Derbyniodd y Pwyllgor Dethol gyflwyniad lle darparwyd trosolwg o
weithgareddau’r Gyfarwyddiaeth Fenter.
Craffu
Aelodau :
-
Swyddi sgiliau uchel mewn gweithgynhyrchu -
Cydnabuwyd bod angen i’r Gyfarwyddiaeth wneud mwy i annog
cwmnïau gweithgynhyrchu sgiliau uchel i sefydlu yn Sir Fynwy.
Yn ne-ddwyrain y sir, gyda’r gostyngiad yn nhollau Pont
Hafren, derbynnir mwy o ymholiadau yn gofyn am fwy o lefydd
diwydiannol yn y rhan hon o’r Sir. Mae’r Awdurdod ar
hyn o bryd yn alinio’i strategaeth fuddsoddi gyda’r
gwaith a gyflawnir parthed y Fargen Ddinesig gyda’r bwriad o
dderbyn yr effaith fwyaf o hyn.
-
Mae oddeutu 4300 o ficrofusnesau wedi’u lleoli
yn y Sir sy’n tueddu i gyflogi
llai na 19 cyflogai i bob busnes. Dan feini prawf cyfredol
cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, nid yw’r busnesau hyn yn
gallu derbyn grantiau ond gyda Brexit, bydd y Cronfeydd Strwythurol
Ewropeaidd yn gwasgaru a gobeithir y cânt eu disodli gan
rywbeth mwy ffafriol i Sir Fynwy.
-
Mae cysylltedd band eang yn fater sydd angen mynd
i’r afael ag ef yn Sir Fynwy a
bydd yn gymorth i fusnesau bach yn ogystal.
-
Cynhyrchir y Cynllun Gweithredu Amaeth-Ddinesig ym
Medi neu Hydref 2017 gyda’r bwriad o edrych ar ffyrdd o ddenu
cyllid ychwanegol i ardaloedd allweddol.
-
Mae 20% o’r boblogaeth yn defnyddio
cyfleusterau hamdden. Mae cyfle aruthrol o fewn Sir Fynwy i
ymgorffori ac uno gwasanaethau gyda’i gilydd gyda’r
bwriad o gadw’n heini. Mae gweithio gyda phartneriaid
allweddol yn hanfodol i ddarparu darpariaeth hamdden briodol ac
annog pob dinesydd i gymryd rhan mewn ystod amrywiol weithgareddau
mewn ffordd hwylus a pherthnasol er mwyn cynnal a gwella
ffitrwydd.
-
Mae busnesau wedi defnyddio Hilston Park ar gyfer
digwyddiadau hyfforddiant corfforaethol, Mae angen i’r
Awdurdod fwyafu’i asedau i ddatblygu ymhellach y math hwn o
gyfle.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd mewn perthynas
â busnesau newydd yn Ne-ddwyrain Cymru, nodwyd yr edrychir ar
astudiaeth benodol mewn perthynas â De-ddwyrain Sir Fynwy, yn
enwedig yn nhermau ardaloedd sector twf arbenigol. Cynigir
gwasanaethau priodol i gwmnïau sy’n edrych am adleoli i
Sir Fynwy, a chefnogaeth un i un yn aml
yw’r hyn sydd ei angen ar y cwmnïau hyn. Bydd strategaeth mewnfuddsoddiad yr Awdurdod a
chynnig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gymorth yn natblygiad y
Sir. Mae gan yr Awdurdod wefan benodol i hyrwyddo datblygiad Sir
Fynwy www.monmouthshire.biz <http://www.monmouthshire.biz>.
Parthed sgiliau, mae Swyddogion yn
gweithio i ddylanwadu ar gyfleoedd. Cymerir datblygu menter
ieuenctid ac entrepreneuriaeth ieuenctid o ddifrif. Fodd bynnag,
ymgymerir â hyn o fewn capasiti a chyllideb i gymryd rhagddo
ddatblygiad busnes y Sir.
Gallai’r Awdurdod gael effaith fwy
ar ddatblygiad busnes â mwy o adnoddau yn eu lle.
