Cofnodion:
Cyd-destun:
Darparudiweddariad ynghylch ailbrisio ardrethi busnes o 1af Ebrill 2017.
MaterionAllweddol:
- 2017/18 75% o’r cynnydd mewn pris.
- 2018/19 50% o’r cynnydd mewn pris.
- 2019/20 25% o’r cynnydd mewn pris.
Cymhwysterar gyfer Rhyddhad Trosiannol
• Talwyrardrethi sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethol i Fusnesau Bach (SBRR) ar 31ain Mawrth 2017 sydd o ganlyniad i gynnydd mewn gwerth ardrethol yn dilyn yr ailbrisio.
• Mae’nrhaid i’r adeilad busnes gael ei ddangos ar y Rhestr Ardrethi ar 31ain Mawrth 2017.
• Mae’nrhaid i’r cynnydd mewn atebolrwydd ardrethol fod yn fwy na £100.
• Mae’nrhaid i’r eiddo fod wedi’i feddiannu.
• Mae’nrhaid i’r talwr ardreth barhau i fod yr un person ag a oedd yn atebol ar 31ain Mawrth 2017.
• Mae’nrhaid i’r talwr ardreth fod heb dderbyn rhyddhad dan S44A (mae’n gymwys ar gyfer eiddo gaiff ei feddiannu’n rhannol am gyfnod byr o amser yn unig).
RhyddhadArdrethol i Fusnesau (SBRR)
Bydd y cynllun SBRR yn parhau i mewn i 2017/18. Mae eiddo â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn talu dim. Mae eiddo â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad graddedig. Gallai busnesau sy’n derbyn SBRR hefyd elwa o gynllun rhyddhad trosiannol.
Osyw rhywun yn gymwys ar gyfer rhyddhad i fusnesau bach fe fydd hyn yn eglur ar y bil ardrethi.
CynllunRhyddhad Ardrethol yn Targedu’r Stryd Fawr
Ynddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid o £10 miliwn i’w ddosbarthu rhwng y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn darparu mwy o gymorth i rai busnesau manwerthu gan gynnwys y rheiny sydd wedi gweld eu hardrethi’n cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i’r ailbrisio. Seilir y cynllun ar y Cynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru blaenorol, gan ddefnyddio’n fras yr un meini prawf eithriadau a chymhwyster i ddiffinio’r hyn yw eiddo manwerthu.
Dim ond newydd gael eu cwblhau mae rhai manylion y cynllun ond bydd yn darparu dwy haen o ryddhad. Hyd at £500 (haen 1) a £1,500 (haen 2) i eiddo sy’n gymwys â gwerth ardrethol o £50,000 neu lai yn y flwyddyn ariannol 2017/18.
Gellirrhoddi’r rhyddhad newydd hwn i’r Stryd Fawr yn ychwanegol at y SBRR a’r rhyddhad trosiannol ac fe’i cymhwysir i’r bil net wedi i bob rhyddhad arall gael ei gymhwyso. Rhoddir rhyddhad yn seiliedig ar amgylchiadau’r eiddo a’r talwr ardrethi ar 1af Ebrill 2017. Ni chaiff newidiadau a ddigwydd ar ôl y dyddiad hwnnw unrhyw effaith ar y cymhwyster ar gyfer rhyddhad.
Mae busnesau nad ydynt yn gymwys ar gyfer rhyddhad yn targedu’r Stryd Fawr yn cynnwys:
• Eiddo â gwerth ardrethol sy’n fwy na £50,000.
• Eiddonad ydynt yn hygyrch iawn i’r cyhoedd.
• Eiddowedi’u lleoli mewn parciau manwerthu ar gyrion y dref neu ar ystadau diwydiannol.
• Eiddonad ydynt wedi’u meddiannu.
• Y rheiny sy’n derbyn rhyddhad ardrethol gorfodol elusennol.
CraffuAelodau:
Casgliad y Pwyllgor:
|
Dogfennau ategol: