Rhoesom groeso i’r cyfarfod i Vivien Collins, Rheolwr i
Gyflymu Cymru i Fusnesau a David Elsmere, Rheolwr Partneriaeth i
Gyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn derbyn y cyflwyniadau
canlynol:
-
Diweddariad ar adleoli Cyflymu Cymru.
-
Diweddariad ar Gyflymu Cymru i Fusnesau.
Adleoli
Cyflymu Cymru
Ystadegau’n ymwneud â Sir Fynwy:
-
Cyfanswm yr Adeiladau mewn Ardal Ymyrryd
- 23,290
-
Cyfanswm yr Adeiladau a Basiwyd ar 24Mbps ac yn
uwch -
16,596
-
Adeiladau Cysylltiad Ffibr i’r Cabinet a
Basiwyd
-
15,481
-
Adeiladau Cysylltiad Ffibr i’r Adeilad a
Basiwyd
- 1,115
-
-
Canran ALl mewn Ardal Ymyrryd yr ALl a
Gwblhawyd - 71.26
%
-
Y nifer a dderbyniodd Gysylltiad Ffibr i’r
Cabinet
- 32.26%
-
Y nifer a dderbyniodd Gysylltiad Ffibr i’r
Adeilad
- 21.45%
-
Cyfartaledd Cyflymdra’r Lawrlwytho
- 78Mbps
Wedi derbyn cyflwyniad ar
adleoli Cyflymu Cymru, caniataodd y Cadeirydd i aelodau’r
cyhoedd a chynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Llanofer i
amlinellu’u pryderon a holi cwestiynau ynghylch y mater
hwn. Wrth wneud hynny codwyd y pwyntiau
canlynol:
-
Roedd Llanofer wedi derbyn cyflwyniad gan BT y
llynedd. Fodd bynnag, nid oedd un
o’r addewidion a wnaed gan BT wedi’u gwireddu.
Ymddengys nad oes unrhyw sancsiynau yn
eu lle i sicrhau cwblhau’r addewidion a wnaed. Mewn ymateb,
nodwyd bod gan BT dargedau chwarterol sydd yn rhaid cwrdd â
hwy ond nad ydynt yn benodol i le. Fodd
bynnag, mae’n rhaid i BT gwrdd â’r niferoedd
a osodir. Os na ddigwydd hyn, gosodir cosbau ariannol yn eu
lle.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch diffiniad
ardal anghysbell, nodwyd nad oedd
diffiniad. Fodd bynnag dywedodd Rheolwr Cyflymu Cymru, mewn
perthynas â llefydd penodol sydd ar hyn o bryd yn profi
problemau gyda’u cysylltiad band eang, byddai’n
codi’r materion hyn gyda BT.
-
Nodwyd y byddai 96% o’r eiddo yng
Nghymru’n derbyn mynediad i fand eang ac eithrio’r
ardaloedd anghysbell o fewn Cymru. Mae Sir Fynwy’n Sir
wledig, fodd bynnag, nid yw’n anghysbell.
-
Mynegwyd pryder ynghylch y diffyg gwybodaeth a
ddangoswyd gan BT pan fydd peiriannydd yn ymweld ag Llanofer. Yn aml, mae
peirianwyr yn dibynnu ar wybodaeth leol i’w goleuo ynghylch
lleoliad blychau a pha eiddo sy’n gysylltiedig â pha
flwch. Mae hyn yn digwydd yn rheolaidd. Ymddengys na chaiff y wybodaeth hon ei chadw ar gyfer y tro
nesaf y bydd peiriannydd yn ymweld â lleoliad penodol.
Dywedodd Rheolwr Cyflymu Cymru y byddai’r mater hwn yn cael
ei ddwyn yn ôl i BT.