-
Mae fframweithiau rhanbarthol a chenedlaethol yn
bodoli lle cynhelir nifer o gyfarfodydd a digwyddiadau dal i fyny
ar hyd y flwyddyn yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran Llywodraeth Cymru
a phartneriaid. Felly, mae strwythur dda
iawn yn ei lle i gyflenwi’r wybodaeth ddiweddaraf. Yn fewnol,
mae gan y Gyfarwyddiaeth gyfarfodydd ei
Thîm Rheoli Adrannol, ynghyd â chael ei chynlluniau
gwasanaeth. Mae’r Byrddau gwasanaeth cyhoeddus a’r
partneriaethau’n cynhyrchu deilliannau a chanlyniadau da ac
maent yn canolbwyntio ar feysydd allweddol. Sefydlwyd rhwydweithiau
rhanbarthol parthed y Fargen Ddinesig a
rhwydweithiau cefnogi busnes. Mae
Tîm y Rhaglen Datblygu Gwledig yn rhwydweithio gyda thimoedd
eraill ar draws Cymru. Digwydd gweithio trawsffiniol ar brosiectau
hefyd. Parthed microfusnesau, darperir gwasanaeth priodol
un i un.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd mewn perthynas
â blaenoriaethau’r Gyfarwyddiaeth, nodwyd y pwyntiau
canlynol:
-
Seilwaith band eang a’r modd yr eir i’r
afael â hyn.
-
Codi Proffil Mewnfuddsoddiad y Sir.
-
Mwyafu’r ffrydiau cyllido.
-
Prentisiaethau a Hyfforddiant.
-
Cyfeiriad strategol Ymgysylltu â’r
Gymuned a’r Cynllun ar Raddfa Lle Cyfan.
-
Mae’r raddfa wirfoddoli yn Sir Fynwy ar 63%,
sef yr uchaf yng Nghymru.
-
Mae gwaith i’w wneud ar y modd mae un yn mesur economi iach.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd mewn perthynas
â chyfleoedd a gollwyd o ganlyniad i gyfyngiadau’r
gyllideb, nodwyd y byddai’r Gyfarwyddiaeth wedi hoffi bod
mewn gwell sefyllfa i hyrwyddo Sir Fynwy gyda’r gostyngiad
mewn tollau i Bont Hafren. Fodd bynnag, nawr yw’r amser i
fynd rhagddo â’r gwaith.
-
Parthed pwerdy’r Great Western City, bu
trafodaethau parhaus ers cryn amser ar lefel wleidyddol a
gweithredol. Mae cyfleoedd da i Sir Fynwy weithio ar draws y
ffiniau.
-
Gwyddoniaeth Technoleg Peirianneg a Mathemateg
(STEM) - Mae’r Gyfarwyddiaeth yn ymwybodol o’r
cyfleoedd. Mae’n help fod gennym yr arweiniad parthed
arloesedd busnes a rhwydweithiau digidol
parthed Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn
gweithio yn y rhwydweithiau hyn ond yw’r llwybrau ar gyfer
myfyrwyr hyd yn hyn mor glir ag y
gallent fod.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, nodwyd bod
pêl-droed cerdded yn cael ei chwarae yng Nghil-y-coed sydd
wedi bod yn llwyddiannus iawn. Y nod yw hyrwyddo hyn ar draws y
Sir.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch TIC
Cas-gwent, nodwyd bod gan y TIC gyllideb ar gyfer y flwyddyn hon i
sicrhau y bydd yn parhau ar agor am y flwyddyn. Daeth peth
arian grant i law ac mae datblygu
cynnyrch wedi bod yn broses barhaus. Bydd yn rhaid wrth waith mewn
partneriaeth a newid i’r model presennol i greu cynnyrch mwy
cyson, cynaliadwy.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, nodwyd bod gan BT
darged cwmpas o 95%ar gyfer darpariaeth
band eang ar draws Rhaglen Cyflymu Cymru. Mae Llywodraeth Cymru
wedi newydd ymgymryd ag adolygiad
marchnad agored i’w galluogi i ddarganfod lle mae’r
eiddo sy’n anodd eu cyrraedd a disgwylir canlyniadau’r
dadansoddiad hwn. Bydd y canlyniadau hyn wedyn yn sylfaen ar gyfer
rhaglen dreigl Cyflymu Cymru 2 sy’n debygol o fod yn ffeibr
i’r adeilad yn hytrach na ffeibr
i’r blychau. Fodd bynnag, bydd yn debygol o gymryd yn hwy i
dreiglo’r rhaglen hon ond fe fydd
yn wasanaeth cyflym iawn.
-
Yn y cyfamser mae’r Gyfarwyddiaeth wedi bod yn
edrych ar gynlluniau peilot arloesol. Llwyddiant cyfyngedig gafodd
llinell welediad y peilot radio gan fod yn rhaid i’r signal
gael pwynt uniongyrchol i gyfeirio
gwelediad er mwyn derbyn cysylltiad. Mae cynllun peilot arloesol
arall yn defnyddio gofod gwyn Teledu gan
ddefnyddio signalau analog i gludo’r band eang. Mae’r
canlyniadau cychwynnol yn gadarnhaol iawn, gan y bydd y signalau
hyn yn mynd drwy wrthrychau solet gan ganiatáu gwell
cysylltiad.
