Agenda item

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

 

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

 

·      Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;

·      Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)


Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

 

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Sylwadau Ysgrifendig gan Mary Ann Brocklesby, Llywodraethwr Ysgol Gynradd Deri View a Chynghorydd Tref Y Fenni. Yn fy nghapasiti personol.  

Annwyl Aelodau’r Pwyllgor,

Mae fy ymateb isod i’r ddogfen ymgynghori ar y cynnig i greu ysgol pob oed Y Fenni. Mae’r cynnig yn amlinellu ag eglurder pam fod angen disodli Ysgol Brenin Harri’r  VIII gydag awyrgylch dysgu sydd yn addas i’r diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n llai eglur am y buddion i Deri View (DV). Yn fy marn i, mae’n methu gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer yr ysgol newydd mewn nifer o ffyrdd allweddol.  

1.       Y sylfaen dystiolaeth

Mae’r sylfaen dystiolaeth yn wan. Maent yn gofyn i ni gefnogi un o’r buddsoddiadau mwyaf yn Y Fenni a'r hyn sydd i ddigwydd yn y dyfodol ac mae’n seiliedig ar set o dybiaethau heb gynnig y dystiolaeth y bydd yr ysgol newydd, ar y cyfan, yn arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer plant yn nalgylch DV,  o’i gymharu gyda’r hyn sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan ysgol ffyniannus sydd yn gwella’n barhaus. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon yma oni bai am ddweud bod CSF heb wneud diwydrwydd dyladwy a heb gynnal yr asesiadau sylweddol sydd angen o dan ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o ofal, nodweddion  gwarchodedig, yn enwedig oedran a Deddf Diogelu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Heb os, mae hyn yn gamgymeriad gyda  46%, a chanran sy’n cynyddu, o blant sy’n derbyn Prydau Bwyd Ysgol am Ddim. 

2.       Darpariaeth y Feithrinfa

Mae eithrio darpariaeth y feithrinfa o gylch gorchwyl y cynigion, gan na fydd yn cael ei chynnal, yn anhygoel. Mae asesiadau effaith ar gyfer y ddarpariaeth arfaethedig ar gyfer y gr?p oedran critigol hwn mewn ardal o dan anfantais nid yn unig yn angenrheidiol  ond mae’n orfodol. Dylai’r asesiadau yma gael eu hatodi at y cynnig ond nid ydynt ar gael. Mae’r cynnig arfaethedig cyfredol yn israddio’r  ddarpariaeth bresennol, o ran amser a mynediad, gyda llai o oriau a dim sicrwydd o lefydd yn y feithrinfa breifat newydd. Mae’r posibilrwydd bod plant bregus ac o dan anfantais yn colli eu darpariaeth,  yn enwedig y rhai hynny sydd y tu hwnt i drothwy Dechrau’n Deg, ac mae hyn mewn peryg o arwain at blant yn wynebu mwy o anfantais a’n fwy bregus, dim llai.    

3.       Cynnwys a chydweithio gyda rhieni  

Ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod rhieni a’r gymuned ehangach o gwmpas DC wedi eu cysylltu ac yn rhan o’r cynlluniau ar gyfer yr ysgol ac addysg eu plant.  Yn y cyfarfod cyhoeddus yr oeddwn wedi ei fynychu yn DV, roedd yna ymdeimlad fod pobl wedi eu brifo a phryder bod yna gais iddynt rannu eu barn mor hwyr ar ôl datblygu’r cynnig, heb unrhyw gydnabyddiaeth o sut y byddai colli DV yn effeithio ar y gymuned. Nid oedd rhieni wedi eu hargyhoeddi y byddai eu plant yn ddiogel, a bod y cyfnod pontio o ran addysg uwchradd, y rôl y mae DV wedi chwarae o ran cydlynu’r gymuned a dwyn y gymuned ynghyd, wedi ei hystyried a’i gwerthfawrogi.
I rai rhieni, dyma enghraifft arall o’u cymuned yn cael ei heithrio a’i hanghofio.  

Nid yw’r cynigion, fel ag y maent, yn gyson gyda pholisi datblygu cynaliadwy CSF o gynnwys a chydweithio ag eraill ac nid yw’n ddigon cadarn yngl?n â sut y mae, a sut y bydd yn y dyfodol, yn:  a) cydweithio gyda rheini a’r gymuned  wrth fynd i’r afael gydag amddifadedd economaidd-gymdeithasol a b) cynnwys yr ysgol gyfan mewn adolygiad agored cyn gweithredu unrhyw beth. Mae’r ddau beth yma wedi eu haddo yn yr atodiadau ar gyfer y cynnig. Mae Plant, Rhieni a’r gymuned yn haeddu gwell.