-
Mae eiddo yn Llanofer â their llinell BT ar
gyfer tri busnes gwahanol. Fodd bynnag, nid yw un o’r llinellau’n derbyn darpariaeth
band eang dibynadwy. Mae hyn yn effeithio effeithiolrwydd y
busnesau. Lleolir yr eiddo ddwy filltir yn unig o’r brif
briffordd. Mae’r preswylydd yn talu am ddwy linell band eang
ond nid yw’n derbyn gwasanaeth digonol. Cytunodd Rheolwr Cyflymu
Cymru gymryd manylion yr eiddo a byddai’n derbyn ymateb oddi
wrth BT.
-
Nodwyd bod angen i’r gymuned ffermio
gael darpariaeth band eang dibynadwy gan
na ellir cyflwyno rhai data a hawliadau grant i’r llywodraeth
ond ar-lein yn unig.
-
Mae landlord t? tafarn yn Llanofer Uchaf yn profi
problemau tebyg gyda darpariaeth band eang annibynadwy sy’n
cael effaith andwyol ar ei fusnes. Dywedodd y Rheolwr dros Gyflymu
Cymru y byddai’n dwyn manylion y mater hwn yn ôl ac yn
eu trosglwyddo i BT.
-
Dau o’r prif sectorau yn Sir Fynwy yw
twristiaeth a ffermio ac effeithir yn negyddol ar y rhain gan
ddiffyg darpariaeth band eang o ansawdd dda.
-
Ystyriwyd y dylai Llywodraeth Cymru fynnu
darpariaeth band eang ar isafswm
cyflymdra gyda’r bwriad o sicrhau gwasanaeth
cyson.
-
Dywedodd y Rheolwr dros Gyflymu Cymru, ar gyfer yr
ardaloedd hynny heb ddarpariaeth band eang hyd yn hyn ac efallai na
fyddant yn y rhaglen, gall yr ardaloedd hyn wneud cais am y Grant
Mynediad i Fand Eang Cymru.
Craffu
Aelodau
-
Dychwelwyd Arolygon ar gyfer ardal Rhaglan a’r
prif broblemau yma yw’r gwasanaeth band eang gwael a
ddarperir.
-
Mewn perthynas â’r camau nesaf, nodwyd
wedi cwblhau’r contract cyfredol yn 2017, yn ystod y chwe mis
olaf y nod yw mynd allan i gaffael i
ddwyn y rhwydwaith ymhellach. Mae’r Gweinidog wedi clustnodi
cyllideb o £80M ar gyfer y tair i bum mlynedd
nesaf.
-
Gallai’r ardaloedd na leolir o fewn yr Ardal Ymyrryd wneud cais am y
Grant Mynediad i Fand Eang Cymru.
-
Mae angen i gymunedau na
leolir o fewn yr Ardal Ymyrryd ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn a
allent gael eu cynnwys.
-
Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar ddechrau Mai 2017
am un mis. Bydd hyn yn caniatáu i
gymunedau wirio a ydynt wedi cael eu
cynnwys yn yr Ardal Ymyrryd. Bydd hyn drwy gyfrwng lefel eiddo ac
nid lefel cod post.
-
Mewn perthynas ag
ymholiadau unigol, mae’r Awdurdod yn cadw cronfa ddata ar
gyfer yr adeiladau hynny sydd â phroblem, i
gofrestru. Mae rhai cynlluniau peilot
yn rhedeg ar hyn o bryd. Mae un
o’r rhain ar gyfer gofod gwyn Teledu sy’n defnyddio
signalau teledu analog ar gyfer band eang. Y cynllun peilot arall
yw Rhyngrwyd AB. Daeth y cyllid ar gyfer cynllun peilot Rhyngrwyd
AB, sy’n cynnwys Llanofer, yn uniongyrchol o Lywodraeth y
Deyrnas Unedig.
-
Mewn perthynas â cheblau, nodwyd y gellir
gosod ceblau ond nid ydynt yn fyw. Pan ddeuant yn fyw, a all gymryd
hyd at ddau i dri mis, bydd BT wedyn yn dechrau cysylltu â
phreswylwyr. Mae gwiriwr argaeledd ar Wefan Llywodraeth Cymru. Nid
yw’r cyfathrebiadau ynghylch y wybodaeth hon yn gyffredin.