-
Yn y cyfamser, mae’r Awdurdod yn lobïo
Llywodraeth Cymru I fynd i’r afael â’r diffyg
mewn darpariaeth band eang a’r angen am dreiglo Cyflymu Cymru
2 i gychwyn cyn gynted â phosib o fewn y Sir.
-
Cynhelir cyfarfod diweddariad yn cynnwys
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion gyda BT a Llywodraeth Cymru yn
gynnar yng Ngorffennaf 2017. Cyflwynir adroddiad diweddariad ar
gynnydd
i’r Pwyllgor Dethol.
-
Gwnaed cais i BT am fap yn darparu dosbarthiad band
eang ar draws y Sir.
-
Cyflwynir adroddiad parthed y ffigurau STEAM
i’r Pwyllgor Dethol i’w archwilio ym Medi / Hydref
2017.
-
Parthed cymorth i fusnesau ac ardrethi busnes, cyn
belled ag y mae a wnelo’r Fargen
Ddinesig, edrychir ar strategaeth ranbartholedig ar gyfer cyflenwi
cymorth i fusnesau ond gyda swyddogaeth gyflenwi leoledig.
Un agwedd yn unig yw’r Fargen
Ddinesig. Mae rhwydweithiau’r Awdurdod yn eang, yn gweithio
gyda chwmnïau arloesol, ynghyd â nifer o gwmnïau
eraill. Hyrwyddir y Sir yn ogystal drwy
gyfrwng cyfryngau cymdeithasol.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch sgiliau, yr
hyn oedd Coleg Gwent a’r Prifysgolion yn ei wneud oedd cwrdd
ag anghenion cyflogaeth y dyfodol, Nodwyd bod angen bod yn
ymwybodol o Adolygiad Donaldson a gweithredu hwn ar ysgolion Sir
Fynwy. Hefyd, mae partneriaeth dysgu sgiliau rhanbarthol a
chyflawnwyd ymchwil gyda cholegau a phrifysgolion ynghylch beth yw
angen y dyfodol..Mae angen i’r
Awdurdod gadarnhau fel y bydd hyn yn effeithio ar Sir Fynwy ar
lefel leol.
-
Hysbysodd y Rheolwr Craffu’r Pwyllgor fod
e-bost wedi’i anfon allan i’r holl Aelodau ynghylch y
Cynllun Rheoli Cyrchfannau Twristiaid yn eu hatgoffa fod dal cyfle
i gyfrannu at hyn. Dygir y cynllun drafft i gyfarfod y Pwyllgor
Dethol ar 19eg Hydref 2017.
Bydd cyfarfod Gorffennaf yn derbyn adroddiad i’w archwilio
mewn perthynas â darpariaeth TGCh mewn ysgolion a
STEM.
-
Mewn perthynas â Chynllun Datblygu Lleol y
Cyngor (CDLl)
a’r cynnydd araf i ddwyn ymlaen y safleoedd tai
strategol a neilltuwyd yn y CDLl (sy’n golygu nad oes gan y
Cyngor gyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai). Mae’r
cynllun i gael ei adolygu a rhagwelwyd y
bydd peth o’r diffyg hwn yn cael ei ddatrys dan yr adolygiad.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd yr Adran Gynllunio’n
derbyn ceisiadau cynllunio ar safleoedd na neilltuwyd, nad ydynt yn
y CDLl, y bydd yn rhaid eu penderfynu ar eu haeddiant yn aros am
adolygiad y CDLl.
Casgliad y
Pwyllgor
- Bod
rhestr o destunau a dafodwyd yng nghyfarfod heddiw yn cael eu
cynhyrchu gyda’r bwriad o drafod sut i fynd rhagddo â
datblygu blaenraglen waith.
-
Craffu adroddiad yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol
yng Ngorffennaf 2017 ynghylch darpariaeth TGCh mewn ysgolion a
STEM.
-
Cynhelir cyfarfod diweddariad yn cynnwys
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion gyda BT a Llywodraeth Cymru yn
gynnar yng Ngorffennaf 2017. Cyflwynir adroddiad diweddariad ar
gynnydd
i’r Pwyllgor Dethol mewn cyfarfod yn y dyfodol.
.
|