Agenda item

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Cofnodion:

Materion Allweddol:

 

Rhoddodd Richard Lee, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, a Louise Platt, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau gyflwyniad ar Wasanaethau Ambiwlans Cymru’r Ymddiriedolaeth GIG.

 

Eglurwyd bod y rheswm mwyaf poblogaidd dros alw ambiwlans yn y Deyrnas Unedig yn gysylltiedig â hen bersonau’n disgyn ac angen cymorth. Capasiti yw’r her pennaf. Eglurwyd y nodau strategol a hefyd y tair llinell o wasanaeth, sef y Gwasanaethau Meddygol Brys, y Gwasanaethau Gofal Brys (Ambiwlans Melyn), trosglwyddo Claf heb fod yn achos brys (Bysiau mini Gwyn) a Galw Iechyd Cymru.

 

Eglurwyd bod Model Ambiwlans Pum Cam sy’n dadansoddi’r gwasanaeth gan ddechrau gyda helpu’r cleifion i ddewis pa wasanaeth sydd fwyaf priodol i’w hanghenion a hefyd argaeledd gwasanaethau amgen. Cadarnhawyd, yn anffodus, bod galwadau dibwys yn dal i ddod drwy alwadau 999. Mae’r ail gam yn ymwneud â’r rheiny sy’n derbyn galwadau’n darganfod cymaint â phosib ynghylch cyflwr cleifion. Eglurwyd hefyd bod parameddygon a nyrsys yn cael eu defnyddio i gymryd galwadau er mwyn hidlo’r cleifion hynny nad oes angen ambiwlans arnynt, ac i flaenoriaethu fel y bydd yn briodol.   

 

Mae’r trydydd cam yn golygu penderfynu pa wasanaeth bwrdd iechyd sydd fwyaf priodol i ymweld â’r claf. Y pedwerydd cam yw sicrhau y darperir y driniaeth fwyaf priodol ac yn olaf, y pumed cam, y penderfyniad i fynd â’r claf i’r ysbyty.

 

Eglurwyd y Model Ymateb Clinigol a darparwyd manylion ynghylch y modd y caiff  blaenoriaethau’u cymryd. Darparwyd enghraifft o ymateb i alwad categori Coch gan egluro mai’r ymateb cyntaf ar y safle fydd naill ai parafeddyg mewn car, y gwasanaeth tân, ymatebydd cyntaf o’r gymuned neu Swyddog Cynnal Cymunedol yr Heddlu, yr ail i gyrraedd fydd ambiwlans. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth yr Ambiwlans yn gweithio’n galed i sicrhau bod diffribilyddion ar gael ym mhob cymuned ac aethant ar ofyn y Cyngor i sicrhau diffribilyddion mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd; pwysleisiwyd nad oedd angen hyfforddiant penodol i weithredu’r offer.  Eglurwyd, yn wahanol i’r cwrs hir a’r peiriannau drud oedd ar gael yn flaenorol, y gellir nawr ddarparu cwrs 20 munud ar gyfer peiriant sy’n costio llai na £1000.

 

Eglurwyd, yr ymatebir i alwadau categori Oren (65% o faint y galwadau) gan ambiwlans ar oleuadau glas. Eglurwyd bod ymateb delfrydol wedi cael ei ddiffinio ar gyfer pob galwad a rhoddwyd yr enghraifft o berson dan amheuaeth o ddioddef strôc yr anfonir ambiwlans brys ato gyda chriw o ddau berson o dechnegwyr meddygol brys a all gynnal prawf FAST ac a all drosglwyddo’r claf i’r ysbyty priodol.  Anfonir ambiwlans at glaf dan amheuaeth o ddioddef ymosodiad ar y galon gyda pharafeddyg i weinyddu Prawf Electrocardiograff (ECG).  

 

Ni allai ambiwlans fod yn ofynnol o angenrheidrwydd ar gyfer galwadau Gwyrdd neu ar gyfer y rheiny mae’u Meddyg Teulu wedi gwneud cais am ambiwlans i’w cludo i’r ysbyty ac ni fydd yn ymateb golau glas. Gellid siarad â’r cleifion hyn dros y ffôn a gofyn iddynt wneud eu ffordd eu hunain i’r ysbyty am driniaeth er mwyn rhyddhau argaeledd ambiwlans ar gyfer argyfyngau. Dywedwyd bod y perfformiad ar gyfer galwadau sy’n bygwth bywyd yn rheolaidd yn perfformio’n well na Lloegr.

 

Yn yr ardal hon, rhagwelir cynnydd o 3% mewn galwadau y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf gan gymryd na wneir unrhyw newidiadau i reoli’r mathau presennol o alwadau a dderbynnir. Mae hyn yn gyfystyr â’r angen i recriwtio llawer mwy o staff lle nad oes cyllideb ar ei gyfer. O ganlyniad, mae’r camau a gymerir i leihau’r galw yn cynnwys:

 

·         Rheoli’r rheiny sy’n galw’n aml gan ddefnyddio agwedd amlasiantaethol drwy ddefnyddio cynlluniau ymyrraeth dargedig sydd wedi lleihau nifer y galwadau a wneir.

·         Ymdrin yn llwyddiannus â mwy o alwadau dros y ffôn. 

·         Gweithio gyda’r Heddlu i sefydlu uned ymateb ar y cyd, lle mae swyddog heddlu’n mynd gyda pharafeddyg, sydd wedi lleihau’r galw am ambiwlans y gwnaed cais amdano ganddynt hwy o 75%. 

·         Gosod clinigwyr yn ystafell rheoli’r Heddlu ym Mhen-y-bont gan ryddhau Swyddogion Heddlu sy’n disgwyl am ambiwlans i fwrw ymlaen â gwaith yn y gymuned  a rhyddhau cerbydau ambiwlans. 

 

 

Eglurwyd, mewn perthynas â rheoli disgyniadau’r oedrannus, i dîm amlddisgyblaethol o ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol gyda pharafeddygon gael ei greu i weinyddu ar bobl oedrannus sydd wedi disgyn. Mae hyn wedi galluogi mwy o bobl i aros yn eu cartrefi. Yn ychwanegol, mae’r tîm yn cario addasiadau megis teclynnau codi uchder cadeiriau er mwyn atal disgyniadau yn y dyfodol.  

 

Darparwyd tystiolaeth o effaith gweithredu i leihau galw a ddangosai fod 3,349 o achosion wedi cael eu rheoli’n wahanol. Y flaenoriaeth yw sicrhau mai’r cleifion a gludir i’r Adran Damweiniau ac Argyfwng yw’r rheiny y gwna’r ymweliad wahaniaeth iddynt.

 

Craffu Aelodau

 

Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau gwestiynau:

 

Mynegodd Aelod ei buddiant bod newidiadau wedi’u gwneud drwy ad-drefnu gwasanaethau yn hytrach na gofyn am fwy o arian, a hefyd anghytunai â’r adnoddau a ddefnyddid i ddelio â phobl sydd wedi yfed gormod o alcohol ac awgrymodd bod angen agwedd wahanol. Ychwanegwyd hefyd y gall oediadau i’r ambiwlans ddigwydd mewn ardaloedd gwledig o ganlyniad i wybodaeth gyfyngedig ynghylch yr ardal.

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd y gellir sicrhau traean o’r rheiny sy’n gwneud galwadau y gallant wneud eu ffordd i’r ysbyty i gyrraedd yn gynt ar gyfer triniaeth e.e. torri garddwrn. Yn ychwanegol, anogir criwiau i asesu ar y safle os gall y claf wneud ei ffordd ei hun i’r ysbyty, neu os gall deithio mewn tacsi er mwyn rhyddhau’r ambiwlans ar gyfer achosion o argyfwng. Pwysleisiwyd y dylai’r cyhoedd fod yn ymwybodol na fydd cludo i’r ysbyty o angenrheidrwydd yn arwain at gael eich gweld yn gynt oni bai bod y criwiau ambiwlans yn ffonio ymlaen llaw i hysbysu staff yr ysbyty. Eglurwyd bod dyfais Llywio â Lloeren ym mhob ambiwlans ond ni fydd gan y criwau o angenrheidrwydd wybodaeth leol ynghylch pob taith.

 

Eglurodd y Cadeirydd ei fod yn ddiweddar wedi gweithio gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub a bod gan bob injan dân ddiffribilyddion awtomatig. Gall ymladdwyr tân gyda hyfforddiant meddygol manylach fynychu rhai galwadau’r Groes Goch fel ymatebwyr cyntaf ar gyfer achosion sy’n fygythiad difrifol i fywyd ar ran y gwasanaeth ambiwlans dan gynllun sy’n bodoli ar draws y Deyrnas Unedig - “Ymateb Meddygol i Dân”.

 

Holodd Aelod a oedd diffribilydd yn Neuadd y Sir, Brynbuga ac awgrymodd y dylai fod hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr a Swyddogion. Awgrymwyd hefyd y dylai prawf pwysedd gwaed a oedd ar gael yn flaenorol fod  ar gael ar gyfer staff ac Aelodau. Gwnaed y cynnig am hyfforddiant rhad ac am ddim mewn diffribilydd gan y Tîm Diffribilyddion Cymunedol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw safbwyntiau ar addasrwydd model Abertyleri yn gweithio yn Sir Fynwy a chwestiynodd hefyd y defnydd trawsffiniol o gerbydau ambiwlans.Mewn ymateb, eglurwyd bod angen ailfodelu’r orsaf dân yn Abertyleri felly fe ganolwyd Cymorth Cymunedol yr Heddlu, y Gwasanaethau Tân a’r Ambiwlans. Ychwanegwyd bod cynllun ystadau’r ambiwlans wedi’i ryddhau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, sy’n cynnig nifer lai o orsafoedd ambiwlans mwy ar draws Cymru gyda phwyntiau adleoli (a all fod yn orsafoedd tân).

 

Darparwyd Sir Fynwy fel enghraifft  lle bydd y gorsafoedd Tân ac Ambiwlans yn cael eu cyfuno yn yr Orsaf Dân sydd mewn gwell cyflwr o ran atgyweirio. Bu hefyd adolygiad ar alw a chapasiti a allai arwain at e.e. adleoli car parafeddyg i Frynbuga i fod yn fwy cyfleus.

 

Parthed cydweithio trawsffiniol ar ran cerbydau ambiwlans, eglurwyd bod y cerbydau ambiwlans y cyfeiriwyd atynt o Fryste yn gerbydau ambiwlans preifat o ganlyniad i brinder staff. Penderfynwyd bellach i beidio â defnyddio’r cwmnïau hyn yng Nghymru gan nad ydynt werth yr arian ac nad ydynt dan ein rheolaeth uniongyrchol. Cadarnhawyd bod cerbydau ambiwlans yn Sir Fynwy ac ar ffiniau Lloegr yn newid gwaith mewn trefniadau trawsffiniol a gynlluniwyd ymlaen llaw ac mae cronni adnoddau ymhellach dan ystyriaeth.

 

Eglurodd yr Aelod fod wyth diffribilydd yng Nghil-y-coed a disgwylir hyfforddiant.

 

Canmolodd Aelod safon yr adroddiad a’r datblygiadau a gofynnodd pa ataliad oedd ar gael i ddelio â galwadau ffug.  Eglurwyd bod 700 o gleifion wedi cael ymdriniaeth mewn ffordd gefnogol dan y rhaglen geilwaid aml a bod pedwar wedi derbyn dedfryd o garchar. Gallent hefyd gael eu cysylltu ag ymddygiad difrïol tuag at staff. Gwnaeth Aelod sylw y gallai mynediad haws at Feddygon Teulu hefyd ddatrys ychydig o’r galw am wasanaethau ambiwlans.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd unrhyw broblemau cyfathrebu gyda chartrefi gofal preswyl megis angen i gryfhau’r neges yngyhlch pan dylid galw ambiwlans a phryd i beidio â galw ambiwlans. Ymatebwyd bod llawer o waith wedi’i gyflawni gyda sector y cartrefi gofal, y bwrdd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chartrefi gofal unigol i fynd i’r afael ag amrywiadau mewn agwedd, rheoli symptomau a llwybrau diwedd oes ynghyd â’r amser cywir i alw ambiwlans.  

 

Gwnaed cynnig i ddarparu manylion ynghylch y deg cartref gofal ar frig galwadau aml yn Sir Fynwy.Eglurwyd y nod o farw gydag urddas yng nghartref cyfarwydd y claf. Pwysleisiwyd yr angen am gynlluniau gofal manwl ar gyfer diwedd oes naturiol. Ychwanegwyd i waith aruthrol gael ei gyflawni ar atal disgyniadau er mwyn adnabod pa gamau gweithredu sydd eu hangen i leihau’r risg o ddisgyn ac addysgu pobl i symud yn ddiogel yn eu hamgylchedd.  

 

Gwnaed cais i godi yn y fforwm ar ddydd Gwener fater bysiau Grassroutes gaiff eu cyfyngu i radiws o 50 milltir sy’n golygu, er enghraifft, na all pobl yn Nhrefynwy deithio i Gas-gwent, a bydd hyn yn effeithio’n benodol ar deithwyr anabl.

 

Text Box: Sylwadau’r Cadeirydd Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’r Ymddiriedolaeth GIG am eu cyflwyniad a’u hatebion cynhwysfawr, calonogol i gwestiynau. Gwnaeth y Cadeirydd sylw bod y Pwyllgor wedi argymell y dylai adeiladau’r Cyngor gael eu defnyddio i leoli diffribilyddion. Awgrymwyd yn gryf y dylai diffribilydd gael ei leoli yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga a hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu. Gohiriwyd yr adroddiad ar garcharorion oedrannus Carchar Brynbuga tan y cyfarfod nesaf a chaiff hefyd ei anfon ymlaen at Gyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddoniaeth Iechyd, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac at Gyfarwyddwr Gweithrediadau, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’r Gwasanaeth