
i bob llwybr
ym maes
prentisiaethau gyda chysylltiadau
yn lleol
ynghyd ag yn genedlaethol. Y nod
yw torri
mewn i’r farchnad
busnesau lleol ac rydym
mewn sefyllfa dda i
adeiladu cysylltiadau cyflogadwyedd. Cynhelir
trafodaethau gydag ysgolion
yn y dyfodol.
-
Edrychirhefyd ar ddiddordebau a phrofiadau pobl
ifanc, ynghyd ag anelu at adeiladu
hyder a datgloi’r potensial sydd
mewn pobl
ifanc.
-
Am fod y gwasanaeth yn
bwrpasol, bydd y tîm
yn cwrdd
ag unigolion
yn eu
hardal. Awdurdod gwledig
yw Sir Fynwy ac felly nid
yw bob amser yn rhwydd i bobl
ifanc gyrchu gwasanaethau.
-
Mae cydbwysedd
rhwng y rhywiau yn y
rhaglen a gosodwyd
targedau rhywedd. Mae hwn
yn brosiect
tair blynedd a bu
trafodaethau eisoes gyda’r
bwriad o adnabod o ble daw
cyllid yn y
dyfodol. Cynhelir cyfarfod
gyda Llywodraeth Cymru
yn hwyrach
heddiw i drafod yr agenda
cyflogadwyedd.
Casgliad
y Pwyllgor
Penderfynasomgefnogi Penderfyniad Unigol
Aelod Cabinet i ryddhau arian
cyfatebol ychwanegol am y tair
blynedd nesaf yn Ionawr 2020, gan
alluogi 120 ychwanegol o gyfranogwyr ar draws
ystod oedran estynedig o
18-24 oed. Bydd y cyllid
yn galluogi
ehangu’r tîm presennol o
gynnwys Swyddog Cyflogadwyedd a
chyfle ar
gyfer prentisiaeth weinyddol.
Bydd dyletswyddau’r Swyddog Cyflogadwyedd
yn cael
eu hehangu
ar gyfer
rhaglenni eraill ar draws
ffrydiau cyllid ychwanegol
ar sail taflenni amser.
|