Mae angen gwneud BT yn ymwybodol o’r mater hwn.
-
Mae’r system EcoPOP yn defnyddio ynni
adnewyddadwy i bweru’r system Rhyngrwyd AB. Fodd bynnag,
fe fu rhai problemau ynghylch
dibynadwyedd y system hon ac fe gawsant eu nodi.
-
Sir Fynwy oedd un
o’r rhanbarthau cyntaf yng Nghymru i dderbyn ceblau ffibr ond
Sir Fynwy yw’r rhanbarth olaf i gael ei
chysylltu.
-
Mae gan yr ystadau tai
newydd yn Nhrefynwy geblau ffibr. Dibynna ardaloedd eraill yn
Nhrefynwy ar geblau copr gyda chyflymdra arafach.
-
Mynegwyd pryder bod y contract gyda BT yn dibynnu ar
nifer y cysylltiadau a ddarperir. Felly, bydd BT yn mynd i’r
ardaloedd sydd hawsaf eu cysylltu yn hytrach na mynd i’r ardaloedd sydd o angenrheidrwydd
angen eu cysylltu’n gynt. Ystyriwyd bod angen adolygu’r
contract.
-
Mae’r Fargen Ddinesig sydd ar fin dod a’r gostyngiad yn nhollau Pont Hafren yn
newyddion da. Felly gwneir ymholiadau gan fusnesau ynghylch y
cyfleoedd a’r argaeledd ar gyfer lleoliadau busnes newydd yn
Sir Fynwy. Fodd bynnag, Sir Fynwy sydd â’r ddarpariaeth
band eang waethaf yng Nghymru a chaiff hyn effaith negyddol ar
fusnesau sy’n bodoli eisoes ac ar fusnesau â bwriad i
sefydlu lleoliadau o fewn y Sir.
-
Heb yr ardal ymyrryd nodwyd y byddai 16,000 o
adeiladau yn Sir Fynwy heb dderbyn y gwasanaeth.
-
Mewn perthynas â’r targedau parthed
niferoedd, nodwyd ei bod yn ofynnol i BT fynd i nifer o godau post
penodol gaiff eu dynodi fel ardaloedd blaenoriaeth. Penderfynir ar
yr ardaloedd hyn ar ddechrau’r prosiect ac fe’u
hadwaenir fel parthau gwerth ac fe’u lleolir yn yr ardaloedd
mwyaf anodd eu cyrraedd. Mae’n rhaid i BT gyrraedd 100%
o’r parthau gwerth hyn.
-
Cynghorwyd bod y Cyngor Sir a’r Cynghorau Tref
a Chymuned o fewn Sir Fynwy’n ysgrifennu at y Gweinidog yn
Llywodraeth Cymru ac yn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn
yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y cyfnod nesaf.
-
Dylid estyn gwahoddiad i’r Gweinidog fynychu
cyfarfod y Pwyllgor Dethol yn y dyfodol i glywed y pryderon yn
uniongyrchol.
-
Ar hyn o bryd 71% o Sir Fynwy sy’n derbyn band
eang. Bydd ffigurau newydd ar gael ar
ddiwedd Mai 2017.
-
Ystyriwyd bod cymunedau gwledig yn colli
allan ar ddarpariaeth band eang er bod
cyllid wedi bod ar gael ar gyfer darpariaeth band eang mewn
cymunedau gwledig.
-
Mynegwyd pryder bod darpariaeth band eang yn Sir
Fynwy’n wael a bod angen ei dwyn i fyny i’r
un lefel â siroedd eraill o fewn
Cymru. Dygid y neges hon yn ôl i BT.
-
Bydd y broses ymgynghori ar gael ar-lein a hefyd drwy’r post.
-
Mae nifer o breswylwyr yn talu am Gyflymu Cymru ond
maent wedi’u cysylltu i’r Cabinet anghywir ac maent yn
talu am wasanaeth na allant gael
mynediad iddo. Dygid y mater hwn yn ôl i BT.
- Mewn ymateb
i gwestiwn a godwyd, nodwyd mai rhai o’r adeiladau ar
ôl oedd y rheiny lle mae
cysylltiad yn ddrud i’w osod. Mae cyllideb benodol i’r
rhaglen. Y nod yw cael cymaint â phosib o adeiladau
wedi’u pasio. Felly, bydd rhai o’r adeiladau drutaf y
tu allan i’r rhaglen. Mae hefyd
amod yn y contract sy’n datgan, os yw’n debygol o
gostio mwy na £1700 i fynd i eiddo
sengl yna mae’n rhaid i BT fynd at Lywodraeth Cymru a gofyn
am ganiatâd i fynd i’r eiddo neu a ddylai BT fynd i
ardal a fydd yn darparu gwell gwerth am arian.
-
Yn groes i’r wybodaeth a ddarparwyd ynghylch
darpariaeth Cyflymu Cymru yn Devauden, nodwyd nad oedd y gwasanaeth wedi’i osod yn y pentref
a bod preswylwyr yn dal i ddisgwyl am gael eu cysylltu.
-
Roedd BT wedi gosod hawliad yn fisol am nifer o
adeiladau dan nifer o gyfnewidfeydd. Mae dau ymgynghorydd llawn
amser sy’n ymchwilio a yw’r
wybodaeth a ddarperir gan BT yn dechnegol gywir. Yna caiff 20%
o’r adeiladau’u gwirio’n ffisegol i sicrhau bod y
cysylltiadau’n gywir. Mae hyn yn cynnwys cyflymdra
lawrlwytho.
Cyflymu Cymru i
Fusnesau
Craffu
Aelodau:
-
Mae pum gweithdy a fydd yn cael eu cynnal yn Sir
Fynwy.
-
Gyda phob un o’r
awdurdodau lleol, mae gan Gyflymu Cymru i Fusnesau gynllun cyflenwi
sy’n ddogfen weithio.
-
Mae rhan o’r cyflenwi o’r
gweithdy’n fyw drwy gyfrwng gwefannau felly mae angen cysylltedd band eang da i arddangos y
rhaglen.
-
Cynhelir digwyddiadau brecwast yn
ogystal.
-
Mae cydgysylltiad gyda’r Cyngor Sir
yn allweddol i sicrhau llwyddiant ac
mae’r Awdurdod yn gefnogol iawn i’r
rhaglen.
-
Byddai’r Pwyllgor Ddethol yn croesawu
diweddariad ar gynnydd ymhen rhai blynyddoedd.
Casgliad y Pwyllgor:
- Nid ydym wedi gweld y sicrwydd roeddem yn
chwilio amdano neu’n gobeithio amdano.
-
Mae cyfleoedd i
ddylanwadu ar welliannau.
-
Mae angen atebion
i’r cwestiynau a godwyd.
-
Mae’r agwedd a
gymerir gan BT yn wirioneddol niweidiol i’r Sir oherwydd ein bod yn syrthio y tu ôl i weddill
Cymru.
-
Mae angen i
ni sicrhau ein bod yn cefnogi’n
cymunedau gwledig, ein busnesau a thwristiaeth drwy
adeiladu’r seilwaith digidol sydd angen bod yn effeithiol ac
yn ateb y diben i’r dyfodol.
-
Rhaid bod yn ymwybodol
o’r cyfnod ymgynghori sy’n cychwyn ar Fai 2017 a
gweithredu’n unol â hynny.
-
Yr Aelodau i dderbyn
map o Sir Fynwy yn dynodi’r ardaloedd o fewn y Sir, ar lefel
adeilad, sy’n derbyn darpariaeth band eang sy’n
dderbyniol.
-
Bydd y Cadeirydd yn
ysgrifennu ar ran y Pwyllgor Dethol, yn crynhoi’r materion a
godwyd heddiw ac yn anfon at y Gweinidog gais bod y Gweinidog yn
mynychu cyfarfod y Pwyllgor Dethol yn y dyfodol i ateb cwestiynau
ynghylch y mater hwn.
|