Agenda item

CAIS DC/2016/00883 - DATBLYGIAD MEISTR CYNLLUNIEDIG 13.8 HECTAR O DIR AR GYFER DEFNYDD PRESWYL A DEFNYDD CYFLOGAETH; HYD AT 266 UNED BRESWYL ARFAETHEDIG A THUA 5575 METR SGWÂR O OFOD LLAWR B1, FFERM ROCKFIELD, GWNDY, NP26 3EL.

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn yr ohebiaeth hwyr. Hefyd yn amodol ar gyfraniad cynllunio  lle dynodir penawdau’r telerau yn yr adroddiad a chytuno Cytundeb Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

 

Mynychodd yr Aelod Lleol dros The Elms y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae Magwyr a Gwndy wedi cael eu datblygu dros y blynyddoedd ond ni ddatblygwyd y seilwaith ar yr un raddfa.

 

·         Heb ganolfan gymunedol a chysylltiadau trafnidiaeth gwael, mae amwynderau’n ddiffygiol yn y gymuned ac fe’i llethir gan alwadau traffig.

 

·         Mynegwyd pryder na fydd y gymuned yn gallu ymdopi â’r boblogaeth gynyddol o ddatblygiad arfaethedig Rockfield.

 

·         Petai’r Pwyllgor Cynllunio’n ystyried cymeradwyo’r cais, gofynnodd yr Aelod Lleol i’r Pwyllgor geisio atebion oddi wrth y datblygwr ynghylch y materion canlynol:

 

-       Pryderon ynghylch y gyffordd T sy’n ymuno â’r B4245.

 

-       Traffig yn goryrru yw prif bryder y preswylwyr lleol.

 

-       Bydd 266 o dai ychwanegol yn creu 400+ o gerbydau.

i

-       Gallai cerbydau’n goryrru drwy heolydd Gwndy greu perygl posib i’r cyhoedd.

 

-       Mae angen sefydlu mesurau cywir i leihau goryrru gormodol.

 

-       Mewn perthynas â’r ardal o ddiwydiannau ysgafn B1 yng nghefn y datblygiad, a osodir unrhyw gyfyngiadau pwysau ar Dancing Hill neu drwy’r datblygiad?

 

-       Mynegwyd pryder mewn perthynas â’r perygl a osodir gan gerbydau dosbarthu nwyddau yn teithio drwy’r ardaloedd preswyl hyn.

 

-       Derbyniwyd llawer o gwynion oddi wrth breswylwyr Gwndy ynghylch parcio ar Pennyfarthing Lane o ganlyniad i dagfa pan adewir neu pan gesglir disgyblion o gwmpas Ysgol Gwndy.

 

-       Mae angen parcio oddi ar y ffordd i liniaru’r angen i barcio ar y lôn a fydd yn sicr o waethygu o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig. Gofynnodd yr Aelod Lleol i’r mater hwn gael ei adolygu.

 

-       Mae’r Aelod Lleol yn croesawu cyllid Adran 106 ar gyfer safle’r Tri Chae.

 

-       Mae angen gwella Gorsaf Magwyr ynghyd ê chael gwasanaethau bysiau gwell..

 

-       Dylid ailsefydlu Gorsaf Magwyr..

 

-       Byddai llwybr troed Magwyr a Gwndy i Rogiet yn elwa o gael llwybr beicio.

 

-       Mae angen y cyfraniadau a restrir yn fuan iawn cyn i’r datblygiad gael ei gyfanheddu er mwyn i’r prosiectau a restrir ddechrau dod â gwelliant i’r preswylwyr cyfredol a newydd.

 

-       Mae angen i breswylwyr gyfranogi yn y cynllunio ac yn nyluniad y datblygiad hwn. 

 

Mewn ymateb i’r materion a godwyd gan yr ELOD Lleol, nodwyd:

 

·         Parthed y terfyn amser i gyllid Adran 106, codwyd y materion yn gysylltiedig â’r Tri Chae mewn gohebiaeth hwyr. Mae hwn yn cyfeirio at yr hen ganolfan gymuned arfaethedig. Felly, mae’r Swyddogion yn argymell bod y cyfraniad o  £800,000 yn mynd tuag at yr un prosiect hwn. Hefyd, cynhaliwyd trafodaethau gyda’r ymgeisydd parthed y terfynau amser ar gyfer darparu’r cyllid hwn.

