Agenda item

Cyflwyniad gan y Cyngor Iechyd Cymunedol

Cofnodion:

Materion Allweddol

Gwahoddwyd y Prif Swyddog ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) i’r cyfarfod i roddi diweddariad ar waith y Cyngor Iechyd Cymuned. 

 

Craffu Aelodau

Ar ôl derbyn y cyflwyniad, gwnaeth yr Aelodau sylwadau a holi cwestiynau fel a ganlyn:

 

Cyfeiriodd Aelod at swyddogaeth y CIC yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd i’r BIPAB a gofynnodd beth oedd ei safiad ar symud unedau mân anafiadau yn Sir Fynwy i Ysbyty Nevill Hall.  Ymatebwyd bod y CIC yn chwarae rhan flaenllaw, yn gweithio gyda BIPAB, gan weithredu unrhyw newidiadau mewn gwasanaeth er mwyn sicrhau y caiff safbwyntiau cleifion eu hystyried. 

 

Holwyd ymhellach sut mae aelodau’r cyhoedd i dderbyn a mewnbynnu gwybodaeth gan nad yw cyfarfodydd y CIC yn agored i’r cyhoedd.  Mewn ymateb, eglurwyd bod ymwybyddiaeth o’r CIC yn her ac yn uchel ar ei agenda ond ychwanegodd, pan fydd pobl angen ei wasanaethau, tueddant i ddod o hyd iddo (mae’r ffaith i dros 500 o achwyniadau ynghylch gwasanaethau BIPAB gael eu trin mewn blwyddyn yn dystiolaeth o hyn). Yn ychwanegol, eglurwyd bod gan y CIC 42 o aelodau (10 yn byw yn Sir Fynwy) a disgwylir iddynt ymgysylltu â’r cyhoedd fel rhan o’u swyddogaeth. Mae rhestr o ddigwyddiadau dros y flwyddyn i annog rhyngweithiad mewn e.e. fforymau lleol, clybiau cinio ayyb. 

 

Cadarnhawyd bod cyfarfodydd chwarterol CIC yn agored i’r cyhoedd a chânt eu hysbysebu i gymell pobl i fynychu. Ychwanegwyd bod llefydd gwag ar hyn o bryd a chroesewir aelodau newydd.

 

Gofynnodd Aelod i ba raddau roedd y CIC yn effeithiol wrth ymdrin â phryderon cleifion (e.e. oriau meddygfa Meddyg Teulu, practisau gwag, cyflenwi y tu allan i oriau) a beth ellir ei wneud mewn gwirionedd. Mewn ymateb, eglurwyd, pan fydd CIC yn ymwybodol o broblemau, gall wneud argymhellion i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a fydd yn darparu cynllun gweithredu i ddatrys y problemau a godwyd. Cadarnhawyd bod cynaliadwyedd Meddygon Teulu’n broblem fawr a bod y CIC yn bresennol mewn cyfarfodydd panel mynych gyda Gofal Sylfaenol ac yn eistedd yn annibynnol ar y pwyllgor meddygol lleol i sicrhau bod prosesau teg mewn perthynas â’r materion hyn. Ychwanegwyd bod arolwg mynediad Meddygon Teulu ar gael ar lein a gallai rhai ymatebion arwain at ymchwilio pellach ac ymgysylltu gyda chleifion.

 

Awgrymodd Aelod y gellid darparu clinig iechyd misol ym marchnad da byw Rhaglan ar gyfer asesiad iechyd sylfaenol. Cytunwyd y byddai’r CIC yn trosglwyddo’r awgrym hwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.  

 

Nodwyd bod y CIC yn dal swyddogaeth o gefnogi pobl ag achwyniadau ynghylch gwasanaethau BIPAB. Dywedwyd bod rhai cleifion yn ei chael yn anodd gwneud cwynion, ac ychwanegwyd bod y CIC yn rhy agos i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan felly nid oedd pwynt achwyn. Cyfeiriodd yr Aelod ymhellach at ymchwil a wnaed yn flaenorol gan y CIC ar amserau aros mewn clinigau ysbyty gan gwestiynu safon y gwaith.  

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y CIC yn sefydliad statudol annibynnol. Cydnabuwyd bod angen parhaus i arddangos annibyniaeth y CIC gan roddi’r esiampl bod yr enw’i hun yn peri dryswch. Cydnabyddir y ffaith ar draws Cymru ac mae dan ystyriaeth ar hyn o bryd. Eglurwyd bod gan y CIC swyddogaeth cyfaill beirniadol a bod BIPAB yn cymryd sylw o’r materion a godwyd ac yn mynd i’r afael â phryderon yn unol â hynny.  Eglurwyd sut caiff achwyniadau eu gwneud a’r gefnogaeth a ddarperir gan bedwar eiriolwr a fydd yn llywio’r claf drwy’r broses. Pwysleisiwyd na fydd yr eiriolwyr, fodd bynnag, yn cynnig barn ar yr achwyniad. Os yw’r unigolyn yn anhapus â’r canlyniad, oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cefnogir y claf i fynd â’r mater ymellach at yr Ombwdsman.                                                                                                                                                                                            

 

Cytunwyd y caiff yr ymholiad ynghylch ymchwil ei ystyried y tu allan i’r cyfarfod a rhoddwyd sicrwydd y caiff ymchwil a phrosiectau’u cyflawni’n drwyadl.

 

Dywedodd Aelod bod angen mwy o gyhoeddusrwydd ar y CIC. Cytunwyd y byddai mwy o gyhoeddusrwydd yn fuddiol, yn enwedig ar gyfer swyddogaeth eiriolaeth. Cadarnhawyd bod tri Aelod etholedig yn aelodau o’r CIC.  Maent yn gwneud ymweliadau ar ei ran a gallant hefyd gyfleu sylwadau i’r CIC. Adroddodd yr Aelod ar lwyddiant grwpiau cleifion sy’n cyfranogi yn ne’r sir a rhoddodd anogaeth i’r agwedd hon. 

 

Cwestiynwyd paham nad yw rhai cyfarfodydd CIC yn agored i’r cyhoedd. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod cyfansoddiad y CIC yn unol â rheoliadau sy’n dynodi pa gyfarfodydd sy’n agored a’r rheiny nad ydynt. Awgrymwyd cael lefel uwch o graffu yng nghyfarfodydd y CIC (yn debyg i Bwyllgorau Dethol) er mwyn bod mewn sefyllfa well i ddal BIPAB i gyfrif. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y CIC yn parhau i ymgysylltu â’r cyfryngau a bod ganddo aelodau Cyngor Tref a Chymuned. Mae’r CIC hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau cenedlaethol sydd wedi cynnwys offthalmoleg, plant a’r glasoed, dementia a gofal yr henoed.   

 

Text Box: Sylwadau’r Cadeirydd Diolchodd i Brif Swyddog CIC am fynychu’r cyfarfod a chadarnhaodd fod ewyllys da i gynnal deialog rhwng y Pwyllgor Dethol Oedolion a’r CIC. Croesawodd y datblygiad o ymgysylltu parhaus mewn cyfarfodydd gyda’r Pwyllgor Dethol ar wahân neu gyda BIPAB. Cydnabu’r Cadeirydd fod y CIC yn gweithio i ddatrys problemau cyfathrebu. Cadarnhawyd y bydd aelodau etholedig yn hapus i weithio gyda’r CIC i alluogi safbwyntiau pobl unigol a safbwyntiau’r boblogaeth i gael eu cynrychioli. Cytunwyd bod aelodau etholedig angen gwybod beth oedd y ffordd orau i ddatblygu a gwella gwasanaethau ar gyfer dinasyddion Sir Fynwy. Ymatebodd y Cadeirydd i gwestiwn gan Aelod bod cofnodion BIPAB Mehefin 2011 yn cyfeirio at gau’r Uned Mân Anafiadau yng Nghas-gwent ac roedd yn glir bod y CIC wedi cynghori nad oedd angen ymgynghoriad cyhoeddus. Ychwanegwyd, os yw’r CIC o ddifrif ynghylch cynnal trosolwg o wasanaethau yn yr ardal, dylai fod yn llai rhagfarnllyd a dylai ganolbwyntio ar anghenion poblogaethau. Awgrymwyd y dylai’r CIC ofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, paham nad oedd dim wedi digwydd ers tynnu gwasanaethau’n ôl a phaham na fu cyfathrebu gyda thrigolion ynghylch beth i’w wneud petai rhywun yn dioddef o fân anafiadau.