Agenda item

Ystyried Gwasanaethau Strôc diwygiedig gyda rhanddeiliaid*

Cofnodion:

Materion Allweddol:

 

Eglurodd y Cadeirydd mai pwrpas y cyfarfod oedd clywed cyfraniadau gan wasanaethau partner a goroeswr strôc er mwyn helpu’r Pwyllgor Dethol Oedolion i ddeall mwy am Wasanaethau Strôc yn Sir Fynwy.

 

Derbyniodd y Pwyllgor Dethol gyflwyniad gan Gyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddoniaeth Iechyd, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a gwneud sylwadau. 

 

Gwyliodd y Pwyllgor glip ffilm byr yn dangos pwysigrwydd adnabod yn gyflym symptomau strôc a gweithredu’n CHWIM (Wyneb, Breichiau, Lleferydd, amser i alw 999) oherwydd po gyntaf y derbynnir triniaeth, gorau’r canlyniad. 

 

Clywodd y Pwyllgor fod gwasanaethau’n gweithio’n dda gyda’i gilydd ac eglurwyd bod y llwybr strôc wedi’i ailddylunio i wneud y gwasanaeth yn well i breswylwyr yn rhanbarth Gwent. Monitrir perfformiad y gwasanaeth yn fewnol ac fe’i monitrir gan Lywodraeth Cymru. 

 

Yn hanesyddol, darparwyd gwasanaethau ar gyfer cleifion strôc mewn 11 o wahanol ysbytai ac roedd dyrannu aelodau staff arbenigol i’r safleoedd hynny, i ddarparu’r un lefel o wasanaeth, yn profi’n broblematig, a dyna’r rheswm dros yr ailddylunio gan ddefnyddio’r dystiolaeth glinigol orau oedd ar gael.

 

Eglurwyd y bydd y rhan fwyaf o gleifion a amheuir o fod yn dioddef o strôc, sy’n byw yn ardal Gwent, yn cael eu cludo’n awtomatig i Ysbyty Brenhinol Gwent (YBG) lle cyfarfyddir â hwy wrth y drws blaen gan dîm strôc arbenigol (9am – 5pm, 7 niwrnod yr wythnos).  Caiff y cleifion sgan CT yn gyflym , ac os penderfynir eu bod wedi dioddef strôc, anfonir hwy i’r Uned Strôc Hyperacíwt (USH) ac fel arfer golyga arhosiad o 3-4 diwrnod. Bydd rhai pobl yn gwella’n weddol gyflym gydag ychydig neu ddim cymorth ac, os ydynt yn iach yn feddygol, anfonir hwy adref a derbyn adsefydlu yno.

 

Trosglwyddir cleifion o ogledd y rhanbarth i ward strôc Ysbyty Nevill Hall, bydd cleifion o’r gorllewin (ardal Caerffili) yn mynd i Ysbyty Ystrad Fawr a throsglwyddir y rheiny yn y de-ddwyrain i Ysbyty Gwynllyw. Y nod yw dychwelyd y claf adref cyn gynted â phosib, lle mae adferiad yn gynt, gyda’r cymorth sydd ei angen.

 

Rhoddwyd i’r Pwyllgor wybodaeth ynghylch sefydlu tîm Niwro–adsefydlu Cymunedol sy’n wasanaeth amlddisgyblaethol i’r bobl hynny sy’n feddygol iach ond angen adsefydlu.

 

Eglurwyd i’r Pwyllgor, bod ymgynghorydd strôc, nyrsys, ffisiotherapydd a therapydd galwedigaethol wedi bod ar gael 7 niwrnod yr wythnos ers Ionawr 2016.  

 

Ni chludir preswylwyr Sir Fynwy mwyach i Ysbyty Nevill Hall a chodwyd pryder ei bod yn cymryd mwy o amser i deithio i YBG, i’r claf ac i’r perthnasau, yng nghyd-destun teithio a pharcio. Eglurwyd, er mwyn lleihau’r effaith, y bydd y tîm ambiwlans yn ffonio’r ysbyty ymlaen llaw i’w hysbysu y bydd claf o bosib yn dioddef o strôc yn cyrraedd ac yn ôl yr arfer, fe fydd tîm strôc arbenigol yn cwrdd â’r claf wrth y drws. Cyflawnir asesiad ac os nad strôc ydyw, gall cleifion sy’n dioddef o  Bwl o Isgemia Dros Dro (PIDD) elwa o gael y profion angenrheidiol a’r cyngor angenrheidiol a hynny ar unwaith. Os yw’n fwy tebygol bod strôc wedi digwydd, bydd y claf yn cael sgan CT, caiff ei gymryd i’r USH a gweinyddir Thrombolysis os bydd hynny’n briodol. Ar gyfer cleifion Sir Fynwy, wedi Diwrnod 4, gallant naill ai gael eu rhyddhau o’r ysbyty neu gael eu symud i Ysbyty Nevill Hall.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Dethol o’r modd y caiff perfformiad ei fesur gan ddefnyddio Rhaglen Archwilio Strôc Genedlaethol Sentinel (RhASGS) a Mesurau Gwella Ansawdd Llywodraeth Cymru ac eglurwyd yr elfennau penodol a fonitrwyd.

 

Dangosodd canlyniadau RhASGS ar gyfer YBG welliannau a gydnabuwyd gan yr ysgrifennydd Cabinet fel yr unig safle yng Nghymru i gyflawni “A” gan ei dynodi fel yr uned strôc fwyaf blaenllaw yng Nghymru. Nodwyd hyn yn arbennig gan y Pwyllgor.

 

Eglurwyd bod angen gwella mewn rhai meysydd megis y ffaith nad oes gwasanaethau therapi 24/7 ar gael yn yr Uned Strôc a thros nos mae’n fwy anodd cadw gwelyau strôc. Hefyd gellir gwella graddfeydd thrombolysis. Mae perfformiad yn dal i gymharu’n dda gyda gweddill Cymru.  

 

Mae canlyniadau claf-ganolog hefyd yn dangos gwelliant ond yn ogystal yn adlewyrchu nad oes gwasanaeth 24/7 ar gael. Mae Nevill Hall wedi sgorio  “D” wrth gyfeirio at ddargyfeirio buddsoddiad yn nhermau staff ychwanegol ayyb.i YBG. Sgorau tebyg sydd i Ysbyty Gwynllyw ac Ysbyty Ystrad Fawr. Cydnabuwyd bod llawer iawn mwy i’w wneud.

Rhoddwyd esboniad ar Fesurau Gwella Ansawdd Llywodraeth Cymru a gwelwyd gwelliannau pendant. Yn nodweddiadol cadarnhawyd mai’r nod yw cael pawb i gael sgan CT o fewn awr ac mae perfformiad o leiaf yn 50% gan godi i 70%.

 

Parthed y Gwasanaeth Niwro-adsefydlu Cymunedol, mae’r data eleni yn dangos bod 40% o gleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty ymhen 3-4 diwrnod gydag adsefydlu gartref. Yn galonogol, ni chafwyd unrhyw ailgludo i’r ysbyty o ganlyniad i ryddhau’n gynnar gyda chymorth. O fis Medi, bydd y tîm hefyd yn cefnogi anafiadau a gafwyd i’r ymennydd yn ogystal.

 

Cadarnhawyd y bydd yr USH yn symud i Ganolfan Gofal Critigol Arbenigol  Llanfrechfa pan fydd ar agor. Nodwyd y manteision arfaethedig a’r datblygiadau i’r dyfodol. Gorffennodd y cyflwyniad â chlip sain oddi wrth oroeswr strôc.

 

Darparodd Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc wybodaeth ynghylch gwaith unigryw yr elusen yng Nghymru sydd i ddarparu gwasanaethau, cynnal ymchwil ac ymgyrchu dros well gwasanaethau strôc. Eglurwyd y gall strôc fod yn gyflwr gaiff ei gamddeall, gall ddigwydd i unrhyw oedran, caiff effeithiau enbyd a all barhau am oes ac mae’n effeithio ar yr holl deulu. Mae strôc yn lladd dair gwaith gymaint o ddynion na chanser y prostad a chanser y ceilliau gyda’i gilydd a thair gwaith gymaint o fenywod na chanser y fron. 

 

Cadarnhawyd, fodd bynnag, bod marwolaethau sy’n gysylltiedig â strôc â thuedd ar i lawr. Deng mlynedd yn ôl, dynodwyd Cymru fel y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gan arwain Llywodraeth Cymru i osod yn ei lle raglen bwrpasol o welliant. Eglurwyd bod y rhan fwyaf o’r gwelliannau wedi’u gwneud ar ben acíwt y sbectrwm ac fe arbedwyd bywydau. Mae’r USH yn YBG wedi chwarae rhan bwysig iawn yn yr agwedd hon. Pwysleisiwyd hefyd, fodd bynnag, y gall strôc gael ei thrin a’i hatal.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor i’r Gr?p Gweithredu ar gyfer Strôc gael ei sefydlu yn 2014 i oruchwylio’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc sy’n manylu ar y modd y dylai gwasanaethau gael eu datblygu ym mhob ardal. Eglurwyd, er gwaehaf y camau ymlaen, bod cynnydd eto i’w wneud gan nad mater meddygol yn unig yw strôc. Yn dilyn triniaeth, gall goroeswyr strôc deimlo bod pawb wedi cefnu arnynt pan gyrhaeddant eu cartref ac yn aml, mae’n rhaid i berthnasau yn ddi-rybudd ddysgu drostynt eu hunain. Felly mae’n bwysig bod llywodraeth leol a phartneriaid eraill yn gysylltiedig. 

 

Mae’r Gymdeithas Strôc yn darparu gwasanaethau Bywyd ar ôl Strôc ac mae’n dilyn unigolion o’r ward i’r cartref am hyd at flwyddyn  gan ddarparu cymorth hyblyg (cyngor a chymorth esmosiynol) i’r unigolyn a’r teulu cyfan. Darperir cymorth hefyd i oresgyn Affasia a sefydlir cyfleoedd cymdeithasol i helpu ar y daith i adferiad, a chynorthwyo i osgoi ail strôc.

 

Mae’r Gymdeithas hefyd yn darparu gwasanaethau atal oherwydd y gall 60% o strociau gael eu hatal. 

 

Wedi rhyddhau o’r ysbyty mae’r gymdeithas yn gweithio i sicrhau bod gan bob person gynllun gofal pwrpasol gyda dull cydlynol o gyfeiriad llywodraeth leol, iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siwr y gallant gyrraedd eu canlyniadau unigol.

 

Eglurwyd bod y rhaglen Codwch Lais dros Strôc wedi bod yn hynod lwyddiannus yn Sir Fynwy (wedi’i chyllido gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a’r Gronfa Loteri Fawr) a gynorthwyodd esblygiad  y llwybr newydd, gan weithio gyda goroeswyr strôc i roddi taw ar bryderon yn codi o ddatblygiad yr USH a’r dybiaeth y tynnir yn eu hôl wasanaethau eraill ac i fwyafu manteision i unigolion.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor Dethol bod gwasanaethau’n cael eu darparu mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd ac awdurdodau lleol. Yn annhebyg i awdurdodau eraill yn rhanbarth Gwent, nid yw Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Fynwy wedi darparu cyllid i’r Gymdeithas Strôc oherwydd y gwelir bod y  model yn Sir Fynwy’n effeithiol. Anogwyd bod deialog ar y mater hwn yn cael ei chynnal gan fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn Sir Fynwy ond yn derbyn cymhorthdal gan awdurdodau eraill a’r Bwrdd Iechyd.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan oroeswr strôc o’i phrofiad o’r amser yr aeth yn sâl, ei phrofiad o’r gwasanaeth ambiwlans, y driniaeth a dderbyniodd a’r adsefydlu yn yr ysbyty ac yn ei chartref. Eglurodd y materion ymarferol ac emosiynol i ymdopi â hwy a’r cymorth a ddarparwyd gan y Gymdeithas Strôc sydd wedi rhoi iddi’r hyder i ymuno â chlybiau a rhoi cynnig ar dipyn o bopeth. Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor yn gynnes i’r goroeswr strôc am rannu’i phrofiad a’i stori bersonol. Cydnabu’r cynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd hefyd gyfraniad y goroeswr strôc a phwysleisiodd yr angen i roi cymorth i’r Gymdeithas Strôc i ddarparu gwasanaethau hanfodol i unigolion yn eu cartref. 

 

Craffu Aelodau:

 

Cwestiynodd Aelod ostyngiad eithaf amlwg mewn perfformiad ac ymatebwyd bod sawl sleid yn dangos gostyngiad mewn perfformiad ar yr un adeg. Y rheswm am hyn oedd y ffaith bod meddygon yn yr adran argyfwng yn cylchdroi yn Awst/Medi a hefyd yr angen i sicrhau bod y staff  newydd yn gwybod am y llwybr strôc, yn enwedig y tu allan i oriau. Eglurwyd bod gostyngiad rhwng Rhagfyr a Chwefror yn deillio o alwadau cyffredinol o fewn y gwasanaeth pan mae’n anodd cadw gafael ar welyau a gedwir ar gyfer cleifion strôc. Rhagwelir y bydd y ffigurau hyn yn gwella.

 

Diolchodd Aelod i’r holl gyfranogwyr am eu cyfraniad i’r cyfarfod  gan fynegi barn bod y wybodaeth a gyflwynwyd wedi dileu rhai o’r ofnau. Darparodd yr Aelod hefyd fewnwelediad drwy brofiad personol o’r modd mae gwasanaethau wedi newid dros y blynyddoedd a holodd a oedd amser penodol o’r flwyddyn pan ddigwydd mwy o strociau nag arfer. Cwestiynwyd hefyd a weinyddid cyffur yn yr ambiwlans o fewn yr “awr euraid”.

 

Eglurwyd mewn ymateb, cyn ailddylunio, fod 930 o strociau wedi’u cadarnhau yng Ngwent. Byddai oddeutu 2000 ag amheuaeth o ddioddef strôc (byddai cyfran sylweddol heb ddioddef strôc). Cadarnhawyd, ers ailddylunio’r gwasanaeth, bod ffigurau wedi gostwng e.e. fel heb gefnogi ardal Powys a rhai newidiadau yng nghyrchfan ysbyty ardal Caerffili i Ysbyty’r Tywysog Siarl. Ar hyn o bryd caiff oddeutu 750 o strociau eu cadarnhau bob blwyddyn. Cytunwyd y bydd gwahaniaeth yn y gwasanaeth a dderbynnir petai’r unigolyn yn cyrraedd y tu allan i 9.00am-5.00pm ac y byddai’n well cael gwasanaeth 24 awr. Y gwelliant yw cael tîm pwrpasol ar gael wrth y drws blaen. Gosodwyd y gwasanaeth craidd 7 niwrnod yn ei le gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cyrraedd yr ysbyty o fewn y ffrâm amser hwnnw. Gwneir pob ymdrech i sicrhau cyn belled ag y mae’n bosib, y dylai fod dau wely strôc ar gael dros nos a darperir adborth yn gyson.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’r Ymddiriedolaeth GIG fel y mae’r agwedd at ymosodiad strôc ac ymosodiad ar y galon wedi newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth dros y blynyddoedd diweddar. Er enghraifft, cludir cleifion ymosodiad ar y galon i’r Labordy Cardiaidd ac nid i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Yn ychwanegol, gall parafeddygon wneud diagnosis i weld a fu ymosodiad ar y galon  yn seiliedig ar gasgliadau ECG a gweinyddu cyffur chwalu clotiau os yw’n briodol. Ar y llaw arall, mae’n rhaid i gleifion yr amheuir eu bod wedi cael strôc gael sgan CT yn gyntaf cyn y gellir defnyddio’r cyffur chwalu clotiau.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd cludo cleifion i’r ysbytai lle mae gofal strôc ar gael, sicrhau bod criwiau ambiwlans yn adnabod symptomau strôc a’u bod yn ffonio ymlaen i’w cyrchfan yn yr ysbyty. Eglurwyd bod y rheiny sy’n ateb galwadau ffôn yn derbyn gwybodaeth wael gan y rheiny sy’n gwneud galwadau ffôn a bod angen tipyn o waith caboli gwybodaeth a dderbyniwyd oddi wrth y rheiny sy’n gwneud galwadau.

 

Eglurwyd mai her arall i’r gwasanaeth yw nad oes llwybr yng Nghymru

i gleifion yn dioddef Pwl o Isgemia Dros Dro oni bai am eu cymryd i Adran Damweiniau ac Argyfwng ac ychwanegodd ei bod yn well i’r criw ambiwlans gyfeirio’r claf i glinic  Pwl o Isgemia Dros Dro o fewn 24 awr os yw’r symptomau wedi’u datrys. Dywedwyd bod cleifion gyda phob cyflwr wedi darparu adborth bod mynd i’r ysbyty’n ofidus ac y gellir, oherwydd nifer gyfyngedig o gerbydau ambiwlans, leihau’r oedi drwy beidio â chludo cleifion Pwl o Isgemia Dros Dro i’r ysbyty, ac e.e. gellir rhoi blaenoriaeth i gleifion â chyflyrau critigol.

 

Eglurodd Aelod beth oedd ei gysylltiad ef â’r Gymdeithas Strôc a mynegodd ei siom nad oedd swyddogion o’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol  i glywed y cyfraniadau grymus a wnaed yng nghyfarfod heddiw, a hefyd anogodd y Cyngor i ystyried cyfrannu i’r Gymdeithas gan nodi’r unigrwydd y gellir ei wynebu mewn cymuned wledig iawn. Awgrymwyd gwneud trefniadau i’r Gymdeithas Strôc gynnal digwyddiad ar gyfer cyflogeion y Cyngor i gynnwys profi pwysedd gwaed a thynnu sylw at bwysau yn y gweithle. 

 

Cytunodd Aelod y dylsai’r Gwasanaethau Cymdeithasol fod wedi’u cynrychioli yn y cyfarfod a mynnodd fod yn rhaid i’r Pwyllgor Dethol Oedolion newydd barhau i ganolbwyntio ar Wasanaethau Strôc ac y dylai’r Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd, a’r Gymdeithas Strôc gyfarfod i drafod cydweithio ymhellach. 

 

Llongyfarchodd Aelod berfforrmiad YBG a mynegodd bryder ynghylch y digwyddiadau lle gweinyddwyd Thrombolysis i 0% o gleifion o fewn 34 munud a holodd ai mater yn gysylltiedig â thymor y gaeaf oedd hwn. Cafodd ateb bod y dystiolaeth yn dangos, po gyntaf y gweinyddir Thrombolysis, gorau oll ond yn ychwanegol, ar ôl 3-4 awr, mae’r peryglon yn gorbwyso’r manteision. Eglurwyd bod nifer o elfennau’n cael eu monitro e.e. yr amser y meddylir i’r strôc ddigwydd i’r amser y meddylir y gellir gweinyddu’r

Thrombolysis a gall y canlyniadau ddibynnu ar ffactorau megis pa mor gyflym y gwneir yr alwad, pa mor hir yw’r trosglwyddiad i’r ysbyty a pha mor bendant yw’r amser pan ddigwyddodd. Eglurwyd, cyn yr ailddylunio, roedd yn llawer llai tebygol y byddai claf yn cael ei weld o fewn 45 munud. Dangosai’r graff y cyfeirid ato un elfen ond cofnodir elfennau eraill hefyd megis drws i nodwydd dan 30 munud a chychwyn Thrombolysis. Y flaenoriaeth yw asesu’n gynnar.

 

Awgrymwyd y dylai trafodaethau ar y testun hwn yn y dyfodol gynnwys achosion strôc, ei hatal, addysg, cyfnodau allweddol megis cyrhaeddiad cynnar hanfodol yr ambiwlans, y llwybr triniaeth ac adsefydlu. 

 

Clywodd y Pwyllgor Dethol gan Swyddog o’r Gwasanaethau Hamdden, a oedd hefyd yn cynrychioli defnyddwyr gwasanaeth (a wahoddwyd i gymryd rhan ond yn methu â mynychu). Eglurwyd mai nod y gwasanaeth yw atal strôc a gofal eilaidd. Gellir cyfeirio cleifion sydd wedi cael Pwl o Isgemia Dros Dro neu strôc o’r Gymdeithas Strôc, y Meddyg Teulu neu’r ffisiotherapydd i’r ganolfan hamdden i gymryd rhan mewn ymarferion diogel a phriodol. Mae’r Tîm Cyfeirio Ymarfer yn cydnabod y gall y gampfa a’r ganolfan hamdden ddigalonni rhai pobl ac yn argymell amgylchedd gyfeillgar ac esmwyth i ddarparu adsefydlu. Eglurwyd bod aelodau’r tîm yn cael ymarferion ar ôl strôc neu gymwysterau atal disgyniadau a’u bod yn ymroddedig i wella bywydau pobl a lleihau’r pwysau ar wasanaethau meddygol.

 

Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddoniaeth Iechyd, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yr angen i weithio mewn partneriaeth a pherthnasau da; gwnaed cynnig i ddychwelyd i ddarparu diweddariad i’r Pwyllgor.

 

Cydnabu Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc y cynnydd a wnaed drwy ymchwil a sail tystiolaeth. Eglurwyd bod ‘FAST’ wedi bod yn ymgyrch effeithiol. Cadarnhawyd y deellir bod ymchwil wedi’i dangyllido, ac roedd angen ymgyrchu i wneud strôc yn destun brys yn feddygol ac yn fater pwysig yn wleidyddol.

Text Box: Sylwadau’r Cadeirydd: Cydnabu’r Cadeirydd bod y Pwyllgor Dethol wedi ystyried Gwasanaethau Strôc gan gofio anghenion preswylwyr Sir Fynwy. Pwysleisiwyd yr angen i adeiladu ar y dystiolaeth rymus a dderbyniwyd yn y cyfarfod heddiw ac argymhellwyd bod cyfres o awgrymiadau’n cael eu gwneud i’r cyngor newydd wneud hynny. Tynnodd y Cadeirydd sylw Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd at y pwynt nad oedd Cyngor Sir Fynwy’n cefnogi’r Gymdeithas Strôc yn ariannol ac anogodd yn gryf bod trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r Cynghorydd Sir A. Easson, Ms. A. Shakeshaft, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapíau a Gwyddoniaeth Iechyd a Ms. A. Palazon, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc ynghylch y pwynt hwn. It was also requested that a blood pressure monitoring day is arranged for members of staff.