 

·         Mae cyfraniad y Tri Chae yn debygol o ddod o Gyfnodau A & D (Cyfnod 1).

 

·         Mae cyfraniad y Tri Chae yn debygol o ddod o Gyfnodau A & D (Cyfnod 1).

 

·         Mae cyfraniadau tuag at yr orsaf yn debygol o ddod o Gyfnod 2 y datblygiad.

 

·         Eir i’r afael â’r materion a godwyd ynghylch y traffig yn goryrru drwy gyfrwng Adran 278 y Cytundeb Priffyrdd.

 

·         Eir i’r afael hefyd â’r mynediad i dir cyflogaeth B1 drwy gyfrwng Adran 278 y Cytundeb Priffyrdd.

 

Wedi ystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod Lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·                                 Roedd yr Aelod Lleol wedi cyfleu mai’i ffafriaeth hi fyddai adeiladu

cylchfan ar y fynedfa i’r datblygiad yn hytrach na chael cyffordd T, gan y byddai’r gylchfan yn lleihau cyflymder y traffig yn y lleoliad hwn. Cyfeiriodd yr argymhelliad yn yr adroddiad at gyffordd T ac roedd opsiynau llai drud ar gael i reoli a chwtogi cyflymder traffig yn y lleoliad hwn.

 

·         Gellid edrych ar faterion y briffordd gyda’r bwriad o ddynodi gwahanol fecanweithiau i gwtogi cyflymder traffig. Dan Adran 278 o’r Ddeddf Briffyrdd, i wneud unrhyw gyffordd i mewn i briffordd, mae’n ofynnol cael cytundeb cyfreithiol dros yr union waith. Felly, gellid ymgorffori’r materion hyn i mewn i Gytundeb Adran 278.

 

·         Gellid rhoi ffenestri gwydr triphlyg yn amod cyfnod materion a gedwir yn ôl.

 

·         Nodwyd bod y cais hwn yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

·         Gellid cynnwys byngalos ar y safle yng nghyfnod materion a gedwir yn ôl.

 

·         Roedd ymgynghori gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwysig pan ystyriwyd ceisiadau am ddatblygiadau mawr.

 

·         Mae’r ohebiaeth hwyr yn cyfeirio at wybodaeth a osodir ar yr hysbysiad i’r ymgeisydd lle’r eir i’r afael â’r dyluniad a’r ymddangosiad. Cyflwynir pob un o’r ceisiadau manwl i’r Pwyllgor Cynllunio maes o law.

 

·         Bydd Swyddogion yn cychwyn ymgynghori gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol parthed ceisiadau o bwys. Mae’r cyflenwad pum mlynedd o dir adeiladu tai ar gael ar hyn o bryd a gall y Bwrdd Iechyd Lleol gael ei hysbysu o’r data hyn. Nodwyd y bu ymgynghori â’r Bwrdd Iechyd Lleol yng nghyfnod y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Crynhodd yr Aelod Lleol dros yr Elms drwy hysbysu’r Pwyllgor bod cyfyngiad o 30 milltir yr awr drwy Magwyr a Gwndy a deil problem cerbydau’n goryrru. Mae angen mesurau llonyddu traffig pellach yn y lleoliad hwn. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y byddai’n trosglwyddo i’r Gyfarwyddiaeth Briffyrdd y sylwadau a wnaed gan yr Aelod Lleol ynghylch mesurau llonyddu ar yr heol B fel y mae’n dod i mewn i’r pentref o Rogiet, fel rhan o’r Cytundeb Adran 278.

 

Cynigiwyd gan Y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DC/2016/00883 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn yr ohebiaeth hwyr. Hefyd yn amodol ar gyfraniad cynllunio lle dynodir penawdau’r telerau yn yr adroddiad a chytuno Cytundeb Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

 

.

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           14

Yn erbyn cymeradwyol          -           0

Atal pleidlais                           -            0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/00767 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Penderfynasom fod cais DC/2016/00883 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad ac yn yr ohebiaeth hwyr. Hefyd yn amodol ar gyfraniad cynllunio lle dynodir penawdau’r telerau yn yr adroddiad a chytuno Cytundeb Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

 

 

Dogfennau ategol: