Agenda item

Gwariant Grant Cefnogi Pobl

Cofnodion:

Cyd-destun

Pwrpas yr adroddiad yw i Aelodau’r Pwyllgor ystyried cynigion Rhaglen   Grant Cefnogi Pobl (RhGCP) ar gyfer 2017/18 a chytuno’r Cynllun Gwariant arfaethedig.

 

Materion Allweddol

Mae’r Dyraniad Grant Dangosol ar gyfer 2017/18 yn awgrymu y bydd y lefel gyllido’r un fath ag ar gyfer 2016/17 - £2,039,175.00. Mae gan fwyafrif contractau RhGCP Sir Fynwy ddyddiad terfynu/adolygu ar Fawrth 2019.

 

Mae’r canllawiau a gysylltir â’r Grant yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau sicrhau bod natur y Cyllid Grant yn ddeiliadaeth ynghyd ag yn niwtral o ran oedran. Mae’r galw am gefnogaeth yn seiliedig ar dai i bobl h?n wedi lleihau gyda’r amrywiad contract o 10% a ganiateir yn cael ei weithredu yn y prif gontract i bobl h?n yn dod i ben, y darparwr wedi rhoi rhybudd ei fod yn terfynu’r contract.  

 

Bydd cefnogaeth i bobl h?n wedyn ar gael drwy’r model yn seiliedig ar le a’r Porth. Gwasanaeth generig cymorth fel y bo’r angen yw hwn ac mae dadansoddiad o’r deilliannau a gyflenwir gan y gwasanaethau generig yn dangos y darperir cymorth i’r holl gategorïau cefnogi ac felly, yr holl nodweddion gwarchodedig. Rheolir y trefniadau pontio drwy’r Porth a fydd yn sicrhau y caiff yr holl bobl sydd ar hyn o bryd yn derbyn cymorth eu hanghenion wedi’u hailasesu ac y cânt wedyn eu cyfeirio at y gwasanaeth cyflenwi priodol a fydd yn cwrdd â’u hanghenion.  

 

Yn 2016/17, datblygwyd dwy fenter beilot bwysig – cymorth i’r Di-gartref a llesiant a chymorth cynhwysiant cymdeithasol, y ddwy fenter o fewn y mentrau’n seiliedig ar le. Tra nad aeth y mentrau rhagddynt yn llawn tan Fedi/Hydref 2016, bu cynnydd sylweddol yn y deilliant a gyflawnir. 

Bydd mynediad i bobl h?n yn bennaf nawr drwy’n gwasanaeth Porth gyda’i weithwyr cymorth cysylltiedig yn y timoedd yn seiliedig ar leoedd.

 

Dynodwyd sefyllfaoedd yn ddiweddar lle nad aeth y rhaglen Cefnogi Pobl i’r afael yn llawn ag anghenion pobl iau a phobl sy’n gadael gofal. Mae’n bwysig cymryd camau gweithredu cadarnhaol i sicrhau bod y nodwedd fregus a gwarchodedig hon yn cael ei chefnogi’n briodol. Neilltuir adnodd dynodedig yn y cynllun gwariant.

 

Mae’r rhan fwyaf o’r contractau’n rhedeg tan fis Mawrth 2019; mae lefelau cyllido’n dal heb eu newid, ac mae’r fenter yn seiliedig ar leoedd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn i’r rheiny sydd angen cymorth yn y cymunedau. Mae’r ffordd newydd hon o weithio’n caniatáu i gymorth gael ei ddarparu yn seiliedig ar angen a heb ei gysylltu’n unig â’r fan lle mae person yn byw. 

 

Mae demograffeg Sir Fynwy wedi gwneud ein pobl h?n yn angen blaenoriaethol, fodd bynnag, mae’r anghenion cymorth ar gyfer y categori hwn wedi newid dros y blynyddoedd ac maent wedi lleihau. Mae gweithio mwy clos rhwng y gwasanaethau Oedolion a’r Personau Iau wedi dangos bod angen cymorth pellach wedi’i dargedu at bobl ifanc yn gadael gofal.

 

Craffu Aelodau

Cyflwynodd Arweinydd Cefnogi Pobl a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion gyd-destun yr adroddiad. Yn dilyn y cyflwyniad, gwnaeth yr Aelodau sylwadau fel a ganlyn:

 

Gofynnodd Aelod a oedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn parhau i adhawlio cyllid na chafodd ei wario neu ar gyfer prosiectau anghymwys. Mewn ymateb eglurwyd bod adolygiad gwasanaeth yn cael ei gynnal bob blwyddyn ac mae’n wybyddus bod awdurdodau eraill wedi gorfod ad-dalu arian pan gafodd ei wario ar brosiectau anghymwys. 

Mewn ateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor, eglurwyd y gall categoreiddio’r bobl sy’n derbyn cymorth fod yn broblematig. Gwasanaeth generig a chymorth fel y bo’r angen yw prif bwyslais darpariaeth gwasanaeth ac yn gyffredinol, mae cymorth yn seiliedig ar dai yr un fath ar draws unrhyw rai o’r nodweddion gwarchodedig.  At ddibenion cofnodi, gofynnwyd i’r Cyngor gategoreiddio cleientiaid sy’n derbyn cymorth a gall hyn wedyn fod yn ddryslyd pan wneir cymariaethau.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, cadarnhawyd mai 1400 yw nifer y bobl sydd angen cymorth (mewn cyferbyniad â nifer llai o bobl gyda llawer o wahanol anableddau).

 

Ceisiwyd eglurhad ynghylch categorïau heb eu cofnodi, yn benodol tra ceir ffigurau ynghylch cam-drin menywod yn y cartref, nid oes sôn am gam-drin dynion yn y cartref, hefyd pobl ag anableddau corfforol a chyflyrau hir dymor. Eglurwyd bod y rhain wedi’u cynnwys dan gymorth generig fel bo’r angen ac nid dan gategori penodol. Ychwanegwyd bod gan rai awdurdodau lleol brosiectau penodol ar gyfer y mathau hyn o grwpiau ond mae Sir Fynwy’n darparu mwy o gymorth generig yn seiliedig ar anghenion. Eglurwyd, dros y cyfnod diwethaf, i un ar ddeg o ddynion dderbyn cymorth o ganlyniad i gam-drin yn y cartref na chafodd ei gofnodi ar wahân gan fod hwn yn wasanaeth gochelgar a ddarperir yn bennaf, ond nid yn gyfangwbl, ar gyfer menywod ac mae’n wasanaeth sy’n seiliedig ar angen.

 

Codwyd ymholiad pellach ynghylch cydnabod cam-drin pobl h?n a chadarnhawyd bod ffigurau ar gyfer y maes hwn ond nad oes gwasanaeth ar wahân, o ganlyniad i gyfyngiadau cyllid. Heriwyd bod cam-drin pobl h?n yn gategori arwyddocaol i’w gofnodi a chadarnhawyd, pan ysgrifennir y strategaeth, darperir gwybodaeth arwyddocaol ar y modd y darperir cymorth.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd goblygiadau contract y bobl h?n yn dod i ben. Eglurwyd bod adnodd wedi’i roddi i’r gwasanaeth yn seiliedig ar leoliadau ac yn ystod y pontio tan ddiwedd y contract, bydd pawb yn cael eu hanghenion wedi’u hailasesu. Os yw anghenion yn dynodi’r person fel person cymwys, caiff ei gyfeirio drwy’r Porth at ddarparwr priodol i weithiwr cymorth yn seiliedig ar leoedd neu ddarparwr arall yn seiliedig ar angen a blaenoriaeth. Mewn ymateb i gwestiwn, gwadwyd y byddai toriadau, yn hytrach caiff pobl eu cefnogi ond mewn ffordd wahanol.

 

Gofynnodd Aelod gwestiwn ynghylch Larymau Cymunedol Careline ac eglurwyd y gallai’r RhGCP ond cyllido rhan o’r gwasanaeth larymau (51 ceiniog yr wythnos i bob larwm). Ychwanegwyd bod y gweithredwr wedi lleihau’r tâl wythnosol i 41 ceiniog ac mae’r galw wedi gostwng (ni chaiff 300 o unedau eu cyllido bellach o ganlyniad i ostyngiad mewn galw).  Eglurwyd nad yw rhai awdurdodau lleol yng Nghymru bellach yn talu am larymau cymunedol a gellid o bosib ystyried hyn yn y strategaeth yn y dyfodol. Holwyd a oedd dull mwy effeithiol, mwy cyfoes ar gael ond eglurwyd y bydd tâl y ganolfan alwadau’n aros yr un fath, waeth beth fydd y dechnoleg a ddefnyddir. Eglurwyd hefyd fod gan gynlluniau tai newydd dechnoleg yn rhan o’r system. Yn ychwanegol, mae unigolion yn defnyddio’u technoleg eu hunain megis ffonau symudol, felly, gallai cynnydd mewn technoleg oddiweddyd yr angen am wasanaethau larwm.

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylw bod peth dryswch ymhlith yr Aelodau e.e. preswylwyr mewn tai cysgodol ynghylch gwasanaethau larwm a hefyd ynghylch cymorth fel bo’r angen. Pwysleisiodd yr angen i’r holl ddarparwyr weithio gyda’i gilydd ac awgrymodd bod angen symleiddio pwy sy’n darparu’r gwahanol wasanaethau ac ar gyfer pwy. Cadarnhawyd bod amrywiol wasanaethau a chymorth a allai ddod o wahanol ffynonellau ond cadarnhaodd bod yr holl ddarparwyr gwasanaeth yn siarad â’i gilydd a bod ganddynt yr un pwrpas a’r un egwyddorion. Awgrymodd y Swyddog fod dadl y gallai LlC ystyried symud clustnodi cyllid Cefnogi Pobl gan ei fod yn gymorth person-ganolog (er mwyn osgoi drysu’r unigolyn). 

 

Gwnaeth Aelod o’r cyhoedd sylw ei bod yn deall nad oedd y strategaeth pobl h?n bresennol yn ddyledus i’w hadolygu tan 2023 a gwnaeth sylw hefyd ynghylch y tanwariant yn cael ei ddefnyddio i gyllido swydd Cydlynydd Pobl Ifanc. Nodwyd bod y tanwariant yn effeithio ar un contract yn unig ac y byddai ar gael i gefnogi pobl. Holwyd a ddarperid cyhoeddusrwydd i ddynodi pa arian fyddai’n cael ei wario ar gyfer pobl dros 55 oed. Eglurodd y swyddog fod LlC yn nodi bod yn rhaid i gyllid cefnogi pobl fod yn niwtral o ran oedran a deiliadaeth a chaiff cymorth, felly, ei ddyrannu yn ôl yr angen a’r flaenoriaeth am gymorth yn seiliedig ar dai. Ychwanegwyd, pan fydd un o’r prif ddarparwyr yn rhoi rhybudd o derfynu contract, roedd yn amserol symud tuag at un o’r mathau hyn o gontractau. Cadarnhawyd na fyddai’r cyhoeddusrwydd yn nodi’r angen am dai, waeth beth fyddai’r oedran, yr anabledd ayyb.

Text Box: Sylwadau’r Cadeirydd Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinydd Cefnogi Pobl am ei adroddiad. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn cytuno i argymell bod yr agwedd a amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei chymeradwyo. Gwnaed cais bod y strategaeth yn cael ei chraffu, pan gaiff ei drafftio, gan y Pwyllgor Dethol.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: