Agenda item

CAIS DC/2017/00196 - YMESTYN YR ADEILAD PRESENNOL (I'R DRYCHIAD DE) GYDAG ADEILAD DEULAWR I GYNNWYS ARDAL GWEITHGAREDD PLANT A CHYFARPAR MECANYDDOL ALLANOL AR Y TO. BYDD Y GANOLFAN HAMDDEN BRESENNOL YN CAEL EI HADNEWYDDU YN SYLWEDDOL YN FEWNOL GYDA PHWLL NOFIO A CHYFLEUSTERAU CYSYLLTIEDIG YN LLE'R NEUADD CHWARAEON. CAIFF Y BRIF FYNEDFA BRESENNOL EI SYMUD I'R DRYCHIAD DWYREINIOL GYDA MÂN WEITHIAU ALLANOL I'R MAES PARCIO PRESENNOL A THIRLUNIO CALED. CANOLFAN HAMDDEN TREFYNWY, HEN HEOL DIXTON, TREFYNWY, NP25 3DP.

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynychodd y Cynghorydd C. Munslow, yn cynrychioli Cyngor Tref Trefynwy, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Darparwyd 50% o gost y pwll nofio gwreiddiol, sydd bellach wedi’i ddymchwel i wneud lle i’r ysgol gyfun newydd, gan arian cyhoeddus.

 

  • Mae’nbwysig i ddefnyddwyr ardal Trefynwy fod y pwll nofio newydd y gorau y gellir ei wireddu.

 

  • Nidyw’r Cyngor Tref yn ymwybodol i unrhyw ymgynghori cyhoeddus ddigwydd ynghylch y dyluniad.

 

  • Roedd y pwll nofio, fel y dyluniwyd yn flaenorol yn yr ysgol gyfun i gael chwe lôn. Fodd bynnag, pum lôn, o bosib pedair, fydd gan y pwll nofio newydd, i’w leoli yn y ganolfan hamdden, ac mae hyn yn achos pryder.

 

  • Mae lled arfaethedig lonydd y pwll nofio yn cael ei gwtogi i 2.1 metr.  Y lled cenedlaethol ffafriedig a argymhellir yw 2.5 metr.

 

  • Wedimesur y neuadd chwaraeon, mae’r Cyngor Tref yn hyderus bod digon o le i gael chwe lôn 2.5 metr o led, gan adael perimedr 2 fetr o led.

 

  • Mae pryder ynghylch diffyg cyfleusterau i’r gwylwyr. Nid oes bwriad i gynnwys cyfleusterau gwylio ar gyfer gala nofio nac yn gyffredinol ar gyfer rhieni i wylio’u plant yn ystod gwersi nofio.

 

  • Gelliddarparu ardal wylio drwy symud y pwll o fewn y gampfa oddeutu 1 metr i’r gogledd-orllewin tuag at ystafell y cyfarpar gan alluogi adeiladu ardal wylio llawr cyntaf ar draws pen pellaf y pwll nofio. Gellid cael mynediad iddo drwy goridor y llawr cyntaf.

 

  • Gelliddefnyddio paneli haul i wresogi’r pwll nofio a gallai hynny ostwng y costau ynni.

 

  • Cyncymeradwyo’r cais, mae’r Cyngor Tref wedi gofyn am ymgynghoriad cyhoeddus pellach, am fod hwn yn gyfle i sicrhau y deuir o hyd i’r ateb gorau.

 

Mynychoddasiant yr ymgeisydd, Mr. David Hamer, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae ailfodelu’r cyfleuster hamdden ar safle Trefynwy yn gweddu i fodel cyfleuster hamdden newydd.

 

  • Mae’ngost effeithiol ac yn berthnasol i’r boblogaeth mae’n ei gwasanaethu. Gwnaed pob ymdrech i fwyafu gofod a sicrhau gwell cyfleusterau i’r pwll nofio.

 

Bydd y pwll nofio’n 25 metr o hyd gyda phum lôn, sydd yn unol ? gofynion y corff llywodraethu chwaraeon. 

 

  • Darperirar gyfer anghenion chwarae, ffitrwydd a lles cymuned Trefynwy i’r dyfodol.

 

  • Mae’rcyfleusterau newydd yn unol ?’r astudiaeth ddichonoldeb a gyflawnwyd dros y flwyddyn flaenorol.

 

  • Lled y pwll nofio yw 10.5 metr gyda phum lôn. Mae hyn yn unol ? chanllawiau’r Corff Llywodraethu Chwaraeon ar gyfer defnydd y gymuned a chystadlaethau lleol.

 

  • Mae canllawiau nofio Prydain yn nodi 2 fetr fel lled y lôn a lleiafswm o 0.2 metr i’r lôn y tu allan i’r lôn gyntaf a’r lôn olaf. Mae’r pwll o 10.5 metr yn darparu hyn. 

 

  • Mae ardaloedd rhydd ar gael ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf i wylio’r gweithgareddau a gaiff eu cynnal o fewn y pwll nofio.

 

  • Parthedcynaliadwyedd a’r defnydd o ynni, cynhwyswyd nifer o fesurau yn y cynigion i fynd i’r afael ?’r materion hyn. Nodwedd bwysig yw ailddefnyddio’r adeilad presennol a lleihau ôl troed adeilad newydd. Mae uwchraddio i oleuadau LED, cyfarpar rheoli goleuadau ynni effeithlon, gwelliannau i’r systemau rheoli adeiladu’n amgylcheddol i wella effeithlonrwydd y boeler a’r rheolaeth ar y gwres a darparu offer newydd ynni effeithlon i drafod ac oeri’r aer.

 

Amlinelloddyr Aelod lleol dros Dixton gyda Osbaston, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

  • Mewncyfarfod blaenorol o’r Cyngor Llawn cytunwyd y byddai Trefynwy’n derbyn gwell pwll nofio o gymharu ?’r pwll gwreiddiol sydd bellach wedi’i ddymchwel.

 

  • Symudwyd y pwll gwreiddiol i ganiatáu lleoli’r ysgol gyfun o fewn y safle gofynnol.  Rhoddwyd ystyriaeth i adeiladu pwll nofio 50 metr yn addas ar gyfer nofio rhyngwladol. Fodd bynnag, nodwyd na fyddai hyn yn fforddiadwy. Yn hytrach, darperid pwll nofio a fyddai’n addas ar gyfer cynnal campau nofio ac un y byddai’r dref yn falch ohono.  

 

  • Cyfeirir at led y pwll nofio. Cynhaliwyd trafodaethau lle codwyd y dylai lled y lôn fod yn 2.4 metr i ddod ?’r pwll nofio i fyny i safon cystadlu, i gynnal campau nofio a chaniatáu digon o le i nofwyr allu nofio’r strôc pili-pala.  Newidiwyd y pwll nofio yn yr ysgol i gwrdd ?’r gofynion hyn.

 

  • Nawr, o ganlyniad i ddiffyg cyllid, mae’r pwll nofio’n cael ei symud i ffwrdd o’r ysgol gyfun i’w leoli yn y neuadd chwaraeon. Oherwydd maint y neuadd chwaraeon, fe ddaw’r pwll nofio’n bwll pedair lôn.

 

  • Torrwydaddewidion i dref Trefynwy.

 

  • Nidoes lle eistedd ar gyfer gwylio. Nid oes lle eistedd i gystadleuwyr ychwaith. 

 

  • Ermwyn sicrhau’r pwll nofio, tynnwyd y neuadd chwaraeon i ffwrdd o’r ganolfan hamdden a’i rhoi yn yr ysgol gyfun. Felly, mae hon ar gael i’r cyhoedd yn ystod oriau ysgol.

 

Wrthnodi manylion y cais, mynegodd rhai Aelodau’r pwyntiau canlynol o blaid y cais:

 

  • Mae’rcais yn gwneud y defnydd gorau o’r hyn y gellid ei wneud o’r cyfleusterau sydd ar gael.

 

  • Nidyw fforddiadwyedd cynllun yn ystyriaeth cynllunio. 

 

  • Cyfarfuwyd ? gofynion y cyrff nofio gan faint y pwll nofio.

 

  • Bydd y cyfleusterau ychwanegol a ddaw drwy’r datblygiad hwn o fudd i Sir Fynwy.

 

  • Bydd y pwll nofio 25 metr o hyd gyda phum lôn sy’n cwrdd ? meini prawf ynghylch lled y pwll.

 

  • Mae dyfnder y pwll yn amrywio o 1 metr i 1.8 metr yn unol ? safonau’r corff llywodraethu.

 

Foddbynnag, mynegodd Aelodau eraill eu pryderon ynghylch y cais, fel a ganlyn:

 

  • Mae gostyngiad yn nifer lonydd y pwll nofio, nid oes ardal wylio ac mae’r pwll nofio’n fas gan ei gwneud yn anodd cynnal cystadlaethau a champau nofio. .

 

  • Mae’rcynlluniau newydd yn symlach, yr adeilad yn fwy cost effeithlon, i’r gwrthwyneb i’r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol.  .

 

  • Nidyw’r adeilad yn gweddu i’w bwrpas parthed ei faint.

 

  • Dylidcynnal ymgynghori pellach, fel yr awgrymwyd gan Gyngor Tref Trefynwy.

 

Wediystyried argymhelliad yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir B. Strong bod cais DC/2017/00196 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wedi’rbleidlais cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo’r  cais            -           9

Ynerbyn cymeradwyo’r cais         -           3

Atal pleidlais                                   - 1

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2017/00196 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: