Cyd-destun:
Craffu
Cynllun Busnes ’Y Prentis’ 2016-18.
MaterionAllweddol:
Sefydlwyd Y
Prentis yn 2012 gan CMC2 a Chartrefi Melin
fel cwmni
‘na fyddai’n gwneud
elw’, cyfyngedig drwy
warrant, Y Prentis yw unig gyflenwr
cydnabyddedig rhannu prentisiaethau
mewn adeiladu yn
Ne-ddwyrain Cymru i’r
Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu
(CITB). Ei weledigaeth yw
‘darparu cyfleoedd cyflogaeth
hirdymor i helpu pobl ifanc fwyafu’u
potensial’ a’i nod yw
recriwtio
50 o brentisiaid newydd wedi’u
noddi gan
CITB bob blwyddyn a 10 prentis wedi’u
noddi gan Y
Prentis bob blwyddyn.
Mae
blaenoriaethau Y Prentis yn glir, sef:
- Cyflenwi mwy o brentisiaethau i gwrdd
ag angen
diwydiant.
- Cadw cyflenwad y newydd ddyfodiaid i
lifo.
- Datblygu cynnig o yrfa sy’n
hyrwyddo’r sector adeiladu fel
llwybr i ffyniant economaidd i
bobl o bob cefndir.
- Gweithio gyda CITB, ysgolion, colegau,
prifysgolion a chyflenwyr hyfforddiant
eraill i sicrhau ein bod
yn datblygu’u gwybodaeth, a’u
dealltwriaeth o ofynion y sector adeiladu.
- Darparu cefnogaeth i helpu busnesau i
wella’u min cystadleuol a chymryd
mantais o gyfleoedd newydd.
- Gweithiogyda’r CITB, diwydiant a’r
llywodraeth i helpu i gyflenwi
prosiectau seilwaith.
CraffuAelodau:
-
Hydyn hyn,
mae Y
Prentis wedi galluogi dros 160 o
bobl ifanc
i gael mynediad i brentisiaethau cynaliadwy sy’n
cynnig cyflog byw ac
mae 12 o’r rhain o Sir
Fynwy.
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol, nodwyd bod manylion
yr ardoll
yn dal i gael eu datblygu. Mae
Swyddogion yn disgwyl fframweithiau a chyngor
Llywodraeth Cymru.
-
Mae’rgalw eisoes
yn uchel ac
mae’n argoeli i barhau’n uchel
yn y blynyddoedd i ddod
parthed y sgiliau sydd
yn ofynnol
ar gyfer y
diwydiant adeiladu. Mae Y Prentis yn y lle delfrydol i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.
-
Mae astudiaeth
ar y gweill
drwy gyfrwng y Cynllun
Datblygu Gwledig (RDP) yn
nhermau anghenion ar
gyfer y sector arlwyo. Mae’n
debygol y bydd cyfleoedd
ar gyfer
prentisiaethau yn y maes hwn ac
mewn sawl
maes arall.
-
Gall Model Y Prentis fod
yn gymwys i
wahanol sectorau ond
mae’n gweddu i’r dim
i’r diwydiant adeiladu a
hefyd peirianneg.
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol, nodwyd bod gan Y
Prentis wyth coleg sy’n
bartneriaid. Mae Y Prentis wedi’i bartneru
gyda 60 o gontractwyr ac mae ganddo
oddeutu 30 o gleientiaid. Mae’r ddeialog
gyda cholegau ynghylch
yr hyn
sy’n ofynnol yn un barhaus ons mae angen ei chymryd ymhellach.
-
Mae’nofynnol i’r math
o addysg sydd angen ei gosod yn ei lle ym mhob ysgol a
choleg allu
darparu ar
gyfer y mathau o brentisiaethau
a gaiff eu
cynnig. Mae’r strategaeth
addysg ar
hyn o bryd
yn cael
ei hadolygu. Felly, dyma
gyfle da i fynd i’r
afael â’r materion hyn.
-
Mae model Y Prentis yn
cwmpasu rhanbarth De-ddwyrain
Cymru’n gyfan gwbl. Felly,
nid eithrir
neb o bortffolio prosiectau posib
a allai
fod yn
gyfrwng darparu cyfleoedd
hyfforddiant i bobl ifanc.
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch cyllid Y
Prentis, nodwyd bod Y Prentis
yn gweithredu ar
warged a bod ganddo arian iach
wrth gefn i
syrthio nôl arno
os bydd
angen.
-
Mae perthynas
weithio glos ar hyn o bryd gyda Gyrfaoedd
Cymru parthed cynghori
pobl ifanc.
Nodwyd bod Costain ar hyn o bryd yn gweithio
ar Ddeuoli
Blaenau’r Cymoedd rhwng
Gilwern a Brynmawr ac roeddent yn
annog y cyhoedd i ymweld
â’r safle. Nodwyd
i’r mater hwn gael ei
ddynodi ac roedd awydd
dilyn y mater hwn drwodd.
Casgliad y Pwyllgor:
- Mae gan y
Pwyllgor Economi yn Llywodraeth Cymru
ymholiad ar
y gweill ar
hyn o bryd
ynghylch prentisiaethau. Gallai
Cyngor Sir Fynwy osod ei safbwynt
gerbron parthed y mater hwn
gyda’r bwriad o helpu i
ffurfio polisi cenedlaethol